1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Ieremi y prophwyd yn erbyn y Philistiaid cynn i Pharao ddinistrio Azah.
2Fel hynn y dywedodd yr Arglwydd, wele dyfroedd a gyfodant i fynu Esa.8.8.o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeirioc, a hwynt a lifant tros y wlad, a’r hynn sydd ynddi, y ddinas a’r rhai sy yn aros ynddi: yna y dynion a waeddant, a holl bresswyl-wŷr y wlâd a vdant.
3Rac sŵn twrwf carnau cryfion, rhac trwst ei gerbydau, thrwst ei olwynion ef: y tadau nid edrychant ar y plant gan wendid dwylo.
4Ar y dydd y delo efe i ddestruwio yr holl Philistiaid i ddinistrio o Tyrus a Sidon a phob cynorthwy arall o blegit yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid gweddill ynys Caphtor.
5Moelni a ddaeth ar Azah, gostegwyd Ascalon gyd a’r rhan arall oi dyffrynnoedd hwynt: Deut.14.1.pa hŷd yr ymrwygi di?
6O cleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi? dychwel i’th wain, gorphywys di, a thaw di a sôn.
7Pa fodd y llonydda efe, gan i’r Arglwydd ei orchymyn ef, ai osod ef yno yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glann y môr?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
