1A phan glybu Sanebalat, a Thobia, a Gesem yr Arabiaid a’r rhan arall o’n gelynnion adailadu o honofi y mûr, ac nad oedd adwy wedi ei gadel ynddo: (er na osodaswn i y pryd hynny y dorau ar y pyrth)
2Yna’r anfonodd Sanebalat, a Gesem attaf gan ddywedyd, tyret, ac ymgyfarfyddwn yng-hyd yn pentrefydd yng-lynn Ono: ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi.
3Am hynny’r anfonais gennadau attynt hwy gan ddywedyd, gwaith mawr yr ydwyfi yn ei wneuthur, o herwydd hynny ni allaf ddyfod i wared, rhac i’r gwaith beidio pan ymmadawn ag ef, a dyfod i wared attoch chwi.
4Etto hwynt a anfonasant attafi yn y wedd hon bedair gwaith, ac yn y modd hwnnw’r attebais hwynt.
5Yna Sanebalat a anfonodd ei wâs attafi y bummed waith yr vn ffunyd, a llythyr agored yn ei law.
6Ynddo’r oedd yn scrifennedic, Ym Mysc y cenhedloed y clybywyd, a Gesem sydd yn dywedyd, dy fod ti, a’r Iddewon, yn amcanu gwrthryfela, o herwydd hynny dy fod ti yn adailadu y mûr: ac y byddi yn frenin arnynt pan y pethau hyn.
7A’th fod tithe hefyd wedi gosod prophwydi i bregethu am danat ti yn Ierusalem gan ddywedyd, brenin yn Iuda, ac yn awr y fath ymadroddion a hyn a glyw y brenin: gan hynny tyret yn awr, ac ymgynghorwn yng-hyd.
8Yna a’r anfonais atto gan ddywedyd, ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn y rhai’r ydwyt ti yn eu dywedyd: canys o’th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychymygu hwynt.
9O blegit hwynt oll ydynt yn ceisio ein hofni ni gan ddywedyd, eu dwylo hwynt a laesant o’r gwaith fel na’s gwneir ef: gan hynny cryfhâ yn awr fy nwylaw i.
10A mi a ddaethum i dy Semaia mab Delaia, fab Mehetabel yrhwn oedd wedi caeu arno ac efe a ddywedodd, cyfarfyddwn yn nhŷ Dduw yng-hanol y deml, a chaewn ddryssau y deml, canys y maent yn dyfod i’th ladd di, a lliw nôs y deuant i’th ladd di.
11Yna y dywedais, a ffy gŵr o’m mâth i? neu pwy fel myfi’r hwn a ele i’r deml fel y bydde byw? nid âf i mewn.
12Ac wele gwybûm nad Duw ai hanfonase ef: onid llefaru o honaw ef y brophwydoliaeth hon yn fy erbyn i, canys Tobia, a Sanebalat ai cyflogasent ef.
13O herwydd hyn y cyflogasid ef fel i’m hofnid i, ac y gwnawn felly, ac y pechwn: ac y bydde ganddynt yn enllib fel i’m gwradwyddent.
14O fy Nuw cofia di Tobia, a Sanebalat yn ôl eu gweithredoedd hynny: a Noadia y brophwydes hefyd a’r rhan arall o’r prophwydi y rhai oeddynt yn fy nychrynnu i.
15A’r mûr a orphennwyd ar y pummed ar hugain o Elul, mewn deuddengnhiwrnod a deugain.
16A phan glybu ein gelynnion ni yna’r holl genhedloedd y rhai o’n hamgylch a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai drwy ein Duw ni y gwnelsid y gwaith hwn.
17Ac yn y dyddiau hyn pendefigion Iuda oeddynt yn mynych-ddanfon eu llythyrau i fyned at Tobia: a’r rhai eiddo Tobia oeddynt yn dyfod attynt hwythau.
18Canys llawer yn Iuda mewn cyngrair ag ef, o herwydd daw efe i Secania fab Arah, ac Iehochanan ei fab ef a gymmerase ferch Mesulam fab Bereciah
19Ai gymmwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegu ger fy mron i, fyng-eiriau finne hefyd y byddent hwy yn eu hadrodd iddo yntef: Thobia a anfonodd lythyrau i’m dychrynnu i.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.