1Ac yn y deuddecfed mîs o’r ddeuddecfed flwyddyn, ar y cyntaf o’r mîs y daeth gair yr Arglwydd attaf: gan ddywedyd,
2Ha fab dŷn cyfot alar-nad am Pharao brenin yr Aipht, a dywet wrtho: tebygaist i lew y cenhedloedd, ac yr ti fel morfarch yn y moroedd: canys dygaist allan dy afonydd, cythryblaist hefyd y dyfroedd a’th draed, a methraist eu hafonydd hwynt.
3Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw Ezec.12.13.minne a dânaf fy rhwyd arnat mewn cynnulleidfa pobloedd lawer: fel i’th godant yn fy rhwyd mau fi.
4Gadawaf di hefyd ar y tîr, paraf dy daflu ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti: îe o honot ti y diwallaf fwyst-filod yr holl dîr.
5Rhoddaf hefyd dy gîg ar y mynyddoed, a llanwaf y dyffrynnoedd a’th vchder di.
6Mwydaf hefyd dy dir llaith a’th waed hŷd y mynyddoedd, fel y llanwer yr afonydd o honot.
7Ie cuddiaf y nefoedd Esa.13.10. Ioel.2.31. Math.24.29.wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf ei sêr hwynt, yr haul a guddiaf â chwmwl, a’r lleuad ni wna iw goleuni oleuo.
8Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuni yn y nefoedd: a rhoddaf dywyllwch ar dy dîr medd yr Arglwydd Dduw.
9A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ym mysc y cenhedloedd i diroedd y rhai nid adwaenost.
10A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthit, ai brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegit, pan wnelwyf i’m cleddyf ddiscleirio yn erbyn eu hwynebau hwynt, îe dychrynant yn ddisymmwth bob vn am ei enioes yn nydd dy gwymp.
11Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat.
12A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy weryn, hwy oll yn gedyrn y cenhedloedd, a hwy a ddinistriant falchder yr Aipht: fel yr anrheithier ei holl weryn hi.
13Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer, fel na sathro troed dyn hwynt mwy, ac na sathro carnau anifeiliaid hwynt.
14Yna y soddaf eu dyfroedd hwynt, ai hafonydd a yrraf fel olew, medd yr Arglwydd Dduw.
15Pan roddwyf dîr yr Aipht yn anrhaith, ac anrheithio’r wlad oi llawnder, pan darawyf y rhai oll a bresswyliant ynddi, yna y cânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd.
16Dymma alar-nad, galerwch chwithau hi, merched y cenhedloedd a alarant hi: galarant hi am yr Aipht, ac am ei gweryn oll, medd yr Arglwydd Dduw.
17Ac yn y ddeuddecfed flwyddyn, ar y pymthefed o’r mîs y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd,
18Cŵyna fab dŷn am weryn yr Aipht, a descynn hi, hi a merched y cenhedloedd godidog i’r tîr issaf, gyd a’r rhai a ddescynnant i’r pwll.
19O bwy’r oeddit hyfryd? descynn a gorwedd gyd a’r rhai dienwaededic.
20Syrthiasant yng-hanol y rhai a laddwyd cleddyf: i’r cleddyf y rhoddwyd hi: luscwch hi ai gweryn oll.
21Llefared y rhai cryfiawn cedyrn wrthi hi, wrth ei chynnorthwy-wŷr o ganol vffern: a ddescynnasant, a orweddasant gyd a’r rhai dienwaededic a laddwyd â chleddyf.
22Yno Assyria ai holl gynnulleidfa ai beddau oi hamgylch hi, y rhai hynny oll a laddwyd, a syrthiasant drwy gleddyf.
23Yr hon y rhoddwyd ei beddau yn ystlyssau y pwll, ai chynnulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd hi, y rhai hynny oll a laddwyd, a syrthiasant drwy gleddyf: y rhai a roddasent eu harswyd yn nhîr y rhai byw.
24Yno Elam, ai holl weryn o amgylch ei bedd, y rhai hynny oll a laddwyd, a syrthiasant drwy gleddyf, a ddescynnasant yn ddienwaededic i’r tîr issod, y rhai a roddasent eu harswyd yn nhir y rhai byw: ac a ddugasant eu gwradwydd gyd a’r rhai a ddescynnant i’r pwll.
25Yng-hanol y rhai lladdedic y gosodasant iddi orweddfa ym mysc ei holl weryn, ai beddau oi hamgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededic a laddwyd â chleddyf, am roddi eu harswyd yn nhîr y rhai byw: a dwyn o honynt eu gwradwydd gyd a’r rhai a ddescynnent i’r pwll, yng-hanol y lladdedigion y rhoddwyd
26Yno Mesech, a Thubal ai holl weryn ai beddau oi hamgylch, y rhai hynny oll yn ddienwaededic a laddwyd â chleddyf: am roddi o honynt eu harswyd yn nhir y rhai byw.
27Ac ni orweddant gyd â’r cedyrn a syrthiasant o’r rhai dienwaededic, y rhai a ddescynnasant i vffern mewn arfau rhyfel, a rhoddasant eu cleddyfau tann eu pennau: eithr eu hanwiredd fydd ar eu hescyrn hwy, am arswyd cedyrn yn nhîr y rhai byw.
28A thithe a ddryllir ym mysc y rhai dienwaededic, ac a orweddi gyd a’r rhai a laddwyd â chleddyf.
29Yno Edom ai brenhinoedd, ai holl dywysogion y rhai a roddwyd yn eu cadernid gyd â’r rhai a lladwyd â chleddyf: hwynt a orweddant gyd a’r rhai dienwaededic, a chyd â’r rhai a ddescynnant i’r pwll.
30Yno holl dywysogion y gogledd, a’r holl Sidoniaid y rhai yn eu hofn a ddescynnasant gyd a’r lladdedigion: gan gywilyddio am eu cadernid: gorweddant hefyd yn ddienwaededic gyd a’r rhai a laddwyd â chleddyf, ac a ddygant eu gwradwydd eu hun gyd a’r rhai a ddescynnant i’r pwll.
31Pharao ai gwêl hwynt, ac a ymgyssura yn ei holl weryn: lladdedigion cleddyf Pharao ai holl wŷr medd yr Arglwydd Dduw.
32Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw, fel y gwnaethbwyd iddo orwedd yng-hanol y rhai dienwaededic gyd â lladdedigion cleddyf i Pharao ac iw holl weryn, medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.