1Mab deuddeng-mlwydd Manasses pan ddechreuodd efe deyrnasu, 2 Cron.33.1.a phymtheng-mhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Haphsiba.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd y rhai a Deut.18.9.fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
3Canys efe a drôdd, ac a adailadodd yr vchelfeudd 2.Bren.18.4.y rhai a ddinistriase Hezecia ei dâd ef: ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn fel y gwnelse Ahab brenin Israel, ac efe a addolodd holl lû y nefoedd, ac ai gwasanaethodd hwynt.
4Adailadodd hefyd allorau yn nhŷ’r Arglwydd: yr hwn y dywedase’r Arglwydd, yn Ierusalem y gosodaf fy enw.
5Ac efe a adailadodd allorau i holl lu y nefoedd yn nau gyntedd tŷ’r Arglwydd.
6Ac 2.Bren.16.3. 2.Cron.33.6.efe a yrrodd ei fâb drwy dân, dewinodd efe hefyd, a brudiodd, ar efe a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a chwanegodd wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd iw ddigio ef.
7Ac efe a osododd ddelw gerfiedic y llwyn (yr hon a wnelse efe) yn y tŷ yr hwn y dywedase’r Arglwydd wrth Ddafydd, ac wrth Salomon ei fab ef, 1.Bren.8.29. & 9.3. 2.Bren.7.10.yn y tŷ hwn, ac yn Ierusalem yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel y gosodafi fy enw yn dragywydd.
8Ac ni chwanegafi symmud troed Israel o’r wlâd yr hon a roddais iw tadau hwynt: os cadwant ar wneuthur yr hyn oll a’r orchymynnais iddynt hwy, ac yn ôl yr holl gyfraith yr hon a orchymynnodd fyng-was Moses iddynt hwy.
9Ond ni wrandawsant hwy: a Manasses ai cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd y rhai a ddifethase yr Arglwydd o flaen meibion Israel.
10Am hynny y llefarodd yr Arglwydd drwy law ei weision y prophwydi gan ddywedyd,
11O Ier.15.4.herwydd i Manasses brenin Iuda wneuthur y ffieidd-dra hyn, gan wneuthur yn waeth na’r hyn oll a’r a wnaethe yr Amoriaid y rhai oi flaen ef: a pheri o honaw i Iuda bechu drwy eu heulynnod.
12Ie o blegit hynny, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, wele fi yn dwyn drwg ar Ierusalem, ac Iuda: fel y merwino dwy-glust y neb a glywant hynny.
13A mi a estynnaf linin mesur Samaria ar Ierusalem, a phwys tŷ Ahab: scwriaf hefyd Ierusalem, fel y scwria gwppan scwria efe yna efe ai trŷ ar ei wyneb.
14A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac ai rhoddaf hwynt yn llaw ei gelynnion: ac hwynt a fyddant yn anrhaith, ac yn yspail iw holl elynnion.
15Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fyng-olwg i, ai bod yn fy nigio i er y dydd yr hwn y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aipht hyd y dydd hwn.
16Manasses hefyd a dywalldodd lawer iawn o waed gwirion hyd oni lanwodd efe Ierusalem o benn bwy gilydd: heb law ei bechod yr hwn y gwnaeth efe i Iuda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd.
17A’r rhan arall o hanes Manasses, a’r hyn a wnaeth efe, ai bechod yr hwn a bechodd efe: o nid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda.
18A Manasses a hunodd gyd ai dadau ac a gladdwyd yng-ardd ei dy ei hun yng-ardd Uzzia: ac Amon ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
19Mab 2.Cron.33.20.dwy flwydd ar hugain Ammon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Mesulemeth merch Haruz o Iotbah.
20Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: fel y gwnêlse Manasses ei dad ef.
21Canys efe a rodiodd yn yr holl ffordd y rhodiase ei dad ef: ac a wasanaethodd eulynnod, y rhai a wasanaethase ei dad ef, ac a ymgrymmodd iddynt hwy.
22Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau: ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd.
23A gweision Ammon a frad-fwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun.
24A tharawodd pobl y wlâd yr holl rai a frad-fwriadasent yn erbyn brenin Ammon: a phobl y wlâd a osodasant Iosia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.
25A’r rhan arall o hanes Ammon a’r hyn a wnaeth efe: onid ydynt hwy’n scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?
26A chladdwyd ef yn ei feddrod yng-arddd Uzza: ac Iosia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.