1Ac yn y dyddiau hynny, Pen.17.6.|JDG 17:6 & 18.1.pan nad frenin yn Israel: yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Ephraim, ac efe a gymmerodd iddo Gen.25.6.ordderch-wraig o Bethlehem Iuda.
2Ai ordderchwraig ef a butteiniodd gyd ag ef, ac a aeth ymmaith oddi wrtho ef i dŷ ei thâd i Bethlehem Iuda: ac yno y bu hi bedwar mîs o ddyddiau.
3Yna ei gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl i ddywedyd yn dêg wrthi hi, iw throi adref, ei langc hefyd gyd ag ef, a chwpl o assynnod: a hi ai dûg ef i mewn i dy ei thad, pan welodd tad y llangces ef, yna efe a lawenychodd am gyfarfod ag ef.
4Ai chwegrwn ef, tâd y llangces ai daliodd ef, ac efe a dariodd gyd ag ef dri-diau: bwytasant hefyd, ac yfasant, a lleteuasant yno.
5A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn forau, yntef a gyfododd i fyned ymmaith: a thad y llangces a ddywedodd wrth ei ddaw, nertha dy galon a thammed o fara, ac wedi hynny dôs ymmaith.
6Felly hwynt a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau yng-hyd, ac a yfasant: a thâd y llangces a ddywedodd wrth y gŵr, bydd fodlon attolwg, ac aros dros nôs fel y llawenhao dy galon.
7Ond y gŵr a gyfododd i fyned ymmaith: ai chwegrwn ef a fu daer arno: am hynny efe a drôdd, ac a leteuodd yno.
8Ac efe a gyfododd yn forau y pummed dydd i fyned ymmaith, a thâd y llangces a ddywedodd, cyssura dy galon attolwg, ac hwy a drigasant nes gostwng y dydd: ac a fwytasant ill dau.
9Yno y gŵr a gyfododd i fyned ymmaith efe ai ordderch, ai langc: ai chwegrwn tâd y llangces a ddywedodd wrtho ef, wele yn awr y dydd a laesodd i hwyrhau, arhoswch tros nôs attolwg, wele yr haul yn machludo, trig ymma fel y llawenycho dy galon, a chodwch yn forau y foru i’ch taith, fel yr elech i’th babell.
10A’r gŵr ni fynne aros, eithr cyfododd ac aeth ymmaith, a daeth hyd ar gyfer Iebus, hon Ierusalem: a chyd ag ef gwpl o assynnod llwythoc, ai ordderch-wraig gyd ag ef.
11[Pan oeddynt] hwy wrth Iebus, yr oedd y dydd ar ddarfod, yna y llangc a ddywedodd wrth ei feisir, dos attolwg fel y trôm i ddinas y Iebusiaid, ac y lleteuom ynddi.
12Ai feistr a ddywedodd wrtho ef, ni throiwn ni i ddinas estronol, yr hon nid o feibion Israel: eithr nyni a awn hyd Gibea.
13Ac efe a ddywedodd wrth ei langc, tyret a nessawn i vn o’r lleoedd hynny, fel y lleteuom yn Gibea, neu Ramah.
14Felly y cerddasant, ac yr aethant: a’r haul a fachludodd iddynt wrth Gibea yr hon eiddo Beniamin.
15Ac hwy a droasant yno i ddyfod i mewn i Leteû i Gibea: ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas, canys nid neb ai cymmere hwynt dŷ i leteû.
16Ac wele ŵr hên yn dyfod oi waith o’r maes yn hwyr, a’r gŵr o fynydd Ephraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea: a gwŷr y lle hwnnw feibion Iemini.
17Ac efe a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfu y gŵr yr hwn oedd yn ymdaith yn heol y ddinas: yna y gŵr hên hwnnw a ddywedodd, i ba le yr ei di, ac o ba le y daethost?
18Yntef a ddywedodd wrtho, trammwyo’r ydym ni o Bethlehem Iuda i ystlysau mynydd Ephraim o’r lle i’m a mi a euthum hyd Bethlehem Iuda: a myned yr ydwyf i dŷ yr Arglwydd ac nid neb a’m derbyn i dŷ,
19Y mae wellt, ac ebran hefyd i’n hassynnod, a bara hefyd, a gwin i mi, ac i’th law-forwyn, ac i’r llangc gyd a’th weision: heb prinder o ddim oll.
20A’r hen-wr hwnnw a ddywedodd, tangneddyf i ti gyd a mi beth bynnac sydd yn ddiffig arnat, yn vnic nac aros tros nos yn yr heol.
21Felly efe ai dûg ef i mewn iw dŷ, ac a borthodd yr assynnod: ac hwy a olchasant eu traed, ac a fwyttawsant, ac a yfasant.
22[Pan] oeddynt hwy yn llawenhau ei calon, yna wele wŷr y ddinas, gwŷr anwir a amgylchynasant y tŷ oeddynt yn curo wrth y drws: ac a ddywedasant ŵrth y gŵr, perchen y tŷ yr henwr hwnnw gan ddywedyd, dŵg allan y gŵr yr hwn a ddaeth i mewn i’th dy di fel yr adwaenom ef.
23A’r gŵr perchen y tŷ a Genes.19.8.aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, peidiwch fy mrodyr, na wnewch niwed attolwg: wedi i’r gŵr hwn ddyfod i’m tŷ i, na wnewch yr scelerder hyn.
24Wele fy merch yr hon forwyn, ai odderch yntef, dygaf hwynt allan yn awr, a chystuddiwch hwynt, neu gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i’r gŵr hwn na wnewch ddim o’r scelerder ymma.
25Ond ni fynne’r gwŷr wrando arno, am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch, ac ai dug hi allan attynt hwy: ac hwi ai hadnabuant hi, ac a ymwnaethāt a hi’r holl nos hyd y borau, a phan gyfododd y wawr hwynt ai gollyngasant hi ymmaith.
26Yna’r wraig a ddaeth pan ymddangosodd y borau: ac a syrthiodd wrth ddrws ty’r gŵr yr hwn ei harglwydd ynddo hyd oleuni
27Ai harglwydd a gyfododd yn forau, ac a agorodd ddrŷssau’r ty, ac a aeth allan i fyned iw daith: ac wele ei ordderch-wraig ef yn gorwedd wrth ddrws y tŷ, ai llaw ar y trothwy.
28Ac efe a ddywedodd wrthi, cyfot, fel yr elom ymmaith, ond nid oedd hi yn atteb: yna efe ai cymmerth hi ar yr assyn, a’r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymmaith iw fangre ei hun.
29Pan ddaeth iw dŷ, yna efe a gymmerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch, ac ai darniodd hi, ai hescyrn yn ddeuddec darn: ac at hanfonodd i holl derfynau Israel.
30A phawb a’r a welodd a ddywedodd ni wnaethpwyd, ac ni welpwyd y fath beth er y dydd y daeth meibion Israel o wlâd yr Aipht hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a threuthwch
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.