Ieremi 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.Gweledigaeth y ddau gawelled ffigus, ai dirnad.

1Yr Arglwydd a ddangosodd i mi weledigaeth, ac wele ddau Ierem.21.8.gawel o ffigus wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd, wedi i Nabuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Iechonias fab Iehoacim brenin Iuda, a thywysogion Iuda gyd a’r cywraint, a’r celfydd o Ierusalem ai dwyn i Babilon.

2Un cawell o ffigus da iawn fel ffigus yr addfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigus drwg iawn, y rhai ni ellid moi bwyta rhag eu dryced.

3Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, beth a weli di Ieremi? ac mi a ddywedais ffigus: y ffigus da yn dda iawn, a’r rhai drwg yn ddrwg iawn, fel na ellir eu bwyta rhac eu dryced.

4Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:

5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Duw Israel, fel y ffigus dâ hyn, felly yr adwen i gaeth-glud Iuda y rhai a anfonais o’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni

6Ac mi a osodaf fyng-olwg arnynt er daioni, ac ai dygaf trachefn i’r wlad hon, ac ai hadailadaf hwynt, ac ni ddifethaf hwynt, plannaf hefyd hwynt, ac ni’s diwreiddiaf hwynt.

7Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf: a hwynt a fyddant yn bobl i mi, a minnef a fyddaf yn Dduw iddynt: canys hwy a droant attafi ai holl galon.

8 Iere.31.33.|JER 31:33. Heb.8.10. Ac fel yr adwaenost y ffigus drwg y rhai ni ellir eu bwyta rhac eu dryced (canys fel hyn y dywed yr Arglwydd) felly y rhoddaf Sedecia frenin Iuda, ai bennaethiaid, a gweddill Ierusalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn aros yn nhir yr Aipht.

9Ie rhoddaf hwynt i drallod drygfyd drwy holl deyrnasoedd y ddaiar, yn wradwydd ac yn ddihareb, yn watworgerdd, ac yn felldith ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.

10Ac mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn a haint: nes eu darfod oddi ar y ddaiar yr hon a roddais iddynt, ac iw tadau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help