1Cadw fi ô Dduw, canys ynot yr ymddyriedais.
2Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, fy Arglwydd ydwyt ti: fy nâ nid ddim i ti.
3Ar y sainct y rhai ydynt ar y ddaiar, a’r rhai rhagorawl, y mae fy holl ewyllys.
4Gofidiau a amlhânt a fryssiant dieithr: eu diod offrwm o waed ni offrymmaf fi: ac Exod.23.13.ni chymmeraf eu henwau yn fyng-wefusau.
5Yr Arglwydd rhann fy etifeddiaeth a’m phiol: ti a gynheli fyng-hoelbren i.
6Etifeddiaeth a syrthiodd i mi mewn hyfryd: ac i mi etifeddiaeth dêg.
7Bendithiaf yr Arglwydd yr hwn a’m cynghôrodd: fy arennau hefyd a’m dyscant drwy’r nôs.
8 Act.2.25. Gosodais yr Arglwydd bôb amser ger fy mron: canys ar fy neheu-law fel na lithraf.
9O herwydd hynny y llawenychodd fyng-halon, ac yr ymhyfrydodd fyng-ogoniant: fyng-nhawd hefyd a orphywys mewn gobaith.
10Canys, Act.2.31.ni adêwi fy enaid yn vffern ac ni adewi i’th Sanct weled llwgredigaeth.
11 Act.2.28. Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd ger dy fron: ar dy ddeheu-law y mae digrifwch yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
