1Wedi i Alexander o Pacedonia, mab Philip fyned allan o wlâd Cethim, a lladd Darius brenin y Persiaid a’r Mediaid, a theyrnasu yn ei le ef, fel y teyrnasase efe o’r blaen yn Groec,
2Efe a osododd ryfeloedd lawer, ac a enillodd ddinasoedd cedyrn, ac a laddodd frenhinoedd y ddaiar.
3Ac a dramwyodd hyd eithafoedd y byd, ac a yspeiliodd lawer o genhedloedd, a’r ddaiar a ddistawodd ger ei fron ef, ac am hynny ei galon ef a dderchafwyd, ac falchiwyd.
4Ac wedi iddo ef gesclu llu cadarn iawn,
5Efe a ddarostyngodd wledydd a chēhedloedd a theyrnasoedd, ac ai gwnaeth hwy yn drethawl iddo ef.
6Ac wedi hyn efe a glafychodd, ac wybu y bydde marw.
7Ac a alwodd am ei wasanaethwŷr anrhydeddus, y rhai a gydfaethesid ag ef oi ieuengtid, ac a gyfrannodd ei deyrnas iddynt hwy, pan oedd efe etto yn fyw.
8Wedi i Alexander deyrnasu ddeu-ddeng mlhynedd a marw.
9Ei dywysogion ef a gadwasant feddiant, bôb vn yn ei fangre ei hun,
10Ac hwy oll a osodasant goronau wedi ei farw ef, ai meibion ar eu hôl hwy lawer o flynyddoedd, a drygioni a amlhaodd ar y ddâiar.
11Ac o honynt hwy y daeth y gwreiddin pechadurus Antiochus Epiphanes mab Antiochus y brenin, yr hwn a fuase yn wystl yn Rhufain, ac efe a deyrnasodd yn y ddwyfed flwyddyn ar bymthec ar hugain a chant o frenhiniaeth y Groeg-wŷr.
12Yn y dyddiau hynny dynion afreolus a ddaethant allan o Israel, ac a hudasant lawer gan ddywedyd, awn ac gwnawn ammod a’r cenhedloedd y rhai sy o’n hamgylch ni, canys er pan ein gwhaned oddi wrthynt hwy, ni a gawsom lawer o ddryg-fyd.
13A’r ymadrodd hwn oedd dda yn eu golwg hwy.
14A rhai o’r bobl a fuont barod, ac a aethant at y brenin, ac efe a roddes iddynt hwy awdurdod i wneuthur defodau y cenhedloedd.
15Ac hwy a adailadasant yscol yn Ierusalem yn ôl arfer y cenhedloed.
16Ac hwy a wnaethant ddienwaediad iddynt ei hunain, ac a giliasant oddi wrth y cyfammod sanctaidd, ac wedi iddynt hwy ymgyssylltu a’r cenhedloedd, hwy a ymroesant i wneuthur drwg.
17A’r deyrnas oedd barod o flaen Antiochus, ac efe a fwriadodd deyrnasu ar yr Aipht fel y galle efe deyrnasu ar ddwy deyrnas.
18Ac efe a aeth i mewn i’r Aipht â thorf fawr, â cherbydau, ag Elephannod â gwŷr meirch, ac â llynges fawr,
19Ac a ddechreuodd ryfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aipht, a Ptolemues a drôdd allan oi olwg ef, ac ffôdd, a llawer a syrthiasant yn archolledig.
20Ac hwy a enillasant y dinasoedd amddeffynadwy yn nhir yr Aipht, ac Antiochus a gymmerodd yspail yr Aipht.
21Ac Antiochus a ddychwelodd wedi iddo ef daro yr Aipht, yn y drydedd flwyddyn a deugein a chant:
22Ac a aeth i fynu yn erbyn Israel ac Ierusalem â chynnulleidfa fawr.
23Ac efe a aeth i mewn yn falch i’r cyssegr, ac a gymerodd yr allor aur a’r canhwyll-bren y goleuad, ai holl offer ef, a bwrdd gosod, a’r cawgiau, a’r dysclau, a’r llwyau aur, a’r llen, a’r coronau, a’r hardd wisc aur yr hon oedd rhyd tu wyneb y Deml, ac efe a dynnodd yr aur oddi arnynt hwy oll.
24Ac efe a gymmerodd yr arian a’r aur a’r dodrefn annwyl, ac a gymmerodd y tryssorau cuddiedic y rhai a gafodd efe, ac wedi iddo ef gymeryd y cwbl, efe a aeth ymmaith iw wlad ei hun.
25Ac efe a wnaeth gelanedd ar ddynion, ac a ddywedodd yn falch tros ben.
26Am hynny y bu galar mawr ym mhlith yr Israeliaid ym mhob lle o’r eiddynt hwy.
27Canys y tywysogion a’r henuriaid a ocheneidiasant, y morwynion a’r gwŷr ieuaingc a lescasant, a thegwch y gwragedd a gyfnewidiwyd.
28Pob priodas-fab a gymmerodd alar, yr hon oedd yn eistedd yn yr stafell briodas oedd mewn tristwch.
29A’r wlâd a gynhyrfodd o herwydd ei thrigolion, a holl dŷ Iacob a syrthiodd mewn cywilydd.
30Wedi dwy flynedd gyfiawn y brenin a ddanfonodd y tywysog yr hwn oedd yn derbyn y deyrn-ged i ddinasoedd Iuda, yr hwn a ddaeth i Ierusalem â thorf drom.
31Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy eiriau heddychol yn dwyllodrus, ac hwy ai credasāt ef.
32Felly efe a ruthrodd i’r ddinas yn ddisymmwth, ac ai tarawodd hi â dyrnod mawr, ac a ddestruwiodd lawer o bobl o Israel.
33Ac a gymmerodd yspail y ddinas, ac ai lloscodd hi â thân, ac a ddestruwiodd ei thai hi ai chaerau oddi amgylch.
34Ac hwy a gaethiwasant y gwragedd a’r plant, ac a feddiannasant yr anifeiliaid.
35Yna yr adeiladasant ddinas Dafydd â chaer fawr gref, ac â thyrau cedyrn, ac ai gwnaethant hi yn gastell cadarn iddynt eu hun.
36Heb law hyn hwy a osodasant y genhedlaeth bechadurus yno, sef y dynion anneddfol, ac hwy a ymgadarnhasant ynddi hi.
37Ac hwy a gludasant arfau a bwyd ac wedi iddynt hwy gasclu yspail Ierusalem ynghyd, hwy ai gosodasant ef yno, ac felly hwy a fuant yn rhwyd fawr.
38Canys yr oedd yn cynllwyn y cyssegr, ac yn gyhuddwr drigionus i Israel bob amser.
39Oddi yno hwy a ollyngent waed diniwed o amgylch y cyssergr, ac a halogent y lle sanctaidd.
40A thrigolion Ierusalem a ffoasant oi plegit hwy, a’r dref oedd yn breswylfa i ddieithraid, ac oedd yn estronaidd iw meibion ei hun, ai phlant ei hun ai gadawsant hi.
41Ei chyssegr hi a anrheithiwyd fel diffaethwch, ei gwyliau hi a droiwyd yn alar, ei Sabbothau yn wradwydd, ei anrhydedd yn ddiddim.
42Fel y buase ei pharch hi, felly y bu ei hammarch hi, ac y troiwyd ei huchelder hi yn alar.
43A’r brenin a scrifennodd at ei holl deyrnas am fod o bawb yn bobl gydt vn, ac ymadel o bob dŷn ai gyfreithiau ei hun.
44A’r holl genhedloedd a dderbyniasant orchymyn y brenin.
45A llawer o Israel a gytunasant iw wasaneuthu ef, ac a aberthasant i eulynnod, ac a halogasant y Sabboth.
46Canys y brenin a ddanfonodd lyfrau gyd â chenadon i Ierusalem, ac i ddinasoedd Iuda fel yr elent hwy ar ôl deddfau dieithriaid y wlad,
47I wahardd poeth offrymmau, a bwyd offrwm, a diod offrwm yn y cyssegr,
48Ac i halogi y Sabbothau a’r gwyliau,
49Ac i ddifwyno y cyssegr a’r sainct.
50I adeiladu allorau, a llwynau, a themlau eulynnod, ac i aberthu cig môch, ac anifeiliaid aflan,
51Ac i ollwng eu meibion yn ddienwaededic i wneuthur eu heneidiau yn ffiaidd â phob peth aflan trwy halogrwydd fel y gollyogent hwy y gyfraith tros gof, ac fel y cyfnewidient hwy ’r holl ddeddfau.
52A’r hwn ni wnele yn ôl gorchymyn y brenin y bydde rhaid iddo farw,
53Efe a scrifennodd at ei holl deyrnas yn ôl yr holl eiriau hyn, ac a wnaeth wiliadwŷr ar yr holl bobl.
54Ac a orchymynnodd i ddinasoedd Iuda aberthu ym mhob cyfryw ddinas.
55Am hynny llawer o’r bobl a ymgasclasant attynt hwy, pwy bynnac a adawse ’r gyfraith: ac hwy a wnaethant ddrwg yn y wlad.
56Ac hwy a wnaethant i Israel lechu mewn lleoedd cuddiedic, yn eu holl lochesau.
57A’r pymthecfed dydd o’r mi’s Calleu yn y bummed flwyddyn a deugain a chant, hwy a adeiladasant ffiaidd beth anrheithiol ar yr allor, ac o fewn dinasoedd Iuda oddi amgylch hwy a adeiladasant allorau.
58Ac a arogl-darthasant yn-nrysau ’r tai, ac yn yr heolydd.
59Ac a rwygasant lyfrau yr gyfraith y rhai a gawsant hwy, ai lloscasant â thân.
60A pha le bynnac y ceid llyfr y cyfammod gyd â neb, ne o’s cydtune neb âr gyfraith efe a leddid wrth orchymyn y brenin.
61Wrth eu cryfder hwy a wnaent felly i’r Israeliaid a geid bob mis yn y dinasoedd.
62A’r vnfed ar hugain o’r mîs wrth aberthu ar yr allor yr hon oedd yn lle yr allor
63Hwy a laddasant y gwragedd yn-ôl gorchymyn Antiochus, y rhai a barase enwaedu ar eu meibion.
64Ac a grogasant y plant bychain wrth eu gyddfau, ac a yspeliasant eu tai hwy, ac a laddasant a enwaedase arnynt hwy.
65A llawer yn Israel a ymgadarnhasant, ac a ymsiccrhasant ynddynt eu hunain, na fwytaent bethau aflan.
66Ac hwy a gymmerasant feddwi i farw, rhac eu difwyno â bwydydd, a rhag halogi o honynt hwy y cyfammod sanctaidd.
67Ac hwy a ddioddefasant farwolaeth, am hynny y bu ddigofaint mawr iawn yn Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.