Ezeciel 36 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVI.Addewid o ymwared i Israel oddi wrth y cenhedloedd. 22 Bod ymgeledd Israel o drugaredd Dduw, ac nid oi haeddedigaeth eu hun.

1Tithe fab dŷn prophwyda wrth fynyddoedd Israel, a dywet: gwrandewch Ezec.6.2.fynyddoedd Israel air yr Arglwydd.

2Fel hyn y Dywed yr Arglwydd Dduw, o herwydd dywedyd o’r gelyn hyn am danoch chwi, a ha, aeth vchelfaon tragywyddol hefyd yn etifeddiaeth i ni.

3Am hynny prophwyda, a dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw: o herwydd eich anrhaithio a’ch llyngcu o amgylch, i fod o honoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned o honoch yn watwargerdd, ac yn gablaeth pobl:

4Am hynny mynyddoedd Israel gwrandewch air yr Arglwydd DDuw, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd, ac wrth y brynnau, wrth yr afonydd, ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffaethwch anghyfanneddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedic y rhai oeddynt yn yspail, ac yn watwar i’r rhan arall o’r cenhedloedd y rhai oi hamgylch:

5Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, onid yng-wrês fyng-wŷn y lleferais wrth y rhan arall o’r cenhedloedd, ac wrth holl Edom: y rhai a roddasant fy nhir mau fi yn etifeddiaeth iddynt eu hun mewn llawenydd pob calon, trwy ddiystyrwch meddwl, am ei gyrru yn yspail.

6Am hynny prophwyda am dîr Israel, a dywet wrth y mynyddoedd, ac wrth y brynnau, wrth yr afonydd, ac wrth y dyffrynnoedd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: wele fi yn fyng-wŷn, ac yn fy llid y lleferais, o herwydd dwyn o honoch wradwydd y cenhedloedd,

7Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, myfi a Ezec.20.5.dyngais oni ddwg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch chwi eu gwradwydd.

8A chwithau mynyddoedd Israel a roddwch eich ceingciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i’m pobl Israel: canys agos ydynt ar ddyfod.

9Canys wele fi attoch, îe troaf attoch, fel i’ch coledder, ac i’ch hauer.

10Amlhâf ddynnion ynoch chwi hefyd holl dŷ Israel ei gyd, fel y cyfannedder y dinasoedd, ac yr adailader y diffaethwch.

11Ie amlhâf ynoch ddŷn ac anifail, fel y chwanegant ac y ffrwythant, a gwnaf i chwi bresswylio fel yr oeddech gynt: ie gwnaf well nag eich dechreuad, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.

12Dygaf hefyd ddynnion arnoch fy mhobl Israel, canys etifeddant dydi, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac ni chwanegi eu gwneuthur hwynt yn ymddifaid mwy.

13Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, o herwydd eu bod yn dywedyd wrthych, ti a fuost yn bwytta dynnion, ac yn gwneuthur dy genedl dy hun yn ymddifad,

14Am hynny ni fwyttei ddŷn mwy, at ni wnei i’th genedl dy hun syrthio medd yr Arglwydd Dduw:

15Ac ni adawaf glywed gwradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy: ni ddygi ychwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i’th genedl dy hun syrthio, medd yr Arglwydd Dduw.

16Daeth hyfyd gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd.

17Ha fab dŷn tŷ Israel oeddynt yn trigo yn eu tîr eu hun: ac ai halogasant ef ai ffordd, ac ai gweithredoedd eu hun: eu ffordd hwynt ydoedd o’m blaen i fel aflendid gwraig fis-glwyfus.

18Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed yr hwn a dywalltâsent ar y ddaiar, ac am eu delwau yr halogasent hi.

19Am hynny gwascerais hwynt ym mhlith y cenhedloedd, a chwelais hwynt ar hyd y gwledydd yn ôl eu ffyrdd eu hun, ac yn ôl eu gweirhredoedd eu hun y bernais hwynt.

20Pan Esa.52.5. rhufein.2.24.ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant attynt, yna yr halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid am danynt: dymma bobl yr Arglwydd, ac oi gwlâd eu hun y daethant.

21Er hynny arbedais er mwyn fy enw sanctaidd yr hwn a halogodd tŷ Israel ym mysc y cenhedloedd y rhai yr aethant attynt.

22Am hynny dywet wrth dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: nid er eich mwyn chwi tŷ Israel yr ydwyf fi yn gwneuthur ond er mwyn fy enw sanctaidd yr hwn a halogasoch chwi ym mysc y cenhedloedd lle yr aethoch.

23Canys sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ym mysc y cenhedloedd yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysc hwynt) fel y gŵypo y cenhedloedd mai myfi yr arglwydd medd yr Arglwydd Dduw: pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid.

24Ac mi a’ch cymmeraf chwi o fysc y cenhedloedd, ac a’ch casclaf chwi o’r holl wledydd, ac a’ch dygaf i’ch tîr eich hun,

25Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân oddi wrth eich halogedd oll: glanhâf chwi hefyd oddi wrth eich gau-dduwiau oll.

26A Iere.32.29.|JER 32:29. ezec.11.19.rhoddaf i chwi galon newydd, yspryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi, a thynnaf y galon garrec o’ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig.

27Rhoddaf hefyd fy yspryd mau fi o’ch mewn, ac a ŵnaf i chwi rodio yn fy neddfau mau fi, a chadw, a gwneuthur fy marnedigaethau,

28Cewch drigo hefyd yn y tîr yr hwn a roddais i’ch tadau: a byddwch yn bobl i mi, a minne a fyddaf Dduw i chwithau.

29Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl halogedd, a galwaf am ŷd, ac ai amlhaf, ac ni adawaf arnoch newyn.

30Amlhâf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy wradwydd newyn ym mysc y cenhedloedd.

31Cofiwch hefyd eich ffyrdd drygionus, a’ch gweithredoedd y rhai nid dda, yna y byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau, ac am eich ffieidd-dra:

32Byddet hyspys i chwi nad er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur medd yr Arglwydd Dduw: tŷ Israel gwridwch, a chywilyddiwch am eich ffordd.

33Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yn y dydd y glanhauwyf chwi o’ch holl anwireddau, y paraf gyfanneddu dinasoedd, ac yr adailadir yr anghyfannedd-leoedd.

34A’r tîr anrhaithiedic a goleddir, am ei fod yn anrhaith yng-olwg pôb cynniwerudd.

35Yna y dywedant, y tîr anrhaithiedic hwn oedd fel gardd Eden a’r dinasoedd ang-hyfannedd anrhaithiedic a dinistriol, a gyfanneddir yn gaeroc.

36Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o’ch amgylch a gânt ŵybod mai myfi’r Arglwydd a adailedais eich lleoedd dinistriol, a blennais eich mannau anrhaithiedic: myfi yr Arglwydd a leferais, ac a wneuthum

37Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, tŷ Israel a’m caiff fi etto i wneuthur hyn iddynt: amlhâf hwynt fel mintai o ddynnion.

38Fel praidd sanctaidd, fel praidd Ierusalem yn eu tymmorau, felly y dinasoedd ang-hyfannedd fyddant llawn o finteioedd o ddynnion fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help