1Ac wedi marwolaeth Moses gwâs yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Iosuah fab Nun gwenidog Moses, gan ddywedyd,
2Moses fyng-wâs a fu farw: gan hynny cyfot yn awr dôs tros yr Iorddonen hon, ti a’r holl bobl hyn i’r wlâd yr hon yr ydwyfi yn rhoddi iddynt hwy meibion Israel.
3Pôb mann a’r a sango gwadn eich troed chwi ynddo a roddais i chwi: fel y lleferais wrth Moses.
4 Deut.1.38. Deut.11.24. iosua.14.9. O’r anialwch, a’r Libanus ymma, hyd yr afon fawr afon Euphrates, holl wlâd yr Hethiaid, hyd y môr mawr tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.
5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy enioes: megis y bum gyd a Moses y byddaf gyd a thithe, ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
6Ymwrola ac ymegnia: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu y wlâd yr hon a dyngais wrth eu tadau arrhoddi iddynt.
7 Deut.31.7. Yn vnic ymwrola, ac ymegnia yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith yr hon a orchymynnodd Moses fyng-was i ti, Deut.5.32.na ogwydda oddi wrthi ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy: fel y ffynnech i ba le bynnac yr elech.
8Nac ymadawed Deut.31.9.llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr mefyria ynddo ddydd a nôs, fel y cedwech ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd scrifennedic ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
9Oni orchymynnais it ymwrola, ac ymegnia, nac arswyda, ac na russa: Psal.118.6. hebreaid.13.6.canys yr Arglwydd dy Dduw gyd a thi i ba le bynnac yr elech.
10Yna Iosuah a orchymynnodd i lywodraeth-wŷr y bobl gan ddywedyd,
11Trammwywch drwy ganol y llu, a gorchymynnwch i’r bobl gan ddywedyd, paratoiwch i chwi lynniaeth: canys ym mhen y tri-diau y byddwch chwi yn myned tros yr Iorddonen hon i ddyfod i orescyn y wlâd yr hon y mai’r Arglwydd eich Duw yn rhoddi i chwi iw meddiannu.
12Wrth y Rubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasses y llefarodd Iosuah gan ddywedyd:
13Cofiwch y Num.32.22.gair yr hwn a orchymynnodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi gan ddywedyd: yr Arglwydd eich Duw sydd yn esmwythau arnoch, ac a roddodd i chwi y wlâd honn.
14Eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid a drigant yn y wlâd yr hon a roddodd Moses i chwi o’r tu ymma i’r Iorddonen: ac ewch chwithau trosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl[ydych] gedyrn, o nerth, a chynnorthwywch hwynt.
15Nes rhoddi o’r Arglwydd lonyddwch i’ch brodyr fel i chwithau, a gorescyn o honynt hwy hefyd y wlâd yr hon y mae’r Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlâd eich etifeddiaeth, a meddiannwch hi, yr hon a roddodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi o’r tu ymma i’r Iorddonen, tua chodiad yr haul.
16Yna’r atebasant Iosuah gan ddywedyd: gwnawn yr hyn oll a orchymynnaist i ni, awn hefyd at beth bynnac yr anfonech ni.
17Fel y gwrandawsom ar Moses mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithe: yn vnic bydded yr Arglwydd dy Dduw gyd a thi, megis y bu gyd a Moses.
18Pwy bynnac a anufyddhao dy enau, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion yn yr hyn oll a orchymynnech iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn vnic ymwrola ac ymegnia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.