Ezeciel 33 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIII.Yn erbyn ysceulustra gwenidogion gair Duw, a rhyfyg y bobl. 10 Addewidion cyssurus yn erbyn annobaith. 23 A bygwth yn erbyn yr anedifeiriol.

1A daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:

2Llefara fab dŷn wrth feibion dy bobl, a dywet wrthynt: pan ddygwyf gleddyf ar wlâd, a chymmeryd o bobl y wlâd ryw ŵr oi mysc, ai roddi ef yn wiliedudd arnynt,

3Os gwel efe gleddyf yn dyfod ar y wlâd, ac vdcanu mewn vdcorn, a rhybuddio y bobl,

4A’r hwn a glyw lais yr vdcorn, ac ni ochel, eithr dyfod o’r cleddyf ai ddal ef, ei waed fydd ar ei benn ei hun.

5[Yr hwn] a glybu lais yr vdcorn, ac ni ochelodd, bydded ei waed arno ei hun: a’r hwn a ochelo a waredodd ei enaid.

6Ond pan welo y gwiliedudd y cleddyf yn dyfod, ac ni vdcana mewn vdcorn, a’r bobl heb ochelyd, eithr dyfod o’r cleddyf a dal vn o honynt, hwnnw a ddelir yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef o law y gwiliedudd.

7Tithe fab dŷn yn wiliedudd i’th roddais i dŷ Israel, fel y clywech air o’m genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthif fi.

8Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, annuwiol gan farw a fyddi farw: oni leferi i rybuddio yr annuwiol oi ffordd: yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond o’th law di y gofynnaf ei waed ef.

9A phan rybuddiech di yr annuwiol oi ffordd i ddychwelyd o honi, os efe ni ddychwel oi ffordd, hwnnw fydd marw yn ei anwiredd, a thithe a ryddheuaist dy enaid.

10Llefara hefyd wrth dŷ Israel ti fab dŷn, fel hyn gan ddywedyd y dywedwch, am ein anwireddau, a’n pechodau, i’n herbyn a ninne yn toddi ynddynt, Ezec.18.23.pa fodd weithiau y byddwn ni byw?

11Dywet wrthynt, byw fi medd yr Arglwydd Dduw * os ymhoffaf mewn marwolaeth yr annuwiol, onid a’r droi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd ei hun a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus: canys (tŷ Israel) pa ham y byddwch feirw?

12Dywet ti hefyd fab dŷn wrth feibion dy bobl: cyfiawnder y cyfiawn ni’s gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwoldeb yr annuwiol ni thramgwydda efe oi herwydd yn y dydd y dychwelo oi anwiredd: ni ddichon y cyfiawn ychwaith fyw oi blegit yn y dydd y pecho.

13Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn gan fyw y caiff fyw: os efe a hydêra ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofiir, onid yn ei anwiredd yr hwn a wnaeth, yn hwnnw y bydd efe farw.

14A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, gan farw y byddi farw: os dychwel oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn, a chyfiawnder,

15[Os] yr annuwiol a ddadrydd ŵystl, ac a dâl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd heb wneuthur anwiredd: gan fyw y bydd efe byw, marw ni bydd efe.

16Ni choffeir iddo yr holl bechodau y rhai a bechodd, barn, a chyfiawnder a wnaeth efe gan fyw y bydd efe byw.

17A meibion dy bobl a ddywedant, ni bydd iniawn Ezec.18.25.ffordd yr Arglwydd, eithr eu ffordd hwynt ni bydd iniawn.

18Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd: yna y bydd farw ynddynt.

19A phan ddychwelo’r annuwiol oddiwrth ei annuwoldeb, a gwneuthur barn, a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd hwnnw byw.

20Lle y dywedasoch nad iniawn fydd ffordd yr Arglwydd barnaf chwi tŷ Israel bob vn yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21Ac yn y decfed o’r ddeuddecfed flwyddyn o’n caethgludiad ni, ar y pummed o’r mis y daeth vn a’r a ddiangase o Ierusalem attaf fi gan ddywedyd, dinistriwyd y ddinas.

22A llaw’r Arglwydd fuase arnaf yn yr hŵyr cyn dyfod y diangudd, ac a agorodd fy safn ni’s ei ddyfod attaf y boreu: îe agorodd fy safn, ac ni thewais i mwyach.

23Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:

24Ha fab dŷn presswyl-wŷr y diffaethwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru gan ddywedyd: Abraham oedd vn, ac a feddiannodd y tîr: ninnau lawer, i ni y rhoddwyd y tîr mewn meddiant.

25Am hynny dywet wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, chwi a ymborthwch ar waed, a derchefwch eich llygaid at eich gau dduwiau, tywelltwch waed hefyd: ac a feddiannwch chwi y tîr?

26Safasoch ar eich cleddyfau, gwnaethoch ffiaidd-dra, halogasoch hefyd bob vn wraig ei gymydog: ac a feddiannwch chwi y tîr?

27Felly y dywedi wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, byw fi onid drwy y cleddyf y syrth y rhai yn y diffaethwch, a’r hwn a’r wyneb y maes, i’r bwyst-fil y rhoddaf ef iw fwytta: a’r rhai mewn ceurydd, ac mewn ogofeudd a fyddant feirw o haint.

28Rhoddaf hefyd y tîr yn anrhaith, yn anrhaith, fel y peidio Ezec.7.24. Ezec.24.21.balchder ei nerth ef, ac yr anrheithir mynyddoedd Israel heb gynniwerudd.

29A chânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd, pan roddwyf y tir yn anrhaith, ie yn anrhaith am eu holl ffiedd-dra hwynt y rhai a wnaethant.

30Tithe fab dŷn, meibion dy bobl ydynt yn dywedyd i’th erbyn wrth barwydydd, ac o fewn dryssau y tai, canys ymddiddan y naill wrth y llall, pob vn wrth ei gilydd gan ddywedyd: deuwch yr awr hon, a gwrandewch beth’r gair yr hwn a ddaeth oddi wrth yr Arglwydd.

31Deuant hefyd attat fel y daw pobl ac eisteddant o’th flaen fy mhobl mau fi, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond ni’s gwnant hwy: canys âi geneuau y gwnant hwy watwor-gerdd, ai calon hwy sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod hwy eu hun.

32Wele di hefyd iddynt fel cân gwatworgerdd vn hyfryd-lais, ac yn canu yn dda, canys gwrandawant dy eiriau, ond ni’s gwnant hwy.

33A phan ddelo hyn (wele ef yn dyfod) yna y cânt ŵybod mai prophwyd fu yn eu mysc hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help