1Canys tu ag at am y weinidogaeth i’r sainct, afraid yw i mi scrifennu attoch.
2O herwydd mi a adwaen ewyllyscarwch chwi, yr hwn yr wyf yn gorfoleddu am danoch wrth y Macedoniaid, fôd Achaia yn barod er yr llynedd, a’r zêl oddi wrthych chwi a annogodd lawer.
3A mi a ddanfonais y brodyr, rhag i’n gorfoledd ni am danoch fôd yn ofer, yn y rhann hon, fel (megis y dywedais) y byddoch barod:
4Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd â mi, a’ch cael chwi yn amharod, bôd i ni (ni ddywedaf i, chwi) gael cywilydd yn hyn o sylwedd gorfoledd.
5O herwydd pa ham, i a dybiais fôd yn angeurhaid attolwg i’r brodyr ddyfod o’r blaen attoch, ac i gwplau o’r blarn eich bendith yr hon a ragfynegwyd, fel y bydde yn barod, megis fel bendith, nid fel o gymmell.
6A hyn a hauo yn brin, a fêd hefyd yn brin, ac a hauo yn helaeth a fêd hefyd yn helaeth.
7Pob vn megis y mae yn amcanu yn ei galon, felly cwnaed nid yn Dihar.11.25.|PRO 11:25. Ruf.12.8.|ROM 12:8. Eccle.35.10.athrist, neu wrth gymmell, canys y mae yn hoff gan Dduw roddwr llawen.
8Ac y mae Duw yn abl i beri i bob grâs amlhau tu ag attoch, fel y galloch chwi (â phôb digonoldeb gennych, ym mhôb dim, bôb amser) amlhau i bôb gweithred dda,
9 Psal.112.9. Megis y mae yn scrifennedic, efe a wascarodd, a roddodd i’r tlodion, y mae ei gyfiawnder yn parhau yn dragywydd.
10Hefyd yr hwn sydd yn rhoddi hâd i’r hauwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhâed eich hâd, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder,
11Fel ym mhôb ffordd i’ch cyfoethoger i bôb cymmwynascarwch, yr hyn a weithia trwyddom ni ddiolch i Dduw.
12Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn vnic yn cyflawni angenrhaid y sainct, ond hefyd yn amlhau, gan lawer diolch i Dduw, trwy brofiad y weinidogaeth hon,
13[Y rhai sy] yn moliannu Duw am eich cydsynniol ymostwng i Efengyl Grist, ac am eich cymmwynascar gyfranniad iddynt hwy, ac i bawl oll,
14A thrwy eu gweddi hwythau y rhai ydynt yn hiraethu am danoch chwi, am yr ardderchawg râs Duw ynoch.
15Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei anhraethol dawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
