1Syrthiodd Bel, torrwyd i lawr Nebo: aeth eu delwau hwynt ar fwyst-filod, ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm ar y deffygiol.
2Gostyngâsant, cyd-grymmâsant, ni allent achub y llwyth, canys aethant mewn caethiwed eu hunain.
3Tŷ Iacob gwrandewch arnafi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a gludwyd o’r groth, ac a arweiniwyd o’r brû.
4Hyd henaint hefyd myfi fy hun, îe myfi cludaf hyd oni ben-wynnoch: gwneuthum, arweiniaf hefyd, clydaf, a gwaredaf
5I bwy i’m gwnewch yn debyg, ac i’m cystedlwch, ac i’m cyffelybwch, fel i’m tebyger
6Y rhai a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe ai gweithia yn dduw, gostyngant, ac ymgrymmant
7Dygant ef ar yscwyddau, cludant ef a gosodant fel y safo yn ei lê, ni syfl oi le, os llefa ar hwnnw, nid ettyb, ac ni’s gwared ef oi gystudd.
8Cofiwch hyn, ac wrolwch, ystyriwch bechaduriaid.
9Cofiwch y pethau cyntaf er ioed, canys myfi Dduw, ac nid neb arall, Duw ac heb fy mâth:
10Yn mynegu y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed yn dywedyd, fyng-hyngor a saif, a’m hewyllys a wnaf.
11Yn galw aderyn o’r dwyrain, a’m cynghor-wr o wlad bell, dywedais, a mi ai dygaf i benn, lluniais, ac mi ai gwnaf.
12Gwrandewch arnafi y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder.
13Nesseais fyng-hyfiawnder, na phellhao, a’m hiechydwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iechydwriaeth yn Sion, a’m gogoniant yn Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
