Philemon 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Y mae efe yn llawenychu glywed ffydd a chariad Philemon, 9 yr hwn y mae efe yn deisyfu arno faddeu iw wâs Onesimus, a’i dderbyn yn garedigol trachefn.

1Paul carcharor Iesu Grist a’r brawd Timotheus, at Philemon ein annwylyd, a’n cydweith-wr,

2Ac at ein hannwyl Apphia, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys yr hon sydd yn dy dŷ di:

3Grâs gyd â chwi a thangneddyf gan Dduw Tâd, a’r Arglwydd Iesu Grist.

4 1.Thess.1.2. 2.Thess.1.3. Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan dy gofio yn oestadol yn fyng-weddiau.

5(Wrth glywed dy gariad a’th ffydd yr hon sydd gennit yn yr Arglwydd Iesu, a thu ag at yr holl seinctiau)

6Fel y gwneler cyfranniad dy ffydd yn ffrwythlon, trwy adnabod y daioni yr hwn sydd ynoch trwy Grist Iesu.

7Canys y mae gennym lawenydd mawr a diddanwch yn dy gariad di, canys trwot ti frawd, y llonwyd calonnau y seinctiau.

8O herwydd pa ham er bod gennif fawr hyder yng-Hrist i orchymyn i ti y peth sydd weddus,

9Er hynny o rann cariad, gwell gennif attolwg i ti, cyd bwyf fel yr ydwyf, sef Paul yr hen-wr, ac yr awr hon hefyd yn garcharor Iesu Grist.

10Yr ydwyf yn attolwg i ti dros fy mab Colloss.4.9.Onesimus yr hwn a gēhedlais i yn fy rhwymau,

11Yr hwn ryw amser a fu i ti yn anfuddiol, eithr yr awr hon yn fuddiol i ti, ac i minne.

12Yr hwn a ddanfonais trachefn, a chymmer dithe ef, sef fy ymyscaroedd mau fi.

13Yr hwn a ewyllysiwn ei attal gyd â mi, fel trosot ti y gwasanaethe fi yn rhwymau yr Efengyl.

14Eithr heb dy feddwl di nid ni wnawn i ddim fel na bydde dy ddaioni di megis o angen, onid o fodd.

15Ond odit er mwyn hyn yr ymadawodd tros amser, fel y derbynit ef yn dragywydd;

16Bellach nid fel gwâs, eithr vwch-law gwâs, brawd annwyl yn henwedig i mi: pa faint mwy i ti yn y cnawd, ac yn yr Arglwydd hefyd?

17Os wyt gan hynny yn fyng-hymmeryd i yn gydymmaith, derbyn ef fel fy hun.

18Os gwnaeth efe niwed i ti, neu fod yn dy ddyled, cyfrif hynny arnafi.

19Myfi Paul a scrifennais â’m llaw fy hun, myfi a dalaf, megis ni ddywedaf wrthit, dy fod yn fy-nyled i am danat ty hun.

20Ie frawd, myfi a’th fwynhaf di yn yr Arglwydd: llonna fy ymyscaroedd yn yr Arglwydd.

21Gan ymddyried yn dy vfydd-dod yr scrifennais attat, gan wybod y gwnei fwy nag a ddywedafi.

22Heblaw hyn hefyd paratoa i mi letŷ: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi i’m rhoddir i chwi.

23Y mae yn dy annerch Epaphras, fyng-hyd garcharor yng-Hrist Iesu,

24Marcus, Aristarchus, Demas, Lucas fyng-hyd weith-wŷr.

25Grâs ein Harglwydd Iesu Grist gyd â’ch yspryd chwi. Amen.

O Rufain yr scrifennwyd hwn at Philemon gyd â’r gwâs Onesimus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help