Ieremi 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXV.Vfydd-dod yr Rechabiaid: ac anufydd-dod yr Iddewon.

1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd Ier.27.1.yn nyddiau Iehoacim mab Iosia brenin Iuda gan ddywedyd:

2Dos di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phâr di iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd i vn o’r stafelloedd, a dod iddynt wîn iw yfed.

3Yna myfi a gymmerais Iazaniah fab Ieremi fab Habaziniah ai frodyr, ai holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid.

4Ac mi ai dugym hwynt i dŷ yr Arglwydd, i stafell meibion Hanaan fab Igdalia gŵr i Dduw: yr hon oedd wrth stafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch stafell Maasiah mab Salum ceidwad y tryssor.

5Ac mi a roddais ger bron meibion tŷ y Rechabiaid phiolau yn llawn o wîn, a chwpanau: ac mi a ddywedais wrthynt, yfwch win.

6Ond hwy a ddywedasant, nid yfwn ni wîn, o herwydd Ionadab mab Rechab ein tad ni a roddodd i ni orchymyn gan ddywedyd: nac yfwch wîn, chwy chwi na’ch plant yn dragywydd.

7Nac adailedwch dŷ, ac na heuwch hâd, ac na phlennwch win-llan, ac na fydded gennwch chwi: o blegit mewn pebyll y presswyliwch eich holl ddyddiau, fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaiar lle yr ydych chwi yn ddieithriaid.

8Ac nyni a wrandawsom ar lais Ionadab mab Rechab ein tâd am bob peth a orchymynnodd efe i ni: nad yfem ni wîn ein holl ddyddiau, nyni ein gwragedd, ein meibion, a’n merched.

9Ac nad adailadem i ni dai iw presswylio, ac na bydde i ni na gwin-llan, na maes, na hâd.

10Eithr trigo o honom ni mewn pebyll: felly nyni a wrandawsom, ac a wnaethom yn ôl yr hynn oll a orchymynnodd Ionadab ein tâd i ni.

11A phan ddaeth Nabuchodonosor brenin Babilon i fynu i’r wlad, nyni a ddywedasom, deuwch, ac awn i Ierusalem rhac llu y Caldeaid, a rhac llu yr Assyriaid, ac yn Ierusalem yr ydym ni yn presswylio.

12Yna y daeth gair yr Arglwydd at Ieremi gan ddywedyd:

13Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, dôs di, a dywet wrth wŷr Iuda, ac wrth bresswyl-wŷr Ierusalem: oni chymmerwch chwi addysc i wrando ar fyng-eiriau medd yr Arglwydd.

14Geiriau Ionadab mab Rechab y rhai a orchymynnodd efe iw feibion a siccrhauwyd nad yfent win, canys nid yfasant hwy hyd y dydd hwn, o blegit hwynt a wrandawsant ar orchymyn eu tâd: A minne a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn foreu a llefaru, ond ni wrandawsoch arnafi.

15Myfi a anfonais hefyd attoch chwi fy holl weision y prophwydi gan godi yn foreu ac anfon i ddywedyd, dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch yn ôl duwiau dieithr iw gwasanaethu hwynt, fel y trigoch yn y wlad yr hon a roddais i chwi: ac i’ch tadau, ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf.

16Yn ddiau meibion Ionadab mab Rechab a gyflawnasant orchymyn eu tad, yr hwn a orchymynnodd efe iddynt: ond y bobl ymma ni wrandawsant arnafi.

17Am hynny fel hynn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd Duw Israel, wele fi yn dwyn ar Iuda, ac ar holl drigolion Ierusalem yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: canys mi a ddywedais wrthynt, ond ni wrandawsant, gelwais arnynt, ond nid atebasant.

18Ac Ieremi a ddywedodd wrth dŷlwyth y Rechabiaid, fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: o herwydd i chwi wrando ar orchymyn Ionadab eich tad, a chadw ei holl orchymynnion ef, a gwneuthur yn ôl yr hynn oll a’r a orchymynnodd efe i chwi,

19Am hynny fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: ni phallha na byddo gŵr i Ionadab fab Rechab yn sefyll ger fy mron i yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help