1AC fel yr oeddynt yn ymdaith hwy a ddaethant yn hwyr i ymyl afon Tigrys, ac a arhosasant yno.
2A’r llangc a aeth i wared i ymolchi, a physcodyn a neidiodd o’r afon, ac a fynase ei lyngcu ef:
3Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, cymmer afel yn y pyscodyn, a’r llangc a ddaliodd y pyscodyn, ac ai tynnodd i’r tir.
4A’r angel a ddywedodd wrtho, torr y pyscodyn, a chymmer y galon, a’r au, ar bustl, a chadw yn ddiesceulys.
5A’r llangc a wnaeth y modd yr archase yr angel iddo, ac wedi iddynt rostio yr pyscodyn, hwynt ai bwyttasant, ac a aethant rhagddync ill dau oni ddaethant yn gyfagos i Echatan.
6A’r llangc a ddywedodd wrth yr angel, fy mrawd Azarias, i ba beth y mae calon, ac au, a bustl y pyscodyn yn dda:
7Yntef a ddywedodd wrtho, am y galon a’r au, o bydd i gythrael neu yspryd drwg flino neb, rhaid yw eu llosci hwynt ger bron y gŵr hwnnw neu yr wraig, ac ni flinir ef mwyach.
8Ac am y bustl, ir ag ef y dŷn a fyddo a’r huchen ar ei lygaid, ac efe a iacheir.
9A phan ddoethant yn gyfangos i Ranges, yr angel a ddywedodd wrth y llangc:
10Fy mrawd, heddyw y lletteuwn ni gyd â Raguel, yr hwn sydd gâr i ti, ac y mae iddo ef vnic ferch a elwir Sarra; mi a ddywedaf am dani hi: am ei rhoddi i ti yn wraig.
11Canys i ti y mae ei hetifeddiaeth hi yn perthyn, a thydi yn vnic sydd oi chenedl hi.
12Ac y mae hi yn llangces lân synhwyrol, yn awr gan hynny gwrando fi, a mi a ymddiddanaf ai thad hi, a phan ddychelom ni o Rages y gwnawn y neithior: o achos mi a wn na rydd Raguel hi i neb arall yn ôl cyfraith Moses, heb fod yn euog o angeu, am fod yn rhaid i ti gael yr etifeddiaeth o flaen neb arall.
13Yna y dywedodd y llangc wrth yr angel, fy mrawd Azarias, mi a glywais roi y llangces honni i saith o wŷr, a marw o honynt cymyn vn yn yr ystafell briodas:
14Ac yr awran myfi yn vnic fy nhad, ac yr ydwyf yn ofni od awn i mewn y darfydd am danaf, fel y rhai o’r blaen, am fod cythrael yn ei charu hi, yr hwn nid yw yn gwneuthur niwed ond i’r rhai sydd yn dyfod atti hi, ac am hynny yr wyf yn ofni rhac fy marw a dwyn enioes fy nhad a’m mam mewn tristwch iw beddau, a mab arall nid oes iddynt iw claddu.
15A’r angel a ddywedodd wrtho, ond cof genit eiriau dy dâd, pan orchymynnodd i ti gymmeryd gwraig o’th genedl dy hun: ac yr awran gwrando fy mrawd, a chymmer hi yn wraig i ti, ac nac arswyda mo’r cythrael: canys y nôs heno y rhoddir hi i ti yn wraig.
16Eithr pan ddelech i’r stafell briodas, cymmer farwydos y per-aroglau, a dod ti beth o galon y pyscodyn ac o’r afi arnynt, a gwna fwgdarth:
17Yna yr yspryd pan glywo ’r arogl hwnnw a ffŷ ymmaith, ac ni ddychwel byth trachefn. Eithr pan ddelech di atti hi, codwch eich dau, a gelwch ar y trugarog Dduw, ac efe a’ch gweryd chwi, ac a dosturia wrthych: nac ofna, o herwydd tydi a ddarparwyd iddi o’r dechreuad. a thi ai gwaredi hi, a hi a ddaw adref gyd â thi: ac (wrth fy nhyb) ti a gei blant o honi. A phan glybu Tobias y pethau hynn, efe a rodd ei serch arni, ai galon ef a lynodd yn ddiriawr wrthi hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.