Psalmau 110 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cx.Psalm Dafydd.

1 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheulaw hyd oni osodwyf dy elynnion yn faingc i’th draed.

2Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Sion: llywodraetha di ym mysc dy elynnion.

3Dy bobl yn ewyllyscar, yn nydd dy nerth mewn harddwch sanctaidd: o groth y wawr gwlith dy anedigaeth i ti.

4Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarhâ efe: ti offeiriad yn dragywyddol yn ôl vrdd Melchisedec.

5Yr Arglwydd ar dy ddeheu-law a archolla frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6Efe a farn ym mysc y cenhedloedd, lleinw â chelanedd: archolla benn llawer gwlad.

7Efe a ŷf o’r afon ar y ffordd, am hynny y dercha efe benn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help