Lefiticus 25 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXV.Sabboth y seithfed flwyddyn. 8 Y Iubili yn y ddecfed flwyddyn a deugain. 14 gwerthiad a gollyngdod tiroedd, tai, a dynion.

1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses ym mynydd Sinai, gan ddywedyd:

2Llefara wrth feibion Israel a dywet wrthynt, pan ddeloch i’r tîr yr hwn a roddaf i chwi, yna gorphywysed y tîr Sabbeth i’r Arglwydd.

3Chwe blynedd yr heui dy faes, Exod, 23.10.a chwe blynedd y torri dy winllan ac y cescli ei chnwd,

4Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Sabboth gorphywysdra i’r tîr, Sabborth yr Arglwydd: na haua dy faes, ac na thorr dy winllan.

5Na chynhaiafa yr hynn a dyfo o honaw ei hun, ac na chynnull dy rawnwin gwahanedic, bydded yn flwyddyn orphywysdra i’r tîr.

6Ond bydded Sabboth y tîr yn ymborth i chwi, i ti, ac i’th wasanaethwr; ac i’th wasanaeth ferch, ac i’th wenidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyd a thi.

7Ith anifail hefyd, ac i’th fywst-fil, yr hwn yn dy dîr y bydd ei holl gnwd yn ymborth.

8Cyfrif hefyd it saith Sabboth o flynyddoedd, saith mlynedd saith waith, dyddiau y saith Sabboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.

9A phar ganu it vdcorn y Iubili ar y seithfed mîs ar y decfed dydd o’r mis, ar ddydd y cymmod cenvich yr vdcorn trwy eich holl wlâd

10A sancteiddiwch y ddecfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch rydd-did yn y wlâd iw holl drigolion, Iubili fydd hi i chwi, a dychwelwch bôb vn yw etifeddiaeth, îe dychwelwch bôb vn at ei deulu.

11y ddecfed flwyddyn a deugain honno fydd Iubili i chwi, na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a ddyfo o honaw ei hun: ac na chynhullwch ei gwinllanoedd gwahanedic hi,

12Am ei bod yn Iubili bydded sanctaidd i chwi, o’r maes y bwyttewch ei ffrwyth hi.

13O fewn y flwyddyn Iubili hon y dychwelwch bôb vn iw etifeddiaeth.

14Pan werthech ddim i’th gymydog neu brynnu ar law dy gymydog, na orthrymmwch bawb ei gilydd.

15Prynn gan dy gymydog yn ôl rhifedi y blynyddoedd ar ôl y Iubili: a gwerthed efe i tithê yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau.

16Yn ôl amldra y blynyddoedd y chwanegi ei brîs, ac yn ôl anamldra y blynyddoedd y lleihei di ei brîs: o herwydd rhifedi y cnydau y mae efe yn ei werthuit.

17Ac na orthrymmwch bôb vn ei gymydog, ond ofna dy Dduw, canys myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.

18Gwnewch chwithau fy-neddfau, a chedwch fy-marnedigaethau, a gwnewch hwynt, a chewch drigo yn y tîr yn ddiogel.

19Y tîr hefyd a rydd ei ffrwyth, a chewch fwytta digon, a chewch drigo ynddo yn ddiogel.

20A hefyd os dywedwch beth a fwyttawn y seithfed flwyddyn: wele ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd.

21Myfi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn, a hi a ddwg ei ffrwyth dros dair blynedd.

22A’r wythfed flwyddyn yr heuwch, ond bwyttewch o’r hên gnwd: yr hên a fwyttewch hyd y nawfed flwyddyn, nes dyfod ei chnwd hi.

23A’r tîr ni cheir ei werthu yn llwyr, canys eiddo fi y tîr, o herwydd dieithraid, ac alltudion ydych gyd a mi.

24Ac yn holl dîr eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tîr.

25Os tloda dy frawd a gwerthu oi etifeddiaeth, a dyfod ei gâr nessaf iddo, efe a gaiff ollwng yr hynn a werthodd ei frawd.

26Ond os gŵr ni bydd gollyngûdd iddo, a chyrhaeddyd oi law ef ei hun gael digon iw ollyngdod.

27Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hynn fyddo tros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo, felly aed eilwaith iw etifeddiaeth.

28Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo, yna bydded yr hynn a werthodd efe yn llaw yr hwn ai prynnodd hyd flwyddyn y Iubili, ac aed allan yn y Iubili, a deued drachefn iw etifeddiaeth.

29A phan wertho gŵr dŷ annedd dinas gaeroc, yna bydded ei ollyngdod hyd blwyddyn gyflawn wedi ei werthu, flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.

30Ac oni ollyngir nes cyflawni iddo flwyddyn gyfan, yna siccerhaer y tŷ ’r hwn fydd yn y ddinas gaeroc yn llwyr i’r neb ai prynnodd iw hiliogaeth, nid aiff allan yn a Iubili.

31Ond tai trefi y rhai nid oes caeroedd o amgylch iddynt a gyfrifir fel maes o dîr: bid gollyngdod iddynt, ac aed allan yn y Iubili.

32Ond dinasoedd y Lefiaid a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i’r Lefiaid eu gollwng bôb amser.

33A yr hwn ai gollwng o’r Lefiaid, ac aed allan o’r tŷ a werthwyd a dinas ei etifeddiaeth ef yn y Iubili: canys tai danasoedd y Lefiaid ydynt eu hetifeddiaeth hwynt ym mysc meibion Israel.

34Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragywyddol yw efe iddynt.

35A phan dlodo dy frawd gyd a thi, a llithro ei law, yna cynnorthwya ef: fel y byddo byw gyd a thi, y dieithr-ddyn, a’r alltud.

36 Exod.22 25.|EXO 22:25. deut.23.19.|DEU 23:19. psal.15.5.|PSA 15:5. dihar.28.8.|PRO 28:8. ezeciel.18.8. Na chymmer ganddo occreth, na llôg: ond ofna dy Dduw, a gad ith frawd fyw gyd a thi.

37Na ddod dy arian iddo mewn vsuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar lôg.

38Myfi yr Arglwydd eich Duw chwi yr hwn a’ch dygais allan o dîr yr Aipht, i roddi iwch dîr Canaan, i fod yn Dduw i chwi.

39A phan dlodo dy frawd gyda thi ai werthu ef it: Deut.15.12. ierem.34.14.na wna iddo wasanaethu yn gaeth.

40Bydded gyd a thi fel gwenidog cyflog: fel alltud, hyd flwyddyn y Iubili y caiff wasanaethu gyda thi.

41Yna aed oddi wrthit ti efe ai blant gyd ag ef, a dychweled at eî dylwyth ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.

42Canys fyng-weision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dîr yr Aipht, na werther hwynt yn gaeth-werthiad.

43 Ephes.6.9. col.4.1. Na feistrola arno ef yn galed, ond ofna dy Dduw.

44A dy wasanaeth-wr, a’th wasanaeth-ferch y rhai fyddant itti, o fysc y cenedloedd y rhai o’ch amgylch: o honynt y prynnwch wasanaeth-wr a gwasanaeth ferch.

45A hefyd o blant yr’alltudion y rhai a ymdeithiant gyd a chwi, prynnwch o’r rhai hyn, ac oi tylwyth y rhai gyda chwi, y rhai a genhedlasant hwynt yn eich tîr chwi: byddant hwy i chwi yn etifeddiaeth.

46Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ôl iw meddiannu yn etifeddiaeth: gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond am eich brodyr meibion Israel, pôb vn am ei frawd, na festrola yn galed arno.

47A phan gyrhaeddo llaw dŷn dieithr neu alltud gyd a thi, ac i’th frawd dlodi gyd a thi, ai werthu ei hun i’r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyd a thi, neu i vn o hiliogaeth ty-lwyth y dieithr-ddyn,

48Wedi ei werthu ceir ei ollwng yn rhydd: vn oi frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd.

49Naill ai ei ewythr frawd ei dâd, at mab ei ewythr ai gollwng ef yn rhydd, neu o gyfnessaf ei gnawd ef oi dylwyth ei hun ai gollwng ef yn rhydd, neu ei law a gyrredd ei waredu ei hun.

50A chyfrifed ai brynnwr o flwyddyn y Iubili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi y blynyddoedd, megis dyddiau gwenidog cyflog y bydd efe gyd ag ef.

51Os llawer o flynyddoedd yn ol, taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny.

52Ac os ychydic flynyddoed fydd yn ol hyd flwyddyn y Iubili pan gyfrifo ag ef, taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd.

53Megis gwâs cyflog y bydd efe gyd ag ef flwyddyn i flwyddyn, ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.

54Ac os efe ni ollyngir o fewn hynn, yna aed allan flwyddyn y Iubili efe ai blant gydag ef.

55Canys gweision i mi meibion Israel, fyng-weision ydynt y rhai a ddygais o dîr yr Aipht. Myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help