1Nac ymgynhenna â dŷn cadarn, rhag syrthio o honot ti yn ei law ef.
2 Matth.5.25. Nac ymsywyn â dyn cyfoethog, rhag iddo roddi pwys i’th erbyn di.
3Oblegit Pen.31.6.3aur a ddifethodd lawer, ac a ŵyrodd galonnau brenhinoedd.
4Nac ymgynhenna â gŵr siaradus, ac na osod goed ar ei dân ef.
5Na chware a’r annyscedig, rhag amherchi dy rieni di.
6 Galath.6.1. Na ddannod i’r dŷn a drôdd oddi wrth bechod, cofia ein bod ni oll tan gerydd.
7Nac Lefit.19.32.amharcha ddŷn yn ei henaint: canys y mae o honom ninnau yn heneiddio.
8Na lawenycha am farw yr hwn sydd fwyaf gelyn i ti: cofia ein bod ni oll yn darfod.
9 Pen.6.35. Na ddiystyra draethiad y doethion: eithr ymdroa di ym mysc eu diharebion hwynt.
10O blegit ganddynt hwy y dysci di addysc, a gwasanaethu pendefigion yn hawdd.
11Nag ymado a thraethiad henuriaid: o blegit hwynt hwy a ddyscasant gan eu tadau.
12Canys ganddynt hwy y dysci di ddeall, a rhoddi atteb pan fyddo rhaid.
13Na chynneu farwor pechadur, rhag dy losci yn ei flam dân ef.
14Na chyfot o flaen y trahaus, thag iddo eistedd fel cynllwyn yn erbyn dy enau.
15 Pen.29.4. Na echwyna i ddŷn cryfach nâ thi, ac os echwyni bydd fel vn yn colli.
16Na fachnia am fwy nag a allech, ac os machnii, meddwl am dalu.
17Nag ymgyfreithia ag vstus, o blegit wrth ei feddwl ei hun y barnant hwy ef.
18Na Gen.4.8.ddos ar hŷd y ffordd gyd a’r ffrom rhag iddo fod yn drwm wrthit ti, oblegit wrth ei ewyllys ei hun y gwna efe, a thrwy ei anghallineb ef y derfydd am danat tithe.
19 Psal.22.24. Na wna gynnen a’r dillon, ac na ddos gyd ag ef i anialwch, felly diddim gwaed yn ei olwg ef, ac efe a’th gwympe di yno lle nid oes help.
20Nac ymgynghora a’r ffôl, o herwydd ni all efe gelu gair.
21Na wna beth cyfrinachol o flaen y dieithr: o blegit ni ŵyddost ti beth a escor efe.
22Na amlyga dy galon i bob dŷn, rhag iddo roddi gau ddiolch i ti.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
