Ieremi 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Melldith, a chospedigaeth am gau dduwiaeth.

1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd gan ddywedyd:

2Gwrandewch eiriau y cyfammod hwn, a dywedwch wrth wŷr Iuda, ac wrth bresswyl-wŷr Ierusalem.

3Dywet ti hefyd wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel: Deut.27.26.melldigedic yw’r gŵr ni wrendu eiriau y cyfammod hwn,

4Yr hwn a orchymynnais i’ch tadau chwi y dydd y dugym hwynt o wlâd yr Aipht o’r ffwrn haiarn, gan ddywedyd: gwrandewch ar fy llêf, a gwnewch ar ôl yr hyn oll a orchymynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minne a fyddaf yn Dduw i chwithau.

5Fel y gallwyf siccrhau y llw a dyngais wrth ei’ch tadau, y rhoddwn iddynt dîr yn llifeirio o laeth, a mêl, megis heddyw: yna yr attebais, ac y dywedais, ô Arglwydd felly y byddo.

6Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, pregetha y geiriau hyn oll yn ninasoedd Iuda, ac yn heolydd Ierusalem gan ddywedyd: gwrandewch eiriau y cyfammod hwn, a gwnewch hwynt.

7Canys gan destiolaethu y testiolaethais wrth eich tadau er y dydd y dugym hwynt i fynu o dîr yr Aipht hyd y dydd hwn, Iere.7.13.drwy godi yn foreu, a thestiolaethu gan ddywedyd: gwrandewch ar fy llais.

8Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clustiau, eithr rhodiasant bôb vn ar ôl cyndynrwydd ei galon ddrygionus: am hynny y dygais arnynt Lefit.26.14. deut.28.16holl eiriau y cyfammod hwn a orchymynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.

9A dywedodd yr Arglwydd wrthif, cyd-fradwriaeth a gafwyd yng-wŷr Iuda: a thrigolion Ierusalem.

10Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fyng-eiriau, ac hwynt a aethant ar ôl duwiau dieithr iw gwasanaethu hwy: tŷ Iuda, a thŷ Israel a dorrasant fyng-hyfammod i yr hwn a wneuthum ai tadau hwy.

11Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn ni’s gallant fyned oddi wrtho, Dihar.1.28.yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.

12Yna dinasoedd Iuda, a thrigolion Ierusalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau y rhai yr arogl-darthant hwy iddynt, ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu dryg-fyd.

13Canys rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau ô Iuda, ac yn ôl rhifedi heolydd Ierusalem y gossodasoch allorau gwradwyddus allorau i fwg-darthu i Baal.

14Am hynny Iere.7.16.|JER 7:16. ierem.14.11.na weddia di dros y bobl hyn, ac na chyfot waedd neu weddi trostynt: canys ni wrandawaf pan waeddant arnaf yn eu dryg-fyd.

15Beth fy annwyl yn fy nhŷ? gan ei fod yn gwneuthur scelerder lawer? canys y cîg cyssegredic a aeth ymmaith oddi wrthit canys pan wnelit ti ddrygioni, yna y llawenychit.

16Oliwydden ddeilioc deg, o ffrwyth prydferth y galwodd yr Arglwydd dy enw di: ond trwy drwst cynnwrf mawr y cynneuodd tân ynddi, ai changhennau a dorrwyd.

17Canys Arglwydd y lluoedd yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, o herwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Iuda, y rhai a wnaethant iddynt eu hun i’m digio, drwy fwgdarthu i Baal.

18Yr Arglwydd a yspysodd i’m fel y gwybum: yna y dangosaist i’m eu gweithredoedd hwy.

19A minne fel oen neu fustach a ddygid iw ladd, ac ni wyddwn fwriadu o honynt fwriadau yn fy erbyn i destruwiwn y pren yng-hyd ai ffrwyth, a difethwn ef o dîr y rhai byw, fel na choffaer ei enw ef mwy.

20Eithr ô Arglwydd y lluoedd, barn-wr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a’r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt, canys i ti y datcuddiais fyng-hŵyn.

21Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy enioes gan ddywedyd: na phrophwyda mwy yn enw yr Arglwydd rhac dy farw trwy ein dwylo ni.

22Am hynny fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd: wele fi yn ymwel â hwynt: y gwŷr ieuaingc a fyddant feirw trwy’r cleddyf, eu meibion, ai merched a fyddant feirw o newyn.

23Ac ni bydd gweddillion iddynt, canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, blwyddyn eu gofwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help