2.Corinthiaid 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.1 Y mae efe yn bygwth y rhai anhydyn, 5 Ac yn datcan beth yw ei feddiant ef wrth eu testiolaeth hwy eu hunain. 10 Hefyd y mae yn dangos beth yw effect yr epistol hwn. 11 Wedi darfod iddo eu hannog hwy i wneuthur a ddylent, y mae yn dymuno iddynt lwyddiant yn gwbl.

1Y Drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod attoch, Deut.19.15.|DEU 19:15. math.18.16.|MAT 18:16. ioan.8.17.|JHN 8:17. heb.10.28.yng-enau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.

2Rhagddywedais i chwi, ac rhagddywedaf i chwi yr ail waith, megis pe bawn bresennol felly yr ydwyf yn scrifennu yn absennol at y rhai ym mlaen llaw a bechasant, ac at bawb eraill, os deuaf trachefn, nad arbedaf.

3Gan i chwi geisio profiad o Grist yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tu ag attoch chwi nid yw wann, eithr sydd nerthoc ynoch.

4Canys er ei groes-hoelio o ran gwendid, etto byw ydyw drwy nerth Duw: yr ydym ninnau hefyd yn weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gyd ag ef trwy nerth Duw tu ag attoch chwi.

5 1.Cor.11.28. Profwch eich hunain, a ydych yn y ffydd, chwiliwch eich hunain, oni adwaenwch eich hunain, bôd Iesu Grist ynoch, oddi eithr i chwi fôd yn wrthodedig?

6Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn ang-hymmeradwy.

7Ac yr wyf yn attolwg i Dduw na wneloch ddim drwg: nid er ein dangos ni yn gymmeradwy, ond er i chwi wneuthur yr hyn sydd onest, a’n bod ninnau megis yn rhai anghymmeradwy.

8Canys ni allwn wneuthur dim yn erbyn y gwirionedd, ond tros y gwirionedd.

9Canys llawen ydym ein bod ni yn weiniaid, a’ch bod chwithau yn gryfion: hyn hefyd ddymunem, eich perffeithrwydd chwi.

10Am hynny yr wyf yn absen yn scrifennu y pethau hyn, rhag i mi pen fyddwyf bresennol arfer o fod yn dôst, o herwydd yr awdurdod a roes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.

11Bellach (frodyr) ewch yn iach, byddwch berffaith, ymgyssurwch, synniwch yr vn peth, byddwch heddychol: a Duw y cariad a’r heddwch a fyddo gyd â chwi.

12Anherchwch eu gilydd â Ruf.16.16.|ROM 16:16. 1.cor.16.28.(sic.)|1CO 16:20. 1.pet.5.14.chusan sanctaidd: y mae ’r holl seinctiau yn erchi eich annerch.

13Grâs ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymmundeb yr Yspryd glân fyddo gyd â chwi oll. Amen.

Fe a scrifennwyd yr ail at y Corinthiaid o Philippi ym Macedonia, gyd â Thitus a Lucas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help