2.Samuel 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Ziba yn bradychu ei feistr. 5 Simei yn rhegu Dafydd. 16 Dyfodiad Husai at Absalom. 21 Cyngor Ahitophel am y gordderch-wragedd.

1Pan aethe Dafydd ychydig o benn yna wele Ziba gwas Mephiboseth yn ei gyfarfod ef: a chwpl o assynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy dau cant o fara, a chant o resynnau, a chant o ffigus, a chostreled o wîn.

2Yna y dywedodd y brenin wrth Ziba, beth y rhai hyn gennit? Ziba a ddywedodd, assynnod i dŷlwyth y brenin i farchogeth, a bara, a ffigus i’r llangciau iw bwytta, a gŵin i’r deffygiedic iw yfed yn yr anialwch

3A’r brenin a ddywedodd, ond pa le[y mae] mab dy feistr di? a Ziba a ddywedodd wrth y brenin, wele y mae efe yn aros yn Ierusalem, canys efe a ddywedodd, tŷ Israel a roddant trachefn i mi heddyw frenhiniaeth fy nhad.

4Yna y dywedodd y brenin wrth Ziba, wele eiddo ti’r hyn oll gan Mephiboseth: a Ziba a ddywedodd, yr ydwyf yn attolwg gael o honof ffafor yn dy olwg di fy arglwydd frenin.

5Pan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, yna wele vn o dylwyth tŷ Saul yn myned allan oddi yno, ai enw ef[oedd] Simei mab Gera yn myned gan gerdded a melldigo.

6Ac efe a daflodd Ddafydd a cherric, a holl weision y brenin Dafydd: er yr holl bobl, a’r holl gedyrn ar ei law ddehau, ac ar ei law asswy.

7Ac fel hyn y dywede Simei wrth ei felldithio ef: tyret allan, tyret allan ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall.

8Yr Arglwydd a drôdd arnat ti holl waed ty Saul, yr hwn y teyrnasaist yn ei le, a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab di: ac wele di yn dy ddrygioni dy hun, canys gŵr gwaedlyd ti.

9Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, pa ham y melldithia y ci 1.Sam.24.15.|1SA 24:15. Pen.3.8.marw hwnfy arglwydd frenin? gâd i mi fyned attolwg fel y torrwyf ymmaith ei ben ef.

10A’r brenin a ddywedodd, beth i mi a a chwi meibion Serfia? canys melldithio y mae efe o herwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, melldithia Ddafydd, am hynny pwy a ddywed pa ham y gwnaethost hyn?

11A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, wele fy mab yr hwn a ddaeth allan o’m emiscaroedd yn ceisio fy enioes, ac yn awr pa feint mwy mab Iemini? gedwch iddo, a melldithied, canys yr Arglwydd a archodd iddo.

12Ond odid fe a edrych yr Arglwydd ar fyng-hystudd i: a’r Arglwydd a ddyru i mi ddaioni am ei felldith ef y dydd hwn.

13A Dafydd a aeth ai wŷr i ffordd: Simei oedd yn myned ar hŷd ystlys y mynydd ar ei gyfer ef, ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felldithiodd, ac a daflodd gerric, ac a lychiodd lŵch iw erbyn ef.

14Yna y daeth y brenin, a’r holl bobl y rhai gyd ag ef yn ddeffygiol: ac efe a orphywysodd yno.

15Ac Absalom a’r holl bobl gwŷr Israel a ddaethant i Ierusalem: ac Ahitophel gyd ag ef.

16A phan ddaeth Husai’r Arciad cefell Dafydd at Absalom, yna Pusai a ddywedodd wrth Absalom: byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin.

17Yna Absalom a ddywedodd wrth Husai: ai dymma dy garedigrwydd di i’th gefell? pa ham nad aethost ti gyd a’th gefell?

18A Husai a ddywedodd wrth Absalom, nid tim, eithr yr hwn a ddwiso r’ Arglwydd, ar bobl ymma, sef holl wŷr Israel: eiddo ef fyddafi, a chydag ef yr arhoesaf fi,

19Ar’ bwy hefyd y gwasanaethaf, onid ger bron ei fab ef? megys y gwasanaethais ger bron dy dad ti felly y byddaf ger dy fron dithe.

20Yna y Dywedodd Absalom wrth Ahitophell: rhoddwch eich cyngor beth a wnawn ni:

21Ac Ahitophel a ddywedodd wrth Absalom, dôs i mewn ar ordderch-wragedd dy dâd y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaid gan dy dad, yna y cryfheuir llaw y rhai oll gyd a thi.

22Felly y tanasant i Absalom y babell ar nen y ty: 2.Sam.12.11.ac Absalom a aeth i mewn at ordderch-wragedd ei dâd yng-wydd holl Israel.

23A chyngor Ahitophel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny fel pe ymofynne a gair Duw: felly holl gyngor Ahttophel i Ddafydd hefyd, fel i Absalom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help