1A Zophar y Naamathiad a attebodd, ac a ddywedodd:
2Oni attebir yr aml o eiriau? ac a gyfiawnheuir gŵr siarâdus.
3Ai dy gelwyddau a wnânt i wŷr dewi? a phan watwarech oni bydd a’th wradwyddo?
4Canys dywedais, pur fy nysceidieth: a glân ydwyf yn dy olwg di.
5Ond ô na lefare Duw: ac agore efe ei wefusau yn dy erbyn,
6A mynegu i ti ddirgeledigaethau doethineb, mai dau cymmeint wrth gyfiawnder: cydnebydd gan hynny i Dduw dy anghofio di am dy anwiredd.
7A gei di ddyfnder Duw? a gei di berffeithrwydd yr Holl-alluog?
8Uwch na’r nefoedd beth a wnei di? dyfnach nag vffern pa fodd yr adweini di ef?
9[Mae] ei fesur ef yn hwy na’r ddaiar: ar yn llêd na’r môr.
10Os tyrr efe ymmaith, os carchâra efe: os cascla efe yng-hyd, pwy ai dychwel ef?
11Canys efe a edwyn ofer ddynnion: ac a wêl anwiredd, oni ddeall efe gan hynny?
12Dyn gwag er hynny a gymmer arno ei fod yn ddoeth: er geni dŷn fel llwdn assyn wyllt.
13Os dydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylaw atto ef.
14Od oes ddrygioni yn dy law, bwrw ef ymmaith ym-mhell: ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai.
15Canys yna y codi dy wyneb o’r brychau: y byddi hefyd safadwy, ac nid ofni:
16Eithr ti a ollyngit ofid dros gôf: fel dyfroedd[y rhai]a aethant heibio y cofiit
17Dy oedran hefyd a dderchafe vwch law hanner dydd: llewyrchit byddit fel y borcu-ddydd.
18Hydêrus fyddit hefyd, canys bydde gobaith: pan gloddit luestfa y gorweddit mewn diogelwch.
19Yna ti a ellit orwedd, ac ni ddychrynne: a llawer a ymbilient a’th wyneb.
20Llygaid yr aunuwolion a ddeffygiant, metha ganddynt ffoi: ai gobaith gofid calon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
