Marc 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Crist yn iachau y dyn diffrwyth ei law, 13 yn galw ei apostolion, 22 yn atteb cabledd yr Iddewon, 33 ac yn dangos pwy yw ei fam a’i frodyr ef.

1Ac efe Math.12.9; Luc 6.6.aeth i mewn drachefn i’r Synagog, ac yr oedd yno ddŷn a’i law wedi diffrwytho.

2A hwy a’i gwiliasant ef, a iachae efe ar y dydd Sabboth, fel y gallent ei gyhuddo ef.

3Yna y ddywedodd efe wrth y dŷn yr hwn oedd a’r llaw diffrwyth ganddo, cyfot i’r canol.

4Ac efe a ddywedodd wrthynt, ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabboth, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes ai lladd? a hwy a dawsant.

5Yna’r edrychodd efe arnynt o amgylch yn ddigllon, gan ymofidio o ran caledrwydd eu calonnau hwynt, ac efe a ddywedodd wrth y dŷn: estyn dy law, ac efe a’i hestynnodd hi, a’i law ef a roddwyd trachefn yn iach fel y llall.

6Yna’r Pharisæaid gan fyned gyd â’r Herodiaid yn ebrwydd a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y defethent ef.

7A’r Iesu gyd â’i ddiscyblion a giliodd tu â’r môr, a lliaws mawr a’i dilynodd ef o Galilæa ac Iudæa,

8Ac o Ierusalem, ac o Idumæa, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, a’r rhai a bresswylient yng-hylch Tyrus a Sidon yn lliaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethe efe, a ddaethant atto.

9Ac efe a archodd iw ddiscyblion fod llong yn barod iddo, o blegit y dyrfa, rhag iddynt ei wascu ef.

10Canys efe a iachase lawer, fel yr oeddynt yn pwyso arno, er mwyn cyffwrdd ag ef cynnifer ag oedd â phlauau arnynt.

11A’r ysprydion aflân pan welsant ef a syrthiâsant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant gan ddywedyd, ti ydwyt Fâb Duw.

12Yntef a orchymynnodd iddynt yn gaeth na chyhoeddent ef.

13 Marc.6.7. Math.10.1. Luc 9.1. Yna yr escynnodd efe i’r mynydd, ac efe a alwodd atto y rhai a fynnodd efe, ac hwynt hwy a ddaethant atto.

14Ac efe a ordeiniodd ddeuddec i fôd gŷd ag ef, ac iw danfon i bregethu:

15A bod iddynt feddiant i iachau clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.

16Ac i Simon, y rhoddes efe enw Petr.

17Ac Iaco Zebedeus, ac Ioan brawd Iaco, (ac efe a roddes iddynt yn henwau Boanerges, yr hyn yw, meibion y daran)

18Ac Andreas, a Philip, a Bartholomew, a Mathew, a Thomas, ac Iaco Alpheus, a Thadeus, a Simon y Canaanæad,

19Ac Iudas Iscariot yr hwn a’i bradychodd ef, a hwy a ddaethant i dŷ.

20A’r dyrfa a ymgynhullodd trachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bwyd.

21A phan glybu yr eiddo ef, hwynt a aethant iw ddal ef, canys dywedasant ei fôd allan o’i bwyll.

22A’r scrifennyddion y rhai a ddaethent i o Ierusalem a ddywedasant fôd Math.9.34. Luc 11.14 Belzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.

23Ac wedi iddo eu galw hwynt atto, efe a ddywedodd wrthynt ar ddameg, pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno barhau.

25Ac os ymranna tŷ yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.

26Felly os cyfyd Satan ac ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all efe barhau, eithr y mae iddo ddiwedd.

27Ni ddichon nêb fyned i mewn i dŷ gŵr cadarn, a dwyn ei ddodrefn, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna anrheithio ei dŷ ef.

28Yn wîr y meddaf i chwi, Math 12.31.|MAT 12:31. Luc 12.10.|LUK 12:10. Ioan 5.16. maddeuir pôb rhyw bechodau i blant dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:

29Eithr pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Yspryd glân ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:

30Am iddynt ddywedyd, y mae yspryd aflan ganddo.

31Yna ei Math.12.46. Luc 8.19. frodyr a’i fam a ddaethant, a chan sefyll allan hwy a anfonâsant atto iw alw ef.

32A’r bobl a eisteddent o’i amgylch ef a dywedasant wrtho, wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio.

33Ac efe a’u hattebodd hwynt gan ddywedyd, pwy yw fy mam a’m brodyr?

34Ac wedi iddo edrych o’i amgylch ar y rhai oeddynt yn eistedd o’i ogylch, efe a ddywedodd, wele fy mam a’m brodyr.

35Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd, a’m chwaer, a’m mam.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help