2.Samuel 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Baanah a Rechab yn lladd Isboseth. 12 a Dafydd yn peri eu lladd hwythau.

1Pan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron yna ei ddwylo ef a laesasant: a holl Israel a ddychrynnasant.

2A dau wr oeddynt gan fab Saul yn dywysogion y torfoedd, enw vn Baanah, ac enw’r ail Rechab meibion Rimmon y Beerothiad o feibion Beniamin: canys Beeroth hefyd a gyfrifasyd gyd a Beniamin.

3A’r Beerothiaid hyn a ffoasent i Gittaim: ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.

4Ac i Ionathan fab Saul mab cloff: mab pum mlwydd oedd efe, pan ddaeth y gair am Saul ac Ionathan o Iezrael, yna ei fammeth ai cymmerth ef, ac a ffôdd, a bu wrth fryssio o honi i ffoi, yna efe a syrthiodd fel y cloffodd efe, ai enw ef Mephiboseth.

5A meibion Rimmon y Beerothiad Rechab a Baanah a aethant, ac a ddaethant pan wresogase y dydd i dŷ Isboseth: ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.

6Ac wele hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ rhai yn prynnu gwenith, ac hwy ai tarawsant ef tann y bummed yna Rechab, a Baanah ei frawd a ddiangasant.

7Pan ddaethent i’r tŷ, yna efe oedd yn gorwedd ar ei wely o fewn stafell ei wely, ac hwy ai tarawsant ef, ac ai lladdasant ef, ac a dorrasant ei benn ef: ac a gymmerasant ei benn ef, ac a gerddasant ffordd y rhos ar hyd y nôs.

8Ac hwy a ddugasant ben Isboseth at Ddafydd i Hebron, ac a ddywedasant wrth y brenin, wele benn Isboseth fab Saul dy elyn di’r hwn a geisiodd dy ennoes di: a’r Arglwydd a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei hâd ef.

9Yna Dafydd a attebodd Rechab, a Baanah ei frawd menibion Rimmon y: Boerothiad, ac a ddywedodd wrthynt hwy: i mi gan ddywedyd, wele bu farw Saul, (ac efe oedd megis vn yn dwyn llawen-chwedl yn ei olwg ei hun) yna ymaflais ynddo, a lleddais ef yn Sielag: yr hwn y rhoddaswn i iddo obrwy am ei gennadwriaeth.

11Pa feint mwy ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfion yn ei dy, ar ei wely? yn awrgan hynny oni cheisiaf ei waed ef oddi ar eich llaw chwi? ac thorraf chwi ymmaith o’r tîr?

12Yna y gorchymynnodd Dafydd iw langciau eu lladd hwynt, ac hwy a dorrasant eu dwylo hwynt, ai traed, ac ai crogasant hwy vwch ben y llyn yn Hebron: a phen Isboseth a gymmerasant hwy, ac ai claddasant ym meddrod Pen.3.32.Abner yn Hebron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help