1Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys yng-hyscod yr Holl-alluoc.
2Dywedaf wrth yr Arglwydd, fyng-obaith a’m hamddeffynfa yn fy Nuw y gobeithiaf.
3Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr: oddiwrth haint echryslon.
4Ai ascell y cyscoda efe trosot, a thann ei adenydd y byddi diogel: ei wirionedd darian, ac astalch
5Nid ofni rhag dychryn nôs, rhag y saeth a eheto’r dydd.
6[Na] rhag yr haint yr hwn a rodio yn y tywyllwch, rhag y dinistr a ddinistrio hanner dydd.
7Wrth dy ystlys y cwymp mîl, a dengmil wrth dy ddeheu-law: ond ni ddaw yn agos attat ti.
8Etto canfyddi a’th lygaid, a gwêli dâl y rhai annuwiol.
9Canys ti ô Arglwydd fyng-obaith vchel y gosodaist dy bresswylfa.
10Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i’th babell.
11Canys efe a Matth.4.6.orchymyn iw angelion am danat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
12Ar eu dwylo i’th ddygant, rhag taro dy droed wrth garrec.
13Ar y llew, a’r asp y cerddi: ar genew llew, a’r ddraig y sethri.
14Gwaredaf ef hefyd am roddi o honaw serch arnaf: derchafaf ef am adnabod o honaw fy enw.
15Efe a eilw arnaf, a mi ai gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd ag ef, y gwaredaf ef, ac y gogoneddaf ef.
16Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
