1Gwelodd Darius yn dda osod o honaw ef ar y deyrnas Hest.1.1.chwe vgain o dywysogion i fod ar yr holl deyrnas.
2Ac arnynt hwy tri rhaglaw, y rhai Daniel yn vn o honynt, i’r rhai y rhodde y tywysogion gyfrif, fel na bydde y brenin mewn colled.
3Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid, a’r tywysogion, o herwydd yspryd rhagorol ynddo ef: a’r brenin a amcanodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.
4Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oeddynt yn ceisio cael achos yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth, ond ni allent gael vn achos na llwgr, o herwydd ffyddlon efe, fel na cheid arno ddim bai, na llygredigaeth.
5Yna y dywedodd y gwŷr hyn, ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achos, oni chawn yng-hyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef.
6Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant yng-hyd at y brenin, ac a ddywedasant wrtho ef fel hyn: Darius frenin bydd fyw byth.
7Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a’r tywysogion, y cynghoriaid, a’r dugiaid, a ymgyngorâsant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, mai i ffau y llewod y bwrir pwy bynnac a arche arch gan vn duw na dyn tros ddeng-nhiwrnod ar hugain, onid gennit ti ô frenin.
8Yr awr hon ô frenin siccrha y gorchymyn, a selia’r scrifen, fel na’s newidier: megis cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon sydd safadwy.
9O herwydd hyn y seliodd brenin Darius yr scrifen a’r gorchymyn.
10Yna Daniel (pan ŵybu selio’r scrifen) a aeth iw dŷ: a’r ffenestri oeddynt agored iddo ef yn ei stafell ar gyfer Ierusalem; a thair gwaith yn y dydd y gostynge efe ar ei liniau, ac y gweddie efe, ac y cyffesse o flaen Duw, megis y gwnae efe cyn hynny.
11Yna y gwŷr hyn a ddaethant yng-hyd, ac a gawsant Daniel yn gweddio ac yn ymbil o flaen ei Dduw.
12Yna y daethant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin: oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnac a geisie gan vn duw, na dyn tros ddeng-nhiwrnod ar hugain, ond gennit ti ô frenin? attebodd y brenin, a dywedodd, gair safadwy fel cyfraith y Mediaid, a’r Persiaid yr hon ni throsedda
13Yna’r attebasant, ac y dywedasant o flaen y brenin: Daniel yr hwn sydd o feibion caeth-glud Iuda ni wnaeth gyfrif o honot ti frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist: eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddio ei weddi ei hun.
14Yna’r brenin (pan glybu’r gair hwn) a aeth yn ddrwg iawn arno, ac a osododd ei fryd gyd â Daniel ar ei waredu ef, ac a fu hyd fachludiad haul yn ei achub ef.
15Yna y gwŷr hynny a ddaethant yng-hyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, gŵybydd frenin mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid na newidier vn gorchymyn na deddf a osodo y brenin.
16Yna yr archodd y brenin, a hwynt a ddugâsant Ddaniel, ac ai bwriasant i ffau y llewod: y brenin a lefarodd, ac a ddywedodd wrth Ddaniel, dy Dduw yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a’th achub di.
17Yna y dygwyd vn garrec, ac ai gosodwyd ar enau y ffau, a’r ai seliodd hi ai sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr hyn a ewyllysiasid am Ddaniel.
18Yna yr aeth y brenin iw lŷs, ac a fu y noson honno heb fwyd, ac ni adawodd ddwyn difyrrwch oi flaen, ei gŵsc hefyd a giliodd oddi wrtho ef.
19Yna y cododd y brenin ar ŵawr ddydd, ac a aeth ar frŷs hyd ffau y llewod:
20A phan nessaodd efe at y ffau, efe a alwodd am Ddaniel â llais trîst, llefarodd y brenin a dywedodd wrth Ddaniel, Daniel, gwasanaeth-wr y Duw byw, oni alle dy Dduw di yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn oestad, dy gadw di rhag y llewod?
21Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, ô frenin, bydd fyw byth.
22Fy Nuw a anfonodd ei Angel, ac a gaeodd safn y llewod, fel na wnaethant i’m niwed, o herwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef: a hefyd ni wneuthwn niwed o’th flaen dithe frenin.
23Yna y brenin fu dda iawn ganddo, ac a archodd gyfodi Daniel o’r ffau, yna y codwyd Daniel o’r ffau, ac ni chaed niwed ynddo, o herwydd credu o honaw yn ei Dduw.
24Yna y brenin a ddywedodd am ddwyn y gwŷr hynny y rhai a gyhuddâsent Ddaniel, ai bwrw i ffau y llewod, hwynt, ai plant, ai gwragedd: ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu hescyrn
25Yna yr scrifennodd y brenin Darius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, y rhai oeddynt yn trigo yn yr holl dîr: Heddwch a amlhaer i chwi.
26O’m blaen i y gosodwyd cyfraith trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, ar fod o honynt yn crynu, ac yn ofni rhag Duw Daniel, o herwydd efe Dduw byw, ac yn parhau byth: ei frenhiniaeth ef hefyd ni dderfydd, nai lywodraeth byth.
27Y mae yn gwaredu, ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion, a rhyfeddodau yn y nefoedd, ac ar y ddaiar, yr hwn a waredodd Ddaniel o feddiant y llewod.
28A’r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Darius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.