Numeri 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.Prophwydoliaeth Balaam am frenhiniaeth Israel, a dyfodiad Crist, a destruwiad yr Amaleciaid a’r Ceneaid.

1Pan welodd Balaam mai da oedd yng-olwg yr Arglwydd fendithio Israel: yna Num.23.3. & 15.nid aeth efe megis o’r blaen i gyrchu dewiniaeth: onid cododd ei wyneb tua’r anialwch.

2A chododd Balaam ei lygaid, ac wele Israel yn presswylio yn ôl ei lwythau: a daeth yspryt Duw arno ef.

3 Num.23.7. Yna y cymmerodd efe ei ddammeg ac a ddywedodd, Balaam mab Peor a ddywed, a’r gŵr llygad gaead a ddywed.

4Gwrandawydd geiriau Duw a ddywed, ’r hwn a wel weledigaeth’r Holl alluoc, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd lygaid.

5Morr hyfryd yw dy bebyll di ô Iacob, dy gyfanneddau di Israel.

6Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel Aloe-wydd a blannodd yr Arglwydd, fel y Cedr-wydd wrth ddyfroedd.

7Difera efe ddwfr oi stenau, ai hâd mewn dyfroedd lawer, ai frenin a dderchefir yn vwch nac Agag, ai frenhiniaeth a ymgyfyd.

8Duw ai dug ef allan o’r Aipht: nerth vnicorn iddo, bwyttu efe y cēhedloedd y rhai ai gorthrymmant ef, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac ai saethau y gwana efe

9Efe a Genes.49.9.grymma a orwedd fel llew ieuangc, ac fel llew hên: pwy ai cyfyd ef? bendigedic dy fendith-wŷr, a melldigedic dy felldith-wŷr.

10Yna yr enynnodd dig Balac wrth Balaam, ac a wascodd ei ddwylo, dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, i regu fyng-elynion i’th gyrchais, ac wele ti gan fendithio a fendithiaist y tair gwaith hyn.

11Am hynny yn awr ffô di adref i’th fangre dy hun: dywedais gan anrhydeddu i’th anrhydeddwn, ac wele attaliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd.

12Yna y dywedodd Balaam wrth Balac, oni lefarais wrth dy gennadau y rhai a anfonaist attaf gan ddywedyd?

13Pe rhodde Balac i mi arian, ac aur loned ei dŷ ni allwn drosseddu gair yr Arglwydd i wneuthur da, neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr Arglwydd hynny a lefaraf fi.

14Ond yr awran wele fi yn myned at fy mhobl: tyret mi a’th gynghoraf yr hyn a ŵna y bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau dyweddaf.

15Ac efe a gymmerth ei ddammeg, ac a ddywedodd: Balaam mab Peor a ddywed, a’r gwr llygad gaead a ddywed.

16Dywet gwrandawydd geiriau Duw, gwybodydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Holl alluoc: yr hwn a syrthiodd ac yr agorwyd ei lygaid.

17Gwelaf ef, ac nid yr awran: canfyddaf ef, ond nid o agos: aiff seren o Iacob, a chyfyd teyrn-wialen o Israel: a dryllia gyrrau Moab ac a ddinistria holl feibion Seth.

18Yna Edom a orescynnir, Seir hefyd a orescynnir ei elynion: ac Israel a wna rymmuster.

19Ac arglwyddiaetha o Iacob, ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas.

20Yna efe a edrychodd ar Amalec, a chymmerodd ei ddammeg a diwedodd: dechreu cenhedloedd Exod.17.10|EXO 17:10, 1.Sam.15.3.Amalec, ai ddiwedd a dderfydd am dano byth.

21Edrychodd hefyd ar y Cenead, a chymmerodd ei ddammeg, a dywedodd, cadarn dy annedd, gosot ti dy nyth yn y graig.

22Er hynny bydd i bori y Cenead, hyd oni i’th gaethiwo Assur.

23Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, o’ch pwy fydd byw pan osodo Duw hyn?

24Llongau hefyd o draeth Cittim a orthrymmant Assur, ac a orthrymmant Eber, ac yntef a dderfydd am dano byth.

25A chododd Balaam, ac aeth, ac a ddychwelodd adref, a Balac aeth hefyd iw ffordd yntef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help