Numeri 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Duw yn dangos i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid eu swyddau a pha beth a gaent i fyw arno. 26 ac yn gorchymyn iddynt dalu decfed eu degwm.

1A Dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, tydi a’th feibion a thylwyth dy dâd gyd a thi a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd a thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.

2A dwg hefyd gyd a thi dy frodyr lwyth Lefi, llwyth dy dâd, i lynu wrthit ti, ac i’th wasanaethu: tithe a’th feibion gyd a thi ger bron pabell y destiolaeth.

3A hwy a orchwyliant drosot ti yng-orchwyliaeth yr holl babell, ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhac eu marw hwynt a chwithau hefyd.

4Ond hwy a lynant wrthit, ac a orchwyliant babell y cyfarfod yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued dieithr yn agos attoch.

5Eithr cedwch chwi orchwyliaeth y cyssegr, a gorchwyliaeth yr allor fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.

6Ac wele mi a Num.3.13.gymmerais dy frodyr di y Lefiaid o fysc meibion Israel y rhai a roddwyd i’r Arglwydd megis yn rhodd o’r eiddo chwi, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

7Tithe a’th feibion gyd a thi a gedwch eich offeiriadaeth, ac a wasanaethwch yng-hylch pob peth i’r allor, ac o fewn y llen wahan: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth chwi, a’r dieithr yr hwn a ddelo yn agos a leddir.

8A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, wele mi a roddais i ti hefyd orchwyliaeth fy offrymmau derchafel, o holl sanctaidd meibion Israel: rhoddais hwynt i ti, o herwydd yr eneiniad, ac i’th feibion yn ddeddf dragywyddol.

9Hyn fyddi ti o’r sancteidd-beth cyssegredic o’r tân: eu holl offrymmau, y rhai a dalant i mi yn eu holl fwyd offrwm, ac yn eu holl aberthau tros bechod, ac yn eu holl aberthau tros gamwedd sancteidd-beth cyssegredic hyn i ti, ac i’th feibion.

10O fewn y cyssegr sancteiddiolaf y bwyttei ef, pôb gwryw ai bwyttu ef: cyssegredic fydd efe i ti.

11Hyn hefyd i ti, offrwm derchafel eu rhoddion hwynt, yng-hyd a holl offrymmau cwhwfan meibion Israel, i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd a thi yn ddeddf dragywyddol: pob vn glân yn dy dŷ a gaiff ei fwytta.

12Holl fraster olew, a holl fraster gwîn ac ŷd eu blaen-ffrwyth hwynt, yr hwn a roddant i’r Arglwydd a roddais i ti.

13Blaen-ffrwyth pôb dim yr hwn yn eu tîr hwynt, yr hwn a ddygant i’r Arglwydd fydd eiddo ti: pôb vn glân yn dy dŷ ai bwyttu.

14Pôb diofryd-beth yn Israel fydd eiddo ti.

15 Leuit.27.21.|LEV 27:21. exod.13.2.|EXO 13:2. leuit.27.26.|LEV 27:26. num.3.13.|NUM 3:13. luc.2.13. Pôb agorydd croth o bôb cnawd yr hwn a offrymmir i’r Arglwydd o ddyn, ac o anifail fydd eiddo ti, ond gan brynu y pryni bôb cyntafanedic i ddyn, a phryn y cyntafanedic i’r anifail aflan.

16A phâr brynu y rhai a bryner ohonynt o fab misyriad yn dy bris di, Num.3.47.[sef] pump sicl o arian wrth sicl y cyssegr: vgain Gerah hynny.

17Ond na phryn y cyntafanedic o eidion, neu gyntafanedic dafad, new gyntafanedic gafr, sanctaidd yddynt: eu gwaed a daenelli ar yr allor, ai gwêr a losci yn aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd,

18Ond eu cîg fydd eiddo ti, fel parwyden y cwhwfan, ac Exod.29.26. leuit.7.32.fel yr ysgwyddoc ddehau y bydd efe eiddo ti.

19Holl offrymmau derchafel sanctaidd y rhai a dderchafa meibion Israel i’r Arglwydd a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd a thi yn ddeddf dragywyddol: cyfammod halen tragywyddol fydd hyn ger bron yr Arglwydd i ti, ac i’th hâd gyd a thi.

20A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tîr hwynt, ac nafydded it ran yn eu mysc hwynt: Deut 10.9|DEU 10:9. deut.18.2.|DEU 18:2. iosua.13.14.|JOS 13:14. ezec.44.28myfi dy ran di a’th etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.

21Ac wele mi a roddais i feibion Lefi bôb degwm yn Israel yn etifeddiaeth am eu gwasanaeth, yr hwn y maent yn ei wasanaethu, sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.

22Ac na ddeued meibion Israel mwyach i babell y cyfarfod, gan ddwyn pechod i farw.

23Ond gwasanaethed y Lefiaid eu hunain wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant hwynt eu hanwiredd eu hun, deddf dragywyddol drwy eich oesoedd, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.

24Canys degwm meibion Israel yr hwn a dderchafant yn offrwm derchafel i’r Arglwydd a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny dywedais wrthynt nad etifeddent etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.

25A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

26Llefara hefyd wrth y Lefiaid a dywet wrthynt, pan gymmeroch gan feibion Israel y degwm yr hwn a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt, yna derchefwch o hynny offrwm derchafel i’r Arglwydd degwm o’r degwm.

27A chyfrifir i chwi eich offrwm derchafel fel yr ŷd o’r yscubor, ac fel cyflawndra o’r gwînwryf.

28Felly y derchefwch chwithau hefyd offrwm derchafel yr Arglwydd o’ch holl ddegymmau y rhai a gymmeroch gan feibion Israel, a rhoddwch o hynny dderchafel offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad.

29O’ch holl roddion derchefwch bôb offrwm derchafel yr Arglwydd oi holl frasder ef ei ran sainctaidd o honaw ef.

30A dywet wrthynt, pan dderchafoch chwi ei fraster allan o honaw cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr yscubor, a thoreth y gwin-wryf.

31A bwyttewch ef ym mhob lle, chwi a’ch ty-lwyth: canys gwobr yw efe i chwi am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

32Ac ni ddygwch bechod oi herwydd pan dderchafoch ei fraster o honaw: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel, fel na byddoch feirw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help