1Canys ni a wyddom os daiarol dŷ ein presswylfod a ddotodir, fôd i ni adeilad gan Dduw, tŷ, nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd.
2Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio gan ddeisyfio cael ein gwisco â’n tŷ yr hwn sydd o’r nêf.
3 Gwel.16.15. O blegit os gwiscir ni, ni’n ceffir yn noethion.
4Canys yn ddiau y rhai sy yn y babell hon ydym yn ocheneidio, ac yn llwythog am nad ewyllysiem ein diosc, ond ymwisco, fel y llyngcid yr hyn sydd farwol gan fywyd.
5A’r hwn a’n creawdd ni i hyn yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ŵystleidiaeth yr Yspryd.
6Am hynny yr ydym bôb amser yn hyderus, ac yn gŵybod, tra fôm gartref yn y corph, ein bôd oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.
7Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg.
8Er hynny yr ydym yn hyderus, ac y mae yn fodlonach gennym fod oddi cartref o’r corph a chartrefu gyd â’r Arglwydd.
9Am hynny hefyd yr ydym yn chwennychu pa vn bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, fôd yn gymmeradwy ganddo ef.
10 Rhuf.14.10. Canys rhaid yw i ni oll ymddangos ger bron brawdle Crist, fel y derbynio pob vn y pethau a yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg.
11Felly gan i ni ŵybod ofn yr Arglwydd, yr ydym ni yn peri i ddynion gredu, ac ni a wnaed yn hyspys i Dduw, ac yr ydwyf yn gobeithio hefyd ddarfod ein gwneuthur yn hyspys yn eich cydwybodau chwi.
12Canys nid ydym yn ymganmol trachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achos gorfoledd o’n plegit ni, fel y caffoch yn erbyn y rhai sy a’u gorfoledd yn yr wyneb, ac nid yn y galon.
13Canys os amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym, ac os bôd yn ein pwyll, i chwi.
14Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell, ni, gan i ni farnu hyn, os bu vn farw tros bawb, yna mai meirw oedd pawb.
15Ac efe a fu farw tros bawb, fel na bydde i’r rhai byw, na fyddent fyw rhag-llaw iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw trostynt, ac a adgyfododd.
16Am hynny o hyn allan, nid ydym yn adnabod nêb yn ôl y cnawd, ac os buom ni hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, er hynny o hyn allan nid ydym yn ei adnabod ef mwy
17 Gwel.21.5. Gan hynny od oes nêb yng-Hrist yn greadur newydd, yr hên bethau a aethant heibio, wele, gwnaethbwyd pob, peth yn newydd.
18A’r cwbl sydd o Dduw, yr hwn a’n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod;
19Canys Duw yng-Hrist, yn cymmodi y bŷd ag ef ei hun, heb adliwio iddynt eu pechodau, ac a osododd ynom ni air y cymmod.
20Am hynny yr ydym ni yn gennadau tros Grist, megis pe bydde Duw yn ymbil â chwi trwyddom ni: yr ydym yn attolwg i chwi tros Grist, cymmodwch â Duw.
21Canys efe a wnaeth yn bechod trosom ni, yr hwn ni adnabu bechod, fel ein gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.