1Gwae y rhai a ddescynnant i’r Aipht am gynnorthwy, ac a ymddyriedant mewn meirch, ac a ymhederant mewn cerbydau am eu yn aml, ac mewn gwŷr meirch am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychasant am Sanct Israel, ac ni cheisiasant yr Arglwydd.
2Etto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chospedigaeth, ac ni chilia ei air, eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynnorthwy y rhai a weithredant anwiredd.
3Yr Aiphtiaid hefyd ddynnion, ac nid Duw, ai meirch yn gig, ac nid yn yspryd: pan estynno’r Arglwydd ei law, yna y syrth y cynnorthwywr, ac y cwymp y cynnorthwyedic, a hwynt oll a gyd-ddarfyddant.
4Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif, megis y rhua hen lew, a’r llew ieuangc ar ei sclyfaeth, yr hwn er galw llawer o bugail yn ei erbyn, nid ddychryn rhac eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrwf hwynt: felly y descyn Arglwydd y lluoedd i ryfela tros fynydd Sion, a thros ei brynn hi.
5Megis adar yn ehedec, felly’r ymascella Arglwydd y lluoedd tros Ierusalem, gan dderbyn a gwared, gan bassio heibio, ac achub.
6Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel
7O herwydd yn y dydd hwnnw, gwrthodant bob vn ei eulynnod arian, ai eulynnod aur, y rhai a wnaeth eich Dwylo eich hun yn bechod i chwi.
8Ac Assur a syrth nid trwy gleddyf gŵr eithr cleddyf nid dynawl ai difa ef: ac efe a ffŷ rhac y cleddyf, ai wŷr ieuaingc a fyddant tann drêth.
9Ac efe aiff iw graig rhac ofn, ai dywysogion a ofnant rhac y faner medd yr Arglwydd, yr hwn y mae ei dân yn Sion, ai ffwrn yn Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
