2.Samuel 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.Dafydd yn canu mawl a diolch i’r Arglwydd.

1A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon: yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynnion, ac o law Saul.

2Ac efe a ddywedodd: yr Arglwydd fyng-hraig,

8Yna y cynnyrfodd, ac y crynnodd y ddaiar, seiliau y nefoedd a gyffroasant, ac a ymsiglasant am iddo ef ddigio.

9Derchafodd mwg oi ffroenau ef, a thân oi enau ef a yssodd: glô a enynnasant ganddo ef.

10Efe a ostyngodd y nefoedd, ac a ddescynnodd: a thywyllwch tann ei draed ef.

11Marchogodd efe hefyd ar y Cerub, ac a ehedodd: ie efe a hedodd ar adenydd y gwynt.

12Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll oi amgylch: cascliad y dyfroedd, chwmylau yr awyr.

13Gan y discleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tan-llydd.

14Yr Arglwydd a darânodd o’r nefoedd: a’r Goruchaf a roddes ei lef.

15Ac efe a anfonodd saethau, ac ai gwascarodd hwynt: fellt, a drylliodd hwynt.

16Gwaelodion y môr a ymddangosasant, seiliau y byd a ddinoethwyd: gan gerydd yr Arglwydd, chan chwythad anadl ei ffroenau ef.

17Efe a anfonodd oddi vchod, cymmerodd fi thynnodd fi o ddyfroedd lawer.

18Gwaredodd fi rhac fyng-elyn cadarn: a rhac fyng-haseion, am eu bôd yn drêch na mi,

19Achubasant fy mlaen yn nydd fyng-ofid: a’r Arglwydd oedd yn gynhaliad i mi.

20Efe a’m dûg i ehangder: efe a’m gwaredodd i, canys ymhoffodd ynof.

21Yr Arglwydd a’m gobrwya yn ôl fynghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y tâl efe i mi.

22Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni wneuthum yn ddrygionus yn erbyn fy Nuw.

23O herwydd ei holl farnedigaethau ef ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.

24Bum hefyd berffaith tu ag atto ef: ac ymgedwais rhac fy anwiredd.

25A’r Arglwydd a’m gobrwyodd inne yn ôl fyng-hyfiawnder: yn ôl fyng-lendid o flaen ei lygaid ef.

26A’r trugarog y gwnei drugaredd: a’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

27A’r glân y gwnei lendid: ac a’r cyndyn yr ymgyndynni.

28Canys ti a waredi y bobl gystuddiedic: ac a ostyngi dy lygaid yn erbyn y rhai vchel.

29Canys ti fyng-hannwyll i ô Arglwydd: a’r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch.

30O blegit ynot ti y rhedaf drwy fyddin: yn fy Nuw y llammaf dros fûr.

31Duw berffaith ei ffordd: ymadrodd yr Arglwydd sydd buredic, tarian efe i bawb a ymddyriedant ynddo ef.

32Canys pwy Dduw heb law yr Arglwydd? a phwy graig eithr ein Duw ni?

33Duw a’m cadarnhaodd i a nerth: ac a ryddhaodd fy ffordd i yn berffaith.

34Efe sydd yn gosod fy nhraed fel ewîgod: ac efe am sefydlodd i ar fy vchelfaoedd.

35Efe sydd yn dy scu fy nwylo i ryfel: fel y dryllid bŵa dur fy mreichiau.

36Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechydwriaeth; ac a’th fwynder y lluosogaist fi.

37Ehanghaist fyng-herddediad tanaf: fel na lithrodd fy sodlau.

38Erlidiais fyng-elynnion, a difethais hwynt: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

39Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt fel na chyfodant: ac hwy a syrthiasant dann fy nhraed i.

40Canys ti a’m gwregysaist i a nerth i ryfel: cwympaist tanaf y rhai a ymgyfodent i’m herbyn.

41Rhoddaist hefyd i mi warrau fyng-elynnion: fel y difethwn fyng-haseion.

42Disgwiliasant, ac nid achubudd: am yr Arglwydd, ac nis attebodd hwynt.

43Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaiar: melais hwynt fel tōm yr heolydd, chenais hwynt.

44Gwaredaist fi rhac cynhennau fy mhobl: cedwaist fi yn benn genhedloedd, pobl nis adnabam a’m gwasanaethant.

45Meibion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnafi.

46Meibion dieithr a ballant: ac a ddychrynnant oi carchar-dai.

47Byw fyddo yr Arglwydd, a bendigedic fyng-hraig, a derchafer Duw, craig fy iechydwriaeth.

48Duw sydd yn rhoddi i mi allu i ymddial: ac sydd yn darostwng pobloedd tanaf i.

49Ac sydd yn fy nhywys i o blith fyng-glynnion: ti hefyd a’m derchefaist oddi wrth y rhai a gyfodent i’m herbyn, rhac y gŵr traws i’m hachubaist i.

50Am hynny y moliannaf di ô Arglwydd ym mhlith Rhuf.15.1.y cenhedloedd: ac y canaf i’th enw.

51[Efe sydd] dŵr iechydwriaeth i’r brenin, tŵr iechydwriaeth iw frenin: ac yn gwneuthur trugaredd iw eneiniog, i Ddafydd, ac iw hâd ef hyd Pen.7.11.yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help