Titus 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.5 Y mae efe yn athrawy Titus oblegit llywodraeth yr eglwys. 7 Ordinhâd a swydd gweinidogion eglwysig. 12 Cynneddfau y Cretiaid, ac am y rhai a heuant chwedlau Iddewig, a dychymmygion dynnion.

1Paul, gwâs Duw, ac Apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac gŵybodaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb,

2I obaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw, Ruf.16.25.|ROM 16:25. ephes.3.9.|EPH 3:9. coloss.1.26.|COL 1:26. 2.tim.1.9.10.|2TI 1:9,10 1.petr.1.20.cyn amseroedd tragywyddol:

3Eithr efe a eglurhaodd ei air yn ei brŷd drwy bregethu, am yr hyn Gala.1.1.yr ymddiriedwyd i mi wrth orchymyn Duw ein Iachawdwr;

4At Titus, fy anianol fâb wrth y ffydd gyffredin, grâs, trugaredd, a thangneddyf gan Dduw y Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Iachawdwr.

5Er mwyn hyn i’th adewais yn Creta i wneuthur iawn drefn am yr hyn sydd yn ôl, ac i osod henuriaid ym mhôb dinas megis yr ordeiniais i ti.

6 1.Tim.3.2. Os bydd neb yn ddiargyoedd, yn ŵr un wraig, ac iddo blant ffyddlon, nid enllibus o lothineb, neu yn anufudd.

7Canys rhaid yw i escob fod yn ddiargyoedd fel gorchwiliwr Duw, nid yn gyndyn, nid yn ddigllon, nid yn win-gar, nid yn darawudd nid yn budr-elwa,

8Eithr yn lletteugar, yn caru daioni, yn bwyllog, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn ddianllad,

9Yn dal yn lew y gair ffyddlon yr hwn sydd wrth yr athrawiaeth, fel y gallo hefyd gynghori â dysceidiaeth iachus, ac argyoeddi y rhai a wrth-ddywedant.

10Canys y mae llawer o rai anufydd, a gwag-siarad-wŷr, a thwyll-wŷr meddyliau, yn bennaf y rhai sy o’r enwaediad,

11Y rhai y mae yn rhaid eu gossegu, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfan, gan ddyscu i rai bethau ni ddylid, er mwyn budr-elw.

12Un o honynt hwy un o’u prophwydi eu hunain a ddywedodd, y Cretiaid bob amser ydynt gelwyddog, drwg fwyst-filod, boliau gor-ddiog.

13Y destiolaeth hon sydd wir, am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddant iach yn y ffydd,

14Heb ddarbod chwedlau, 1.Tim.1.4.Iddewaidd, a gorchymynnion dynnion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.

15I’r rhai pur Ruf.14.20.y mae pob peth yn bur, eithr i’r rhai halogedig, ar i’r anghredadwy nid oes dim pur, eithr halogedig yw eu meddwl a’u cydwybod.

16Y maent yn cyfaddef yr adwaenant Dduw, eithr ar weithredoedd y maent yn ei wadu ef, am eu bod yn ffiaidd, ac yn anufydd, ac i bob gweithred dda yn anghymmeradwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help