Ezeciel 46 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVI.Pa aberthau fyddent ar y Sabbothau, a’r newydd-loerau. 8 Pa ffordd y delid i’r Deml, ac yr elid allan o honi.

1Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, porth y cyntedd nessaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith, ond ar y dydd Sabboth yr agorir ef: felly’r agorir ef ar ddydd y newydd loer.

2A’r tywysog a ddaw oddi allan ffordd cyntedd y porth, ac a saif wrth orsing y porth, yna yr offrymma’r offeiriad ei boeth offrwm ef, ai aberthau hedd, ac yr addola efe wrth riniog y porth, ac a aiff allan, a’r porth ni cheuir hyd yr hwyr.

3Pobl y tîr a addolant hefyd ddrws y porth hwnnw ar y Sabbothau, ac ar y newydd-loerau o flaen yr Arglwydd.

4A’r offrwm poeth yr hwn a offrymmo’r tywysog i’r Arglwydd ar y dydd Sabboth chwech o ŵyn perffaith-gwbl, a bwrdd perffaith-gwbl.

5A bwyd offrwm o Epha gyd a’r hwrdd, a rhodd ei law o fwyd offrwm gyd a’r ŵyn, a Hin o olew gyd a’r Epha:

6Ac ar ddydd y newyddloer, bustach ieuangc perffaith-gwbl, a chwech o ŵyn, a hwrdd Epha.

8A phan ddelo yr tywysog i mewn ffordd cyntedd y porth y daw: ac ar hŷd y ffordd honno yr aiff allan.

9A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedic, yr hwn a ddelo trwy borth y gogledd i addoli a aiff allan trwy borth y deau: a’r hwn a ddelo trwy borth y deau a aiff allan trwy borth y gogledd, na ddychweled i’r hwn y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.

10A phan ddelont hwy i mewn y daw’r tywysog yn eu mysc hwy, a phan elont allan yr aiff yntef allan.

11Ar yr vchel wyliau hefyd y bydd y bwyd offrwm o Epha gyd â bustach, ac Epha gyd â hwrdd, a rhodd ei law gyd a’r ŵyn, a Hin o olew gyd a’r Epha.

12A phan offrymmo yr tywysog offrwm gwirfodd neu aberth hedd gwîrfodd i’r Arglwydd, yna’r egir iddo’r porth yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac yr offrwm ei boeth offrwm, ai aberthau hedd, fel y gwnae ar y dydd Sabboth: ac a aiff allan ac a gaea’r porth ar ol ei fynediad allan.

13Oen blwydd perffaith-gwbl hefyd a offrwmmi yn boeth offrwm i’r Arglwydd beunydd: o foreu i foreu yr offrymmi ef.

14Offrymmi hefyd yn fwyd offrwm gyd ag ef o foreu i foreu, chweched ran Epha yn fwyd offrwm i’r Arglwydd ddeddfau tragywyddol byth.

15Felly’r offrymmant yr oen a’r bwyd offrwm, a’r olew, o foreu i foreu yn boeth offrwm byth.

16Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, os rhydd y tywysog rodd i neb oi feibion oi etifeddiaeth eiddo ei feibion fydd hynny, eu cyfiawnder hwy hynny o etifeddiaeth.

17Ond pan roddo efe rodd oi etifeddiaeth i vn oi weision bydd hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y Lefit.25.9.rhydd-did, yna y dychwel i’r tywysog, etto ei etifeddiaeth ei feibion, eiddynt hwy fydd.

18Ac na Ezec.45.8.chymmered y tywysog o etifeddiaeth y bobl, gan eu gorthrymmu hwynt am eu cyfiawnder, rhodded etifeddiaeth iw feibion, oi gyfiawnder ei hun, fel na wascarer fy mhobl bob vn allan oi etifeddiaeth.

19Ac efe am dûg trwy’r ddyfodfa yr hon ar ystlys porth yr offeiriaid i’r stafelloedd cyssegredic y rhai oeddynt yn edrych tua’r gogledd: ac wele yno le yn yr ystlyssau nessaf i’r dwyrain.

20Ac efe a ddywedodd wrthif, dymma’r fān lle y beirw’r offeiriaid yr aberth tros gāwedd, a’r pech aberth, lle y pobant y bwyd offrwm heb ddwyn i’r cyntedd nessaf allan i gyssegru’r bobl.

21Ac efe a’m dûg i’r cyntedd nessaf allan, ac a’m tywysodd i bedair congl y cyntedd, ac wele gyntedd ym mhob congl i’r cyntedd.

22Ym mhedair congl y cyntedd gynteddau cyssylltiedic, o ddeugain o hŷd, a dêc ar hugain o lêd: vn fessur i’r conglau ill pedair.

23Ac mûr o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a chegînau wedi eu gwneuthur oddi tann y muroedd oddi amgylch.

24Ac efe a ddywedodd wrthif, dymma dŷ y cogau, lle y beirw gwenidogion y tŷ aberth y bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help