Psalmau 113 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxiij.Molwch yr Arglwydd.

1Gweision yr Arglwydd molwch: molwch enw’r Arglwydd.

2Bendigêdic fyddo enw’r Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd.

3O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw’r Arglwydd.

4Yr Arglwydd a dderchafwyd ar yr holl genhedloedd: ai ogoniant ef goruwch y nefoedd.

5Pwy fel ein Harglwydd Dduw ni, yn presswylio yn vchel?

6[Ac] yn ymddarostwng i edrych yn y nefoedd, ac yn y ddaiar?

7Yr hwn sydd yn codi y tlawd o’r llwch: yn derchafu yr anghenus o’r tommennau,

8I’w osod gyd â phendefigion: gyd â phendefigion ei bobl.

9Yr hwn sydd yn gosod yr amhlantadwy yn dylwythoc, yn llawen-fam plant, canmolwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help