Exodus 33 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIII.1 Duw yn addo ei angel i gyfarwyddo Israel. 3 A’r bobl am i Dduw neccau fyned ei hun gyd a hwynt yn alaethu. 11 Moses yn ymddiddan a Duw wyneb yn wyneb: ac yn ymbil am iddo fyned ei hun gyd a’r bobl. 17 Ac yn cael ei wrando. 18 Moses yn ymbil am gael gweled gogoniant Duw ac heb gael gweled onid peth o honaw.

1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cerdda, dos i fynu oddi ymma, ti a’r bobl y rhai a ddygaist i fynu o wlad yr Aipht: i’r wlad yr honn y tyngais wrth Abraham, Isaac, ac Iacob gan ddywedyd, Genes.12.7.i’th hâd di y rhoddaf hi.

2A mi Exod.23.27. Ios.24.11.|JOS 24:11. Deut.7.21. Exod.32.9.a anfonaf angel o’th flaen di: ac a yrraf allan y Canaaneaid, yr Amoriaid, a’r Hethiaid, y Phereziaid yr Hefiaid, a’r Iubusiaid,

3I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: o herwydd nid afi i fynu yn dy blith, o blegit Deut.9.13.pobl war-galed wyt, rhac i mi dy ddifa ar y ffordd.

4Pan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn galaru a wnaethant: ac ni osododd neb ei hardd-wisc am dano.

5O blegit yr Arglwydd a ddywedase wrth Moses, dywet wrth feibion Israel pobl war-galed chwi, yn ddisymmwth y deuaf i fynu yn dy blith ac i’th ddifethaf: am hynny yn awr diosc dy hardd-wisc oddi am danat fel y gwypwyf beth a wnelwyf it.

6Felly meibion Israel a ddioscasant eu hardd-wisc oddi wrth fynydd Horeb.

7Yna Moses a gymmerodd y babell, ac ai hestynnodd o’r tu allan i’r gwerssyll ym mhell oddi wrth y gwerssyll, ac ai galwodd papell y cyfarfod: fel y bydde i bawb ar a geisie yr Arglwydd fyned allan i babell y cyfarfod yr hon allan o’r gwerssyll.

8Pan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob vn ddrws ei babell: ac a edrychasant ar ol Moses nes ei ddyfod i’r babell.

9A phan aeth Moses i’r babell y descynnodd colofn o niwl, ac a safodd ddrws y babell: a’r a lefarodd wrth Moses.

10Pan welodd yr holl bobl y golofn niwl yn sefyll ddrws y babell: yna y cododd yr holl bobl, ac a addolasant bob vn ddrws ei babell.

11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefare gŵr wrth ei gyfell: yna efe a ddychwelodd i’r gwerssyll, ond y llangc Iosua mab Nun ei wenidog ef ni syflodd o’r babell.

12A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd gwel, ti a ddywedi wrthif dwg y bobl ymma i fynu, ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyd a mi: a thi a ddywedaist mi a’th adwen wrth enw, a chefaist hefyd ffafor yn fyng-olwg.

13Yn awr gan hynny o chefais ffafor yn dy olwg di, yspyssa i mi dy ffordd attolwg fel i’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafor yn dy olwg: gwel hefyd mai dy bobl di y genhedlaeth hon.

14Yntef a ddywedodd: fy wyneb a gaiff fyned a rhoddaf orphwysdra it.

15Yna efe a ddywedodd wrtho: onid aiff dy wyneb, nac arwein ni i fynu oddi ymma.

16Pa fodd y gwyddîr yn awr gael o honofi ffafor yn dy olwg, mi a’th bobl? onid drwy fyned o honot ti gyd a ni? felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl ar wyneb y ddaiar.

17A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses gwnaf hefyd y peth hynn a leferaist: o blegit ti a gefaist ffafor yn fyng-olwg, a mi a’th adwen wrth enw.

18Yntef a ddywedodd: dangos i mi attolwg dy ogoniant.

19Ac efe a ddywedodd gwnaf i’m holl ddaioni fyned heb law dy wyneb, a chyhoeddaf Iehofa wrth enw o’th flaen di: ac mi Rhuf.9.15a drugarhaf wrth yr hwn y cymmerwyf drugaredd, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

20Ac efe a ddywedodd ni elli edrych ar fy wyneb: canys ni’m gwel dŷn fi a byw.

21Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, wele fann yn agos attafi: lle y cei sefyll ar y graig.

22A thra yr elo fyng-ogoniant heibio mi a’th osodaf o fewn ogof y graig: a mi a’th orchguddiaf a’m llaw nes i mi fyned heibio.

23Yna y tynnaf ymmaith fy llaw, a’m tu ol a gei di weled: ond ni welir fy wyneb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help