Gweithredoedd yr Apostolion 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.Paul yn myned i Thessalonica. 15 Ac i Athen, ac yn ymresymmu yno: ac yn pregethu i’r Atheniaid.

1Ac fel yr oeddynt yn trammwy trwy Amphipolis ac Apollonia, hwy a ddaethant i Thessalonica, lle yr oedd Synagog i’r Iddewō.

2A Phaul yn ôl ei arfer a aeth i mewn attynt, ac a ymresymmodd â hwynt (tros dri Sabboth) o’r scrythurau.

3Gan egluro a dangos o flaen eu llygaid hwy mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw, ac mai hwn yw y Crist Iesu yr vn yr wyfi yn ei bregethu i chwi

4A rhai o honynt a gredasant, ac a ymwascasant â Phaul a Silas, ac o’r Groeg-wŷr bucheddol lliaws mawr, ac o’r gwragedd goref nid ychydig.

5Eithr yr Iddewon anghredadwy, yn cenfigennu, a gymmerasant attynt ryw ddynion sceler o gyrwydriaid, a chan gasclu tyrfa hwy a wnaethant flinder i’r ddinas, ac a osodasant ar dŷ Iason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.

6A phan na chawsant hwynt, hwy a luscasant Iason, a rhai o’r brodyr, at bennaethiaid y ddinas, gan lefain: dymma y rhai sy yn dymchwelyd llywodraeth y bŷd, wele, ac ymma y maent hwy.

7Y rhai hyn a ddarfu i Iason eu derbyn, ac y maent oll yn gwneuthur yn erbyn cyfraith Caesar: gan ddywedyd fod brenin arall Iesu.

8Ac hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraeth-wŷr y ddinas hefyd, wrth glywed hyn ymma.

9Ac wedi iddynt gael siccrwydd gan Iason a’r llaill, hwynt a’u gollyngasant hwy.

10A’r brodyr yn ebrwydd a anfonasant Paul a Silas hefyd a hyd nôs i Beræa: y rhai wedi eu dyfod a aethant i Synagog yr Iddewon.

11Boneddigeiddiach nâ’r rhai oeddynt yn Thessalonica oedd y rhai hyn: y rhai a gymmerasant y gair trwy bob parodrwydd oll, Ioan.5.39. gan chwilio beunydd yr scrythyrau, ai felly yr oedd y pethâu hyn.

12Felly llawer o honynt a gredasant: ac o’r gwragedd onest, o’r Groegiaid, a’r gwŷr hefyd nid ychydig.

13A chyn gynted ag y clybu yr Iddewon o Thessalonica, fod pregethu gair Duw gan Paul yn Beraea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd gan gyffroi y dyrfa.

14Ac yn brysur y brodyr a ddanfonasant Paul ymmaith i fyned i’r môr, ond Silas a Thimotheus a arhosasant yno yn oestad.

15A chyfarwyddwyr Paul a’i dugasant ef hyd Athen: ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus ar iddynt ddyfod ar ffrwst atto, hwy a aethant ymmaith.

16A thra fu Paul yn aros am danynt yn Athen, ei yspryd a ennynnodd ynddo wrth weled y ddinas wedi ymroi i eulynnod.

17O herwydd hyn yr ymddadleuodd efe â’r Iddewon, ac â’r rhai defosionol yn y Synagogau, a beunydd yn y farchnad, â phwy bynnac a gyfarfydde ag ef.

18A rhyw Philosophyddion o’r Epicuraeaid, ac o’r Stoiciaid a ymrysonâsant ag ef: a rhai a ddywedent: pa beth a fynny siarad-wr hwn ei ddyweddyd? ac eraill cyffelyb ei fod efe yn pregethu cythriliaid dieithr am bregethu o honaw ef iddynt Iesu, a’r adgyfodiad.

19Ac hwy a’i daliasant ef, ac a’i dugasant i Areopagus gan ddywedyd: a allwn ni gael gŵybod beth yw y ddyscnewydd yna, a draethir gennit?

20O blegit yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i’n clustiau ni: am hynny ni a fynnwn ŵybod beth a fyn y pethau hyn?

21(Canys yr holl Atheniaid, a’r dieithred y rhai oeddynt yn ymdaith yno, nid oeddynt yn cymmeryd hamdden i ddim arall, ond y naill ai i ddywedyd, ai i glywed rhyw newydd)

22Yna y safodd Paul yng-hanol Areopagus, ac a ddywedodd: ha wŷr Atheniaid mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn goel-fucheddol:

23Canys wrth ddyfod heibio ac edrych ar eich addoliaeth, mi a gefais allor yn yr hon yr scrifennasid: I’r Dvw yr hwn nid adwaenir: yr hwn yr ydych chwi yn ei addoli heb ei adnabod, hwnnw yr wyf fi yn ei ddangos i chwi.

24Duw yr hwn a wnaeth y byd a’r hyn sydd ynddo oll, efe yn Arglwydd nef a ddaiar Pen.7.48. nid yw yn aros mewn temlau o waith dwylo:

25 Psal.5.8. Ac ni wasanaethir ef â dwylo dyniō, fel pe bai arno eisieu dim, gan ei fod efe yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll:

26Ac efe a wnaeth holl genhedlaeth dynion o vn gwaed i bresswylio ar wyneb y ddaiar oll, wedi iddo bennu yr amseroedd gosodedig, a dodi terfynau iw presswylfod hwynt:

27Fel y ceisient yr Arglwydd, os bydde iddynt gan balfalu ei gael, er nad yw efe yn ddiau neppell oddi wrth bob vn o honom.

28O blegit ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod, megis y dywedodd rhai o’ch Poetau chwi eich hunain: canys ei genhedlaeth hefyd ydym ni.

29 Esai.40.19. Can hynny, am ein bod yn genhedlaeth i Dduw, ni ddylem ni dybied fod duwdod yn debyg i aur, ac arian, neu i faen, cerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn.

30Ac yn amseroedd yr anŵybod hyn, nid oedd Duw yn cymmeryd arno weled, yn awr y mae efe yn dangos i bob dyn ym mhob man, er mwyn edifarhau.

31O herwydd iddo ef osod dydd yn yr hwn y barna efe y byd yn gyfiawn, drwy y gŵr yr hwn a ordeiniodd efe, gan ddodi ffydd i bawb trwy ei adgyfodi ef o feirw.

32A phan glywsant sôn am adgyfodiad y meirw, rhai a watwârasant, ac eraill a ddywedâsant, ni a’th wrandâwn trachefn am hyn.

33Felly Paul a aeth ymmaith o’u plith hwynt.

34Er hynny rhai a lynâsant wrtho, ac a gredasant, ym mhlith pa rai yr oedd Dionisius Areopagita, a gwraig a enwid Dâmaris, ac eraill gyd â hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help