Gweledigaeth Ioan 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.3 24 Gwynfydedig gyflwr y rhai duwiol. 8 37 A thruan helynt y rhai annuwiol. 11 A gwedd yr Ierusalem nefol, ac am wraig yr Oen.

1Ac mi Esai.65.17.|ISA 65:17. & 66.22.|ISA 66:22. 2.pet.3.13.a welais nêf newydd, a daiar newydd, canys y nef gyntaf a’r ddaiar gyntaf a aethant heibio, ac nid oedd môr mwyach.

2A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd Ierusalem newydd yn descyn o’r nêf oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodas-ferch wedi ei thrwssio iw gŵr.

3Ac mi a glywais lef vchel allan o’r nêf yn dywedyd, wele, pabell Dduw gyd â dynion, ac efe a drig gyd â hwynt, ac hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyd ag hwynt yn Dduw iddynt.

4 Vchod.7.17.|REV 7:17. Esay 25.8. Duw a sych ymmaith yr holl ddagrau oddi wrth eu llygaid, ac ni bŷdd dim marwolaeth mwy, na thristwch, na llefain, ac ni bydd dim poen mwy, canys y pethau cyntaf a aethant heibio.

5A’r vn a eisteddodd ar yr orsedd-faingc a ddywedodd, wele, yr wŷf yn gwneuthur pôb heth yn newydd, ac efe a ddywedodd wrthif, scrifenna, canys y mae y geiriau hyn yn ffyddlon, ac yn gywir.

6Ac efe a ddywedodd wrthifi, Vchod.1.8.|REV 1:8. Isod 22.13.fe a ddarfu, myfi ŵyf Alpha ac Omega, y dechreuad a’r diwedd, mi a roddaf i’r vn sydd sychedig o ffynnon dwfr y bywyd yn rhâd.

7Yr vn a orchfyga a gaiff etifeddu y cwbl, ac mi a fyddaf Dduw iddo ef, ac yntef fŷdd fâb i minne.

8Ond yr ofnog a’r anghredyniaid, a’r rhai sceler, a’r llofruddion, a’r putteinwŷr, a’r cyfaredd-wŷr, a’r delw-addolwyr, a phôb celwyddog, eu rhan hwynt a fydd yn y pwll yr hwn sydd yn llosci o dân a brwmstan, yr hwn ydyw yr ail farwolaeth.

9Ac vn o’r saith angel, y rhai oeddent â’r saith phiol ganddynt yn llawn o’r saith blâ diweddaf a ddaeth attaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, tyret, mi a ddangosaf i ti y briodas-ferch gwraig yr Oen.

10Ac efe am dygodd i ymmaith yn yr Yspryd i fynydd mawr, ac vchel, ac a ddangosodd i mi y ddinas fawr Ierusalem sanctaidd, yn descyn allan o’r nef oddi wrth Dduw.

11A gogoniant Duw ganddi, a’i discleiriad hi oedd debyg i faen gwerthfawrysaf, megis maen Iaspis eglur fel grisial.

12Ac yr ydoedd iddi fûr mawr vchel, a deuddec porth iddi, ac wrth y pyrth deuddec angel, ac henwau yn scrifennedig, y rhai ydynt deuddec-llwyth meibion Israel.

13O du y dwyrain yr oedd tri phorth, o du y gogledd tri phorth, o du y dehau tri phorth, o du y gorllewyn tri phorth.

14A chaer y ddinas oedd â deuddec sylfaen iddi, ac ynddynt hwy henwau deuddec Apostol yr Oen.

15Ac yr ydoedd gan yr vn a ymddiddanodd â mi gorsen o aur i fesuro y ddinas, ai phyrth hi, a’i chaer hi.

16A’r ddinas a osodwyd yn bedwar ochrog, a’i hŷd oedd gymmaint a’i llêd, ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng-mîl stâd, a’i llêd a’i huchter sydd yn ogymmaint.

17Ac efe a fesurodd ei chaer hi, yn bedwar cufydd a saith vgain, wrth fesur dŷn, sef mesur yr angel,

18Ac adeilad ei chaer hi oedd o faen Iaspis, a’r ddinas oedd aur pûr, yn debyg i ŵydr gloiw

19A seiliau caer y ddinas oeddynt wedi eu harddu â phôb rhyw faen gwerthfawr, y sail cyntaf oedd maen Iaspis, yr ail o Saphyr, y trydydd oedd o faen Calcedon, y pedwêrydd o Smaragdus.

20Y pummed Sardonix, y chweched Sardius, y seithfed Crysolithus, yr ŵythfed Beryl, y nawfed Topazius, y decfed Crysoprasus, yr vnfed ar ddêc Hyacinthus, y deuddecfed, Amethystus.

21A’r deuddec porth deuddec perl oddent, a phôb porth sydd o vn perl, a heol y ddinas sydd o aur pûr, fel gŵydr disclair.

22Ac ni welais i vn deml ynddi, canys yr Arglwydd Dduw holl-alluog, a’r Oen yw ei theml hi.

23 Esai.60.19. Ac nid rhaid i’r ddinas wrth yr haul, na’r lleuad i oleuo ynddi, canys y mae gogoniant Duw yn ei goleuo hi, a’r Oen yw ei goleuni hi.

24 Esai.60.3. A’r bobl gadwedig a rodiant yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaiar a ddygant eu gogoniant a’u hanrhŷdedd iddi hi.

25 Esai.60.11. Ac ni cheuir ei phyrthi liw dŷdd, o blegit ni bydd dim nôs yno.

26A gogoniant ac anrhŷdedd y cenhedloedd a ddygir iddi hi.

27Ac nid aiff i mewn iddi hi ddim aflan, neu bêth bynnag a weithio ffieidd-dra, neu gelwyddau, ond y rhai a scrifennwyd mewn llyfr bywyd yr Oen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help