2.Corinthiaid 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Dywydrwydd Paul yn ei swydd. 13 A’r achosion y rhai sy yn peri.

1 Am hynny gan fôd i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu.

2Eithr ni a ymwrthodasom ddirgelwch gwradwydd, heb rodio yn ddichelgar, nac arfer twyll am air Duw: eithr trwy eglurhâd y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bôb cydwybod dŷn ger bron Duw.

3Ac os yw ein Efengyl ni yn guddiedic, yn y rhai colledig y mae yn guddiedic.

4Ym mha rai y dallodd Duw y bŷd hwn feddyliau yr anfyddlonion, rhag tywynnu iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Dduw.

5Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd, a ninneu yn weision i chwi er mwyn Iesu.

6Canys Duw yr hwn a orchymynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.

7Eithr y tryssor hwn sydd gennym mewn llestri pridd, fel y bydde ardderchogrwydd y meddiant hwnnw o Dduw, ac nid o honom ni.

8Ym mhôb man ein cystuddir, er hynny nid ydym mewn ing: y mae yn gaeth arnom, ond nid ydym yn gwbl heb obaith.

9Wedi ein herlid, ond heb ein gwrthod, wedi ein taflu i lawr eithr heb ein difetha.

10Gan arwain bob amser o amgylch yn y corph, farwolaeth yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corph.

11Canys yr ydys yn ein rhoddi ni y rhai ydym yn oestad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurhaer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12Ac felly y mae angeu yn gweithio ynom ni, ac enioes ynoch chwithau.

13A chan fôd i ni yr vn yspryd ffydd, megis ac y mae yn scrifennedic, credais, ac am hynny y dywedais, ninnau hefyd ydym yn credu, ac am hynny yn dywedwn,

14Gan ŵybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a’n gosod gyd â chwi.

15Canys pôb peth sydd er eich mwyn chwi, fel yr amlhâo yr helaethaf râs trwy ddiolch llawer er gogoniant i Dduw.

16Am hynny nid ydym yn ymollwng, eithr er llygru ein dŷn oddi allan, er hynny y dŷn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.

17O blegit y mae yscafnder ein cystudd yr hwn ni peru ond munyd, yn peri i ni yn rhagorol rhagorol a thragywyddol bwys gogoniant.

18Tra nid ydym yn ystyried y pethau a welir ond y pethau ni welir: canys y pethau a welir sy amserol, a’r pethau ni welir sy dragywyddol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help