1Os pecha dyn a chlywed llais llw, ac yntef yn dŷst naill ai’n gweled ai’n gwybod, oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
2Os dyn a gyffwrdd wrth ddim aflan, pwy bynac ai wrth furgyn bwyst sil aflan, ai wrth furgyn anifail aflan, ai wrth furgyn ymlusgiad aflan, er yn guddiedic oddi wrtho ef aflan, ac euog yw efe.
3Neu pan gyffyrddo ag aflendid dŷn pa aflendid bynnac iddo yr hwn y bydd efe aflan oi blegit: a’r yn guddiedig rhagddo, pan gaffo wybod euog yw.
4Neu dŷn a dwng, gan draethu a’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da am yr hyn oll a draetho dyn drwy lw, a’r yn guddiedic rhagddo, pan gaffo efe wybod: euog yw o vn o hyn.
5A phan fyddo efe euog o vn o hyn: yna cyffessed yr hyn y pechodd ynddo.
6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd: benyw or praidd, dafad neu lwdn gafr yn aberth tros bechod, a gwnaed’r offeiriad iawn trosto am ei bechod.
7Ond os ei law ni chyrredd werth oen, dyged i’r Arglwydd yn iawn am ei gamwedd yr hwn a bechodd, Lefit.12.8. Luc.2.24.ddwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn aberth tros bechod, ar llall yn boeth offrwm.
8A dyged hwynt at yr offeiriad ar offrymmed efe yr hwn tros bechod yn gyntaf, a rhwng ei fys ai fawd torred ei benn wrth ei wegil, ond na thorred ef ymmaith.
9A thaenelled o waed yr aberth tros bechod ar ystlys yr allor, a gwascer y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor, dymma aberth tros bechod:
10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna iawn drosto am ei bechod yr hwn a bechodd, a maddeuir iddo.
11Ac os ei law ni ddaw i ddwy durtur neu i ddau gyw colomen: yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddecfed ran Ephao beillied yn aberth tros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno: canys aberth tros bechod yw efe.
12A dyged hynny at yr offeiriad, a chymmered 43 yr offeiriad o honaw loned ei law yn goffadwriaeth: a llosged ar yr allor, ar aberth tanllyd yr Arglwydd: dymma aberth tros bechod.
13Felly gwnaed yr offeiriad iawn drosto ef ag vn o hynn am ei bechod yr hwn a bechodd efe, a maddeuir iddo, a bydded i’r offeiriad[ran] megis bwyd offrwm.
14A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
15Os gwna dŷn gamwedd a phechu drwy amryfusedd, mewn o’r pethau a gyssegrwyd i’r arglwydd: yna dyged i’r Arglwydd yn aberth dros ei gamwedd, hwrdd perffaithgwbl o’r praidd yn dy bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth tros gamwedd.
16Yna taled yr hyn y pechodd o’r peth cyssegredic, a rhodded ei bummed ran yn chwanec atto, a rhodded ef at yr offeiriad, a gwnaed yr offeiriad iawn trosto a hwrdd yr offrwm tros gamwedd: a maddeuir iddo.
17Ac os pecha enaid, Lefit.4.2.a gwneuthur yr vn o holl orchymynnion yr Arglwydd, hynn ni ddylid eu gwneuthur, er na wydde, etto euog fydd, ai anwiredd a ddwg.
18Yna dyged hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd, vn dy bris di, at yr offeiriad yn offrwm tros gamwedd, a gwnaed yr offeiriad iawn trosto am ei amryfusedd yr hwn a gamgymerodd efe ac yntef heb wybod, a maddeuir iddo.
19Aberth tros gamwedd hynn: mawr gamwedd a wnaeth yn erbyn yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.