1.Machabæaid 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Y Rhufein-wyr yn scrifennu ac frenhinoedd a chen­hedloedd yn achos yr lddewon.

1Antiochus hefyd mab y brenin Demetrius a anfonodd lythyrau o ynysoedd y môr ac Simon yr offeiriad, a phen cenedl yr Iddewon, ac ac y genedl oll.

2Ac yr oeddynt hwy yn cynnwys y modd hyn: Y BRENIN Antiochus yn cyfarch Simon yr arch-offeiriad a’r tywysog a phobl yr Iddewon.

3O herwydd i wŷr sceler gael gafael a’r deyrnas ein henafiaid ni,

4A bod fy ewyllys ar roddi hawl i’r frenhiniaeth, iw hailgosod fel yr oedd o’r blaen: am hynny mia gesclais lawer o nerth, ac a baratoais longau rhyfel, ac yr ydwyfi yn ewyllysio myned trwy ’r wlad i ddial ar y rhai a llygrasant ein gwlad ni, ac a wnaethant lawer o ddinasoedd yn anghyfannedd yn y deyrnas.

5Am hynny yn awr yr ydwyf yn rhoddi i ti yr holl offrymmau y rhai a faddeuodd y brenhinoedd y rhai a fuant o’m blaen i ti, a pha bethau bynnag eraill a faddeuasant hwy i ti.

6Megis y gadawsant i ti daro math o arian priodol i’th wlad ti,

7A bod Ierusalem yn sanctaidd, ac yn rhydd, a’r holl arfau y rhai a wnaethost, a’r ce­still y rhai a adailedaist, y rhai yr ydwyt mewn meddiant o honynt, parhaed i ti.

8Maddeuer hefyd i ti holl ddyled y brenin, a’r hyn a fyddo o ardreth brenin o hyn allā byth.

9A phan ddarffo gwastadhau ein teyrnas nyni a’th anrhydeddwn di a’th genedl, a’r deml ag anrhydedd mawr fel y byddo eglur eich gogoniant chwi trwy yr holl dîr.

10Y bedwaredd flwyddyn ar ddêc a thrugain a chant yr aeth Antiochus i dîr ei henafiaid, a’r holl luoedd a ddaethant yng-hyd atto ef fel nad oedd ond ychydig gyd â Tryphon.

11A’r brenin Antiochus ai hymlidiodd ef, ac yntef a ddaeth i Dora, gan ffoi tu a’r môr.

12O blegit efe a wybu ymgasclu o ddrygi­oni yn ei erbyn ef, a’r lluoedd ai gadawsant ef.

13Ac Antiochus a werssyllodd yn erbyn Dora, a chyd ag ef ddeuddeng mil o ryfel-wŷr, ac wyth mîl o wŷr meirch.

14Ac efe a amgylchodd y ddinas, ac a gasclodd longau o’r môr, ac a flinodd y ddinas o’r tîr a’r mor, fel na adawodd efe i neb fyned allan na dyfod i mewn.

15Yna y daeth Numenius a’r rhai oeddynt gyd ag ef o Rufain â llythyrau ganddynt at y brenhinoedd a’r gwledydd ym mha rai yr oedd hyn y scrifennedig.

16Lucius Consul y Rhufeiniaid yn anerch y brenin Ptolomeus.

17Cennadon yr Iddewon ein cyfeillion a’n cymedeithion a ddaethant attom ni i adnewyddu y gyfeillach a’r gymdeithas a fuase o’r bla­en, wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr arch-offeiriaid a phobl yr Iddewon.

18Ac hwy a ddygasant darian o aur o bum mil o bynnoodd.

19Am hynny nyni a welsom yn dda scrifennu ac y brenhinoedd a’r gwledydd, na cheisient niwed iddynt, ac na ryfelent yn dda scrifennu nai dinasoedd nai gwlad, ac na chynnorthwyent y rhai a ryfelent iw herbyn.

20Ac ni a welsom yn dda dderbyn y tarian ganddynt hwy.

21Am hynny os ffôdd rhai dynion sceler oi gwlad hwynt attoch chwi, rhoddwch hwynt: Simon yr arch-offeiriad, i ddial arnynt yn ôl eu cyfraith hwynt.

22A hyn a scrifennodd Demetrius at y brenin, ac Attalus ac Aratha,

23Ac Arsaces, ac i bob gwlad megis i Samsanes, at yr Spartiaid, i Delus hefyd, ac i Myndus, ac i Sicion, ac i Caria, ac i Samos, a Phamphilia, ac i Lycia, ac i Alicarnassus, ac i Coo, ac i Sida, ac i Aradon, ac i Phaselidis, ac i Gortyna, a Gnidum, a Cyprus, a Cyrene.

24Ac hwy a scrifennasant goppi o honynt at Simon yr arch-offeiriod.

25A’r brenin Antiochus a werssyllodd yn erbyn Dora yr ail waith, gan ddwyn cryfder bob amser yn ei herbyn hi, a gwneuthur offer rhyfel, ac efe a gaeodd ar Tryphon rhag myned nac i mewn nac allan.

26A Simon a anfonodd iddo ef ddwy fil o wŷr dewisol iw gynnorthwyo ef, ac aur ac arian a llestri lawer.

27Ac ni fynne efe eu cymmeryd hwynt, eithr efe a ddorodd yr ammod a wnaethe efe ag ef o’r blaen, ac a ymddieithrodd oddi wrtho ef.

28Ac efe a anfonodd Athenobius vn oi garedigion i ymddiddan ag ef gan ddywedyd: yr ydych chwi yn meddiannu Ioppe, a Gazara, a’r tŵr yn Ierusalē dinasoedd fy nheyrnas maufi.

29Chwi a wnaethoch eu cyffiniau hwynt yn anghyfannedd, ac a wnaethoch ddialedd mawr yn y tir, ac a feddiannasoch lawer o fannau yn fy nheyrnas maufi.

30Am hynny yr awron moeswch y dinasoedd a gymmerasoch chwi, ac ardreth y lleoedd a feddiannasoch chwi, a’r cyffiniau y rhai ydynt o’r tu allan i Iudaea.

31Ac onid ê, moeswch bum-cant o dalentau arian am danynt hwy, a phum cant eraill o dalentau am y dinistr a wnaethoch, ac ardreth y lleoedd, onid ê nyni a ddeuwn, ac a ymlladdwn yn eich erbyn chwi.

32Felly y daeth Athenobius caredig y brenin i Ierusalem, ac efe a welodd ogoniant Si­mon, a’r cwp-bwrdd a’r llestri aur, a’r llestri arian, ac arlwy mawr, a rhyfedd fu ganddo: ac efe a fynegodd iddo eiriau y brenin.

33Yna Simon a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, ni chymerasom ni dir arall, ac nid attaliasom yr eiddo arall, ond etifeddiaeth ein henafiaid: a tros ennyd o amser fu mewn meddiant gan ein gelynion yn anghyfiawn:

34A phan gawsom ni amser, ni a fynnasom trachefn etifeddiaeth ein tadau.

35Ac am Ioppe a Gazara y rhai wyt ti yn eu ceisio, yr oeddynt hwy yn gwneuthur niwed mawr i’n pobl ni, ac i’n gwlad: ni a roddwn am y rhai hynny gant talent: ac nid attebodd yntef air:

36Eithr efe a ddychwelodd at y brenin yn ddigllon, ac a fynegodd iddo y geiriau hyn, ac anrhydedd Simon, a’r hyn a welse efe oll: a’r brenin a ddigiodd yn ddirfawr.

37Yna yr aeth Tryphon i long, ac efe a ffôdd i Orthosias.

38A’r brenin a osododd Cendebeus yn gap­ten ar lann y môr ac a roddes iddo ef luoedd o wŷr traed, ac o wŷr meirch.

39Ac efe a orchymynnodd iddo ef werssyllu o flaen Iudaea, ac a archodd iddo adailadu Ce­dron, a chadarnhau y pyrth i orchfygu y bobl, a’r brenin a ymlidiodd Tryphon.

40Yna y daeth Cendebeus i Iamnia, ac efe a ddechreuodd gyffroi y bobl, a dyfod i dir Iudaea, a chaeth-gludo y bobl ai lladd,

41Ac adailadu Cedron: ac efe a osododd yno ei wŷr meirch a’r llu, fel y gallent fyned allan, a rhodio rhyd ffyrdd Iudaea, fel yr ordeiniase y brenin iddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help