1Yna yr ail yr hwn a ddywedase am ragoriaeth y brenin a ymadroddodd,
2Oh chwychwi wyr onid trechaf yw dynion y rhai ydynt yn llywodraethu tir, a mor, a’r hyn oll a’r y sydd ynddynt:
3Ond y mae y brenin yn drechaf, ac yn rheoli y cwbl, efe sydd yn arglwyddiaethu arnynt hwy: a’r hyn oll a archo efe iddynt, hwynt ai gwnânt.
4Od eirch efe iddynt ryfela y naill ar y llall, hwyntwy a wnant hynny: os denfyn efe hwynt yn erbyn y gelynion, hwynt aânt, ac a dorrant i lawr fynyddoedd, muroedd, a thŷrau.
5Hwynt a laddant, ac a leddir, ac ni thorrant orchymyn y brenin: os gorchfygant, i’r brenin yr adferant y cwbl, yn gystal yr anrhaith a phob peth arall:
6A’r sawl nid elont i derfysc, ac i ryfel, eithr llafurio yr ddaiar: wedi iddynt ei hau, hwynt ai medant, ac ai dygant i’r brenin, ac a gymhellant y naill y llall i dalu teyrn-ged i’r brenin.
7Ac etto nid yw efe eithr vn vnic, od eirch efe ladd, fe a leddir: od eirch efe arbed, fe a arbedir.
8Od eirch efe daro, hwynt a darawant, od eirch efe ddiffeithio, hwynt a ddiffeithiant: od eirch efe adailadu, hwynt a adailadant.
9Od eirch efe ddinistrio, hwynt a ddinistriant, od eirch efe blannu, hwynt a blannant.
10Felly ei holl bobl ai holl luoedd ef ydynt yn vfyddhau iddo ef ei hun: ac yn y cyfamser efe a eistedd i lawr, ac a fwyttu, ac a ŷf, ac a huna.
11Canys y rhai hyn ai cadwant ef o amgylch ogylch: ac ni ddichon nêb fyned ymmaith iw negessau ei hun, ac ni byddant anufydd iddo ef.
12Oh chwychwi, ond trechaf y brenin, gan ei fod efe yn cael y cyfryw rwysc: ar hynny efe a ddistawodd.
13Yna y trydydd yr hwn a ddywedase am wragedd, a gwirionedd, (hwnnw oedd Zorobabel) a ddechreuodd ymadroddi,
14O chwychwi wŷr, nid brenin mawr, na llaweroedd o ddynion, na gwîn sydd drechaf: pwy ynte a feistrola arnynt hwy, a phwy ai gorchfyga hwynt: onid gwragedd:
15Gwragedd a escorasant ar y brenin, ac ar yr holl bobl y rhai ydynt yn llywodraethu môr a thir.
16Ac o honynt hwy y ganwyd hwynt, a hwyntwy a fagasant y rhai a blannodd y gwinwŷdd, o ba rai y gwneir y gwîn.
17Hwyntwy hefyd sy yn gwneuthur dillad dynion, ac yn gwneuthur gwŷr yn anrhydeddus, ac ni ddichon gwŷr fod heb y gwragedd.
18Pe casclent aur ac arian, a phob peth gwerth-fawr, oni chârent hwy wraig lân brydweddol:
19Oni ymadawent hwy a’r rhai hynny oll, ac oni ymroddent atti hi, gan lygadrythu arni: a phawb a ddewise ei chael hi o flaen aur, ac arian, a phob peth gwerth-fawr:
20Dŷn a ymedu ai dâd yr hwn ai magodd ef, ac ai wlâd, ac a ymlŷn wrth ei wraig.
21Ac efe a antûria ei hoedl dros ei wraig, ac ni feddwl am dâd, na mam, na gwlâd.
22Wrth hyn y gellwch ŵybod mai gwragedd sy yn meistroli arnoch chwi: onid ydych chwi yn llafurio, ac yn poeni, ac er hynny yn rhoddi, ac yn dwyn y cwbl i’r gwragedd:
23Gŵr a gymmer ei gleddyf, ac a aiff allan i ladd, ac i ledrata, ac i fordwyo ar fôr, ac afonydd,
24Efe a wêl lew, ac a gerdd yn y tywyllwch, ac wedi hynny efe a ddwg gwbl oi ledrad, ai drais, ai anrhaith at ei gariad.
25Am hynny gŵr a gâr ei wraig ei hun yn fwy nai dâd, neu ei fam.
26Ie llawer a aethant allan oi pwyll o herwydd gwragedd, a llaweroedd a fuant yn weision er mwyn gwragedd.
27Llawer hefyd a gyfrgollwyd, ac a gyfeiliornwyd wedi iddynt bechu er mwyn gwragedd.
28Ac yn awr oni choeliwch chwi fi: ond mawr yw ’r brenin yn ei allu: onid yw pob teyrnas yn ofni cyffwrdd ag ef:
29[Etto] mi ai gwelais ef, ac Apame (gordderch y brenin, merch Bartacus ardderchog) yn eistedd ar ddeheu-law yr brenin,
30Ac yn cymmeryd y goron oddi am benn y brenin, ac yn ei rhoddi am ei ei hun, ac yn cernodio ’r brenin ai llaw asswy.
31Ac yntef yn safn-rhythu, ac yn edrych arni, ac os chwardde hi arno ef, yntef a chwardde: ac os dîg fydde hi wrtho ef, yna y gwenieithie efe iddi hi i gael ei chymmod.
32Oh chwi wŷr, ond trechaf yw ’r gwragedd, gan eu bod hwy yn gwneuthur fel hyn:
33Yna ’r brenin a’r tywysogion a edrychasant bawb ar ei gilydd: ac yntef a ddechreuodd ymadrodd am y gwirionedd.
34O chwi wŷr onid nerthoc yw gwragedd: mawr yw y ddaiar, ac vchel yw ’r wybr, a buan yw ’r haul yn ei gwrs: canys efe a drŷ o amgylch y nêf mewn vn dydd, ac a rêd eil-waith iw lê ei hun.
35Ond mawr yw efe yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn? am hynny y gwirionedd sydd fwy a chryfach nâ dim oll.
36Yr holl ddaiar sydd yn galw am wirionedd, a’r nef sydd yn ei bendithio: a phob peth sydd yn escwyd, ac yn crynu ac nid oes dim anghyfiawn gyd â hi.
37Drygionus yw gwîn, drygionus yw yr brenin, a drygionus yw ’r gwragedd, a holl feibion dynion ydynt ddrygionus, ai holl weithredoedd sy anwir, ac nid oes ynddynt wirionedd, eithr yn eu hanwiredd eu hun y darfyddant.
38Ond y gwirionedd sydd yn ar os, ac sydd nerthoc yn dragywydd, ac sydd yn byw, ac yn teyrnasu yn oes oesoedd.
39Gyd â hi nid oes gymmeriad na rhagoriaeth ar neb: eithr y mae yn gwneuthur cyfiawnder, ac yn ymgadw rhag anghyfawnder a drygioni, a phawb a ganmôlant ei gweithredoedd hi.
40Ac nid oes yn ei barn hi ddim anghyfiawn, ac y hi yw ’r cadernid, a’r deyrnas, a’r gallu, a’r mawredd drwy yr holl oesoedd: bendigêdic fyddo Duw y gwirionedd.
41Ar hynny efe a beidiodd a llefaru: Yna yr holl bobl a lefasant, ac a ddywedasant yna, mawr yw gwirionedd a threchaf.
42Yna y dywedodd y brenin wrtho ef, gofyn di y peth a synnech heb law yr hyn sydd yn scrifennedic, ac ni ai rhoddwn ef i ti, am dy gael di yn ddoethaf, a thi a gei eistedd yn nessaf attafi, ac yn gâr i mi i’th elwir.
43Yna efe a ddywedodd wrth y brenin, cofia yr adduned yr hon a addunaist y dydd y daethost i’r frenhiniaeth, sef ar i ti adailadu Ierusalem.
44A danfon eil-waith y llestri y rhai a ddugasid ymmaith o Ierusalem, y rhai a roddase Cyrus ar naill-tu, pan addunodd efe ddinistrio Babilon, a danfon hwythau yno.
45Tithe hefyd a addunaist adailadu y Deml yr hon a loscodd yr Edomiaid, pan ddestruwiodd y Caldeaid Iuda.
46Ac yn awr ô arglwydd frenin dymma y peth yr hwn yr ydwyf yn ei ddeisyf, ac yn ei ofyn gennit, ac dymma y mawredd a geisiafi gennit: am hynny yr ydwyf yn dymuno arnat ti gyflawni yr adduned yr hon a addunedaist ti a’th enau dy hun i Frenin y nêf.
47Yna Darius y brenin a gyfododd i fynu, ac ai cusanodd ef, ac a roddodd iddo lythŷrau at bawb oi oruwch-wil-wŷr, ai lywodraethwŷr, a’r blaenoriaid, a’r swydd-wŷr, ar iddynt hwy ei hebrwng ef, a’r sawl oeddynt gyd ag ef yn myned i fynu i adailadu Ierusalem.
48Ac efe a scrifennodd lythyrau at holl lywodraethwŷr Coelosyria a Phenice, ac at y rhai oeddynt yn Libanus, ar iddynt hwy gludo coed cedr o Libanus i Ierusalem, ac adailadu y ddinas gyd ag ef.
49Ac efe a scrifennodd am yr holl Iddewon y rhai oeddynt yn myned i fynu oi deyrnas ef i Iuda yng-hylch eu rhydd-deb hwynt, sef na bydde i vn pennaeth, na swyddog, na llywodraeth-ŵr na goruwchwiliwr fyned o fewn eu drysau hwynt,
50Ac i’r holl wlad yr hon yr oeddent hwy yn ei pherchennogi fod yn rhydd iddynt hwy oddi wrth deyrnged, a bod i’r Edomaid roddi iddynt hwy y trefydd y rhai yr oeddynt yn eu dal o’r eiddo yr Iddewon,
51A rhoddi vgain o dalentau bob blwyddyn tu ag at adailadaeth y Deml hyd oni ddarfydde ei hadeiladu hi,
52Ac i gynnal y poeth offrymmau ar yr allor beunydd (fel yr oedd y gorchymyn i offrwn dwy ar bymthec) dec eraill o dalentau bob blwyddyn.
53A bod i bawb a’r a elê o Babilon i adailadu y ddinas, gael rhydd-deb yn gystal iddynt eu hunain, ac iw plant, a’r holl offeiriaid a’r a aethent ymmaith.
54Ac efe a scrifennodd am gyfreidiau, a dilad yr offeiriaid, y rhai y gwasanaethent ynddynt.
55Ac efe a scrifennodd am iddynt hwy roddi i’r Lefiaid eu cyfreidiau nes gorphen y tŷ, ac adeiladu Ierusalem.
56Efe hefyd a scrifennodd am iddynt hwy roddi dognau, a chyflog i’r rhai oeddynt yn gwilied y ddinas.
57Ac efe a anfonodd trachefn o Babilon yr holl lestri y rhai a roddase Cyrus ar naill-tu: a pheth bynnac a archase Cyrus, efe a orchymynnodd ei wneuthur, ac anfon i Ierusalem.
58A phan aeth y gŵr ieuangc allan, efe a dderchafodd ei wyneb i fynu tu ag Ierusalem, ac a ddiolchodd i Frenin nef,
59Gan ddywedyd, oddi wrthit ti y mae y fuddugoliaeth, oddi wrthit ti y mae y doethineb, ac o honot ti y mae ’r gogoniant, a minnef ydwyf dy wâs di.
60Bendigedic wyt ti ô Arglwydd yr hwn a roddaist i mi ddoethineb, clodforaf diô Arglwydd tadau.
61Felly efe a gymmerth y llythŷrau, ac a aeth ymmaith, ac a ddaeth i Babilon, ac a fynegodd iw holl frodyr.
62A hwynt a fendithiasant Dduw eu tadau, o herwydd iddo ef roddi iddynt hwy rydd-deb ac esmwythora,
63I fyned i fynu, ac i adailadu Ierusalem, a’r Deml, lle yr ydys yn galw ar ei enw ef: a hwynt a lawenychasant ag offer gerddgar, ac a gorfoledd tros saith niwrnod,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.