Daniel 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Ail breuddwyd Nabuchodonosor: ai ddeongliad. 29 Cwymp Nabuchodonosor, ai gyfodiad.

1Nabuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl dîr, aml fyddo heddwch i chwi.

2Mi a welais yn dda fynegu yr arwyddion a’r rhyfeddodau y rhai a wnaeth y goruchaf Dduw â mi.

3Mor fawrion ei arwyddion ef, ac morr gedyrn ei ryfeddodau, ei deyrnas ef deyrnas dragywyddol, ai lywodraeth ef o genhedlaeth i genhedlaeth.

4Myfi Nabuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoiw yn fy llŷs.

5Gwelais freuddwyd, a a’m hofnodd, meddyliau hefyd yn fyng-wely, a gweledigaethau fy mhen, a’m dychrynnâsant.

6Am hynny y gosodwyd gorchymyn oddi wrthif fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon fel yr yspyssent i mi ddeongliad y breuddwyd.

7Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brud-wŷr a ddaethant, a mi a ddywedais fy mreuddwyd oi blaen hwynt, ond ei ddeongliad nid yspyssasant i mi.

8Ac o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i, yr hwn ei henw Baltassar, yn ôl henw fy nuw i, yr hwn hefyd yspryd y duwiau sanctaidd ynddo, a’m breuddwyd a dreuthais oi flaen ef

9Baltassar pennaeth y dewiniaid, o herwydd i’m ŵybod mai yspryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad yw vn dirgelwch yn anhawdd i ti: dywet weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, ai ddeongliad.

10Ac weledigaethau fy mhen ar fyng-wely: edrych yr oeddwn, ac wele bren yng-hanol y tîr, ai vchter yn fawr.

11Mawr oedd y prenn a chadarn, ai vchter a gyrhaedde hŷd y nefoedd, yr hefyd iw weled hyd yn eithaf yr holl dîr.

12Ei ganghennau dêg, ai ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bawb, tano yr ymgyscode bwyst-filod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef: a phob cnawd a fwyttae o honaw ef.

13Edrych yr oeddwn yng-weledigaethau fy mhen ar fyng-wely, ac wele wiliedudd, a sanct yn descyn o’r nefoedd,

14Gan lefain yn grôch ac yn dywedyd fel hyn, torrwch y prenn, ac yscythrwch ei wrysc ef, escydwch ei ddail ef, a gwascerwch ei ffrwyth: cilied y bwyst-fil oddi tano, a’r adar oi ganghennau.

15Er hynny gadewch fônnion ei wraidd ef yn y ddaiar, a mewn rhwym o haiarn, a phrês ym mhlith gwellt y maes, gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, ai rann gyd a’r bwyst-filod ym mhlith gwellt y ddaiar.

16Newidiant ei galon ef o dŷn, a rhoddir iddo ef galon bwyst-fil, a saith amser a gynewidir arno ef.

17O ordinhâd y gwyliedyddion y farn hon, a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd, hŷd oni ŵypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha frenhiniaeth dŷn, ac ai rhydd i’r neb y mynno efe, ac a esid arni y gwaelaf ddynion.

18Dymma yr breuddwyd a welais i Nabuchodonosor y brenin, tithe Baltassar, dywet ei ddeongliad ef: o herwydd ni alle holl ddoethion fy nheyrnas yspyssu y deongliad i mi, eithr ti elli, am yspryd y duwiau sanctaidd ynot ti.

19Yna Daniel yr hwn ei henw Baltassar a synnodd tros vn awr, ai feddyliau ai dychrynnasant ef, attebodd y brenin, a dywedodd: Baltassar, na ddychrynned y breuddwyd ti, nai ddeongliad, attebodd Baltassar a dywedodd, fy arglwydd y breuddwyd i’th elynnion, ai ddeongliad i’th wrthwyneb-wŷr.

20Y prenn yr hwn a welaist, yr hwn a dyfase, ac a gryfhause, ac a gyraeddase ei vchter hyd y nefoedd, ac iw weled ar hŷd yr holl dîr,

21Ai ddail yn dêg, ai ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo ef, tann y trige bwyst-fil y maes, ac y presswylie adar y nefoedd yn ei ganghennau,

22Ti frenin efe, yr hwn a dyfaist, ac a gryfheaist, a’th fawredd a gynnyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth di hyd eithaf y ddaiar.

23A lle y gwelodd y brenin wiliedudd, a sanct yn descyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd: torwch y prenn, a dinistriwch ef, er hynny gadewch fonnion ei wraidd ef yn y ddaiar, a mewn rhwym o haiarn a phrês, ym mhlith gwellt y maes, a gwlycher ef hefyud â gwlith y nefoedd, a bydded ei rann gyd â bwyst-fil y maes, hyd oni gyfnewidio saith amser arno ef.

24Dymma’r deongliad ô frenin, a dymma ordinhâd y Goruchaf yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin.

25Canys gyrrant ti oddi wrth ddynion, a chyd â bwyst-fil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd i’th borthir fel eidionnau, ac i’th wlychir â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni ŵypech mai yr Goruchaf sy yn llywodraethu ar frenhiniaeth dyn, ac ai rhydd i’r neb a fynno efe.

26A lle y dywedasant am adel bonnion gwraidd y prenn, dy frenhiniaeth fydd siccr it wedi i ti ŵybod mai o’r nefoedd y mae llywodraeth.

27Am hynny frenin byddet fodlon gennit fyng-hyngor, a thorr di ymmaith dy bechodau â chyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueniaid, a fydd estynniad ar dy hêddwch.

28Daeth hyn oll ar Nabuchodonosor y brenin.

29Ym mhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llŷs brenhiniaeth Babilon.

30Llefarodd y brenin, a dywedodd, onid hon yw Babilon fawr yr hon a adailedais i yn frenhin-dŷ yng-hryfder fy nerth, ac er gogoniant fy anrhydedd?

31A’r gair etto yng-enau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd wrthit ti frenin Nabuchodonosor y dywedir, aeth y frenhiniaeth oddi wrthit.

32A thi a fwrir oddi wrth ddynion, a’th drigfa gyd â bwyst-filod y maes, â gwellt i’th borthir fel eidionnau, a chyfnewidir saith amser arnat: hyd oni ŵypech mai yr Goruchaf sydd yn llywodraethu ar frenhiniaeth dyn, ac ai rhydd i’r neb y mynno.

33Yr awr honno y cyflawnwyd y gair am Nabuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidion, ac y gwlychwyd ei gorph ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel eryrod: ai ewinedd fel adar.

34Yn niwedd y dyddiau hyn, myfi Nabuchodonosor a dderchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd attaf, yna y bendithiais y Goruchaf, y moliennais hefyd a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am ei Dan.7.14. Mic.4.7. Luc.1.33lywodraeth ef yn llywodraeth dragywyddol, ai frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

35A holl drigolion y ddaiar a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llû y nefoedd, ac â thrigolion y ddaiar, ac nid oes â attalio ei law ef, nac a ddywedo wrtho: beth a wnaethost?

36Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fyngŵybodaeth attafi, a i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a’m hoiwder a ddychwelodd attafi: fyng-hynghoriaid, a’m tywysogion a’m ceisiasant, felly i’m siccrhauwyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i’m fawredd fwy.

37Yr awr hon myfi Nabuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, am ei holl weithredoedd yn wirionedd, ai lwybrau yn gyfiawnder, ac o herwydd y dichon efe ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchter.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help