1A phan ddelo’r holl bethau hyn arnat, y fendith, a’r felldith y rhai a roddais o’th flaen, ac ail cofio o honot ym mysc yr holl genhedloedd, y rhai i’th fwrw’r Arglwydd dy Dduw di attynt:
2A dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando o honot ar ei lais ef (yn ol yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw) ti, a’th feibion, a’th holl galon, ac a’th holl enaid,
3Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymmer drugaredd arnat, ac y trŷ, ac a’th gascl o fysc yr holl bobloedd, y rhai i’th wascaro’r Arglwydd dy Dduw di attynt.
4Pe i’th wthyt i eithaf y nefoedd, oddi yno i’th gascle’r Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno i’th gymmere di.
5Yr Arglwydd dy Dduw a’th ddŵg i’r tîr yr hwn a orescynnodd dy dadau, a thithe ai gorescynni: ac efe a fydd dda wrthit, ac a’th wna yn amlach na’th dadau.
6A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy hâd i garu’r Arglwydd dy Dduw a’th holl galon, ac a’th holl enaid, er mwyn byw o honot.
7A’r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felldithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di.
8Tithe a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchymynnion ef, y rhai’r ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw.
9A’r Arglwydd dy Dduw a wna it ragori, yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy frû, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaiar, canys trŷ’r Arglwydd i lawenychu ynot, gan wneuthur daioni fel y llawenychodd yn dy dadau,
10Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei orchymynnion ef, ai ddeddfau y thai ydynt scrifennedic yn llyfr y gyfraith hon: os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw a’th holl galon, ac a’th holl enaid.
11O herwydd y gorchymyn ymma’r hwn yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw, nid cuddiedic efe oddi wrthit, ac nid pell efe.
12Nid yn y nefoedd efe, i ddywedyd Rhuf.10.6.pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac ai dwg ini, fel y clywom ni, ac y gwnelom ef?
13Ac nid o’r tu hwnt i’r môr efe i ddywedyd pwy a dramwya trosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac ai dŵg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?
14Canys y gair sydd agos iawn attat, yn dy enau, ac yn dy galon iw wneuthur ef.
15Wele, rhoddais o’th flaen heddyw enioes, a daioni, ac angeu, a drygioni.
16Lle yr ydwyfi yn gorchymyn i ti heddyw garu’r Arglwydd dy Dduw, gân rodio yn ei ffyrdd ef, a chan gadw ei orchymynnion, ai ddeddfau, at farnedigaethau ef: fel y byddech fyw, ac i’th amlhâer, ac i’th fendithio’r Arglwydd dy Dduw yn y tîr, yr hwn yr wyt yn myned iddo iw orescyn.
17Ond os trŷ dy galon fel na wrandewech, a’th yrru i ymgrymmu o honot i dduwiau dieithr, ai gwasanaethu hwynt:
18Mynegais i chwi heddyw mai gan ddifetha i’ch difethir, nad estynnwch ddyddiau ar y ddaiar yr hon yr ydwyt yn myned tros yr Iorddonen i fyned i mewn iddi iw gorescyn.
19 Deut.4.26. Gelwais yn dŷst i’th erbyn heddyw y nefoedd, a’r ddaiar, roddi o honof o’th flaen angeu, ac enioes, fendith a melldith: dewis dithe yr enioes fel y byddech fyw ti a’th hâd.
20Gan garu’r Arglwydd dy Dduw, gan wrando ar ei lais ef, a chan lynu wrtho ef: canys efe yw dy enioes, ac estynniad dy ddyddiau i drigo ar y ddaiar, yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Iacob ar ei rhoddi iddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.