Zacharias 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Gweledigaeth y llyfr hedegoc, a’r mesur Epha, ai deongliad.

1Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele lyfr yn hedeg.

2A dywedodd wrthif, beth a weli di? a dywedais, mi a welaf lyfr yn hedeg, ai hŷd yn vgain cufydd, ai lêd yn ddêc cufydd.

3Ac efe a ddywedodd wrthif, dymma’r felldith yr hon sydd yn myned allan ar wyneb yr holl fŷd, canys pawb a ledratto o’r hyn, a fernir wrth hwn: a phawb o’r hyn a oferdyngant, a fernir wrth hwn.

4Dygaf hi allan medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i’m henw, ac hi a erys yng-hanol ei dŷ, ac a dreulia ei goed, ai gerric.

5Yna yr angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a aeth allan, ac a ddywedodd wrthif, cyfot yn awr dy lygaid, ac edrych beth hynn sydd yn myned allan.

6A mi a ddywedais, beth hynny? ac efe a ddywedodd, hwn yw’r Epha y sydd yn myned allan: ac efe a ddywedodd dymma eu gwelediad yn yr holl ddaiar.

7Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny, ac dymma wraig yn eistedd yng-hanol yr Epha.

8Ac efe a ddywedodd, anwiredd yw hon, ac efe ai taflodd hi i ganol yr Epha: a bwriodd y pwys plwm ar ei enau.

9A chyfodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele ddwy wragedd yn dyfod allan, a gwynt yn eu hescill, (canys escill oedd ganddynt fel escill y Ciconia) a chyfodasant yr Epha rhwng y ddaiar a’r nefoedd.

10Yna y dywedais wrth yr Angel yr hwn a oedd yn ymddiddan â mi, i ba le’r aiff y rhai hyn a’r Epha?

11Dywedodd yntef wrthif, i adeiladu iddi dŷ yng-wlad Sinnaar: a hi a ddarperir, ac a osodir yno ar ei stôl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help