1Baich gair yr Arglwydd, at Israel drwy law Malachi.
2 Esa.13.1. Hoffais chwi medd yr Arglwydd, a chwi a ddywedwch, ym mha beth yr hoffaist ti ni? onid brawd Esau i Iacob, medd yr Arglwydd? etto Iacob a hoffais,
3Ac Esau a gasseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffaethwch, ai etifeddiaeth yn anialwch dreigiau.
4Os dywed Edom, tlodwyd ni, etto dychwelwn, ac adailadwn yr anghyfānedd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, hwynt a adailadant, ond minne a ddinistriaf, a gelwir hwynt yn gyffinid drygioni: a’r bobl y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd.
5Eich llygaid hefyd a welant, a chwitheu a ddywedwch, mawrheuir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.
6Mab a anrhydedda ei dâd, a gwenidog ei feistr, ac os fi dâd, pa le fy anrhydedd? ac os fi feistr, pa le y mae fy ofn, medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi’r offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw? a chwi a ddywedwch, ym mha beth y dirmygasom dy enw di?
7Offrymmu yr ydych ar fy allor fara halogedic, a chwi a ddywedwch, ym mha beth yr halogasom di? am i chwi ddywedyd, dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd.
8Pan ddygech hefyd dall iw aberthu, onid drwg a phan ddygech gloff, neu glwyfus, onid drwg dŵg ef yr awron i’th dywysog, a fydd efe fodlon it? neu a dderbyn efe dy wyneb, medd Arglwydd y lluoedd?
9Ac yn awr gweddiwch attolwg ger bron Duw fel y trugarhao wrthych: o’ch llaw chwi y mae hyn, a dderbyn efe wyneb o honoch, medd Arglwydd y lluoedd?
10A phwy hefyd o honoch a gaeue y dôrau? neu a oleue fy allor yn rhâd? nid genif foddlonrwydd ynoch chwi medd Arglwydd y lluoedd: ac ni byddaf bodlon i fwyd offrwm o’ch llaw.
11Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawrheuir fy enw ym mysc y cenhedloedd: ac ym mhob lle arogldarth a offrymmir i’m henw, a bwyd offrwm pûr: canys mawr fy enw ym mhlith y cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.
12Ond chwi ai halogasoch ef, pan ddywedasoch, bwrdd yr Arglwydd halogedic, ai ffrwyth, ei fwyd sydd ddirmygus.
13Chwi hefyd a ddywedasoch, wele flinder, a ffroenassoch arno medd Arglwydd y lluoedd; Dygasoch hefyd y treisiedic, a’r cloff, a’r clwyfus pan ddygasoch fwyd offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi, medd yr Arglwydd?
14Melldigedic yw y dichellgar, pan fyddo yn ei gorlan wryw, os efe a adduna, ac a abertha llygredic i’r Arglwydd: canys Brenin mawr medd Arglwydd y lluoedd, a’m henw ofnadwy ym-mhlith y cenhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
