Diharebion 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Ffrwyth gair Duw, ai ofn. 10 Mor enbyd yw cydtuno a’r drygionus, 20 a dirmygu doethineb.

1Diharebion Salomon fab Dafydd brenin Israel,

2I ddyscu doethineb, ac addysc, i ddeall geiriau synhwyrol.

3I gymmeryd Dehallus athrawiaeth, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb.

4I roi callineb i’r anghall, ag i’r bachgenyn ŵybodaeth, a synnwyr.

5Y doeth a wrendu, ac a chwanega ei athrawiaeth, a’r deallgar a ddaw i bwyll,

6I ddeall parabl ai ddeongl, geiriau’r doethion ai dammegion.

7Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb, ac addysc.

8Fy mab gwrando addysc dy dâd, ac nac ymado â chyfraith dy fâm.

9Canys cynnydd grâs a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni i’th wddf di.

10Fy mab os pechaduriaid a’th ddênant, na chydtuna â hwynt.

11Os dywedant, tyret gyd â ni, cynllwynwn am waed, nyni a ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:

12Nyni ai llyngcwn hwy yn fyw fel y bedd, ac yn gyfan fel rhai yn descynn i’r pydew:

13Nyni a gawn bôb cyfoeth gwerth-fawr, nyni a lawnwn ein teiau ag yspail:

14Bŵrw dy goel-bren yn ein mysc; bydded vn pwrs i ni oll:

15Fy mab na rodia yn y ffordd gyd â hwynt, attal dy droed rhag eu llwybr hwy.

16Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.

17Gwaith ofer yw tânu rhwyd yng-olwg pôb perchen aden.

18Felly y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed hwynt: am eu henioes hwynt y maent yn llechu.

19Dymma lwybrau y rhai oll a ydynt chwannog i olud, â ddwg enioes ei pherchennogion.

20Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan, y mae hi yn llefain yn yr heolydd.

21Y mae hi yn galw mewn lleoedd vchel, mewn tyrfau yn nrysau y pyrth, ym dinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion.

22Pa hŷd chwi ynfydion y cerwch chwi ynfydrwydd? a pha hŷd ô watwarwŷr y bydd hoff gennych watwariaeth? a pha hŷd y casâ ffoliaid ŵybodaeth?

23Dychwelwch at fyng-hospedigaeth, wele mi a dywalltaf fy yspryd i chwi, fyng-eiriau a ddangosaf i chwi.

24Yn gymmeint ac i mi eich gwahodd, a chwithau yn necau o ddyfod, i mi ystynn fy llaw oddi wrthif, a neb heb droi attafi:

25Onid bod pawb yn tynnu yn ôl eu cefnau oddi wrth fy holl gyngor i, heb fod yn fodlon i’m cospedigaeth:

26Minne hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi, mi a escydwaf fy mhen, pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni.

27Pan syrthio yr hyn yr ydych yn ei ofni arnoch megis destruw disymmwth, a phan nesao eich dialedd attoch megis tro-wynt, pan ruthro arnoch wascfa a chaledi:

28Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf, yn foreu i’m ceisiant, ond ni’m caant.

29Canys câs fu ganddynt ŵybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant.

30Ni chymmerent ddim o’m cyngor i, ond dirmygu fy holl gospedigaeth.

31Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, ai llenwi ai cynghorion eu hunain.

32Canys esmwythtra y rhai anghall ai lladd hwy: a llwyddiant y rhai ffôl ai difetha hwynt.

33Er hynny y sawl a wrandawo arnafi a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth fraw drwg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help