Psalmau 30 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxx.Exaltabo te Domine.Psalm gân o gyssegriad ty Dafydd.

1 Mawrygaf di ô Arglwydd, canys derchefaist fi: ac ni lawenhêaist fyng-elynnion o’m plegit.

2Arglwydd fy Nuw, llefais arnat: a thithe a’m hiachêaist.

3Arglwydd derchefaist fy enaid o vffern: cedwaist fi yn fyw, oddi wrth y rhai sy yn descyn i’r pwll.

4Cenwch i’r Arglwydd ei sainct ef: a chlodforwch ger bron coffadwriaeth ei sanctaiddrwydd ef.

5Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid, ac yn ei fodlonrwydd bywyd: tros brŷd nawn yr erys ŵylofain, ac erbyn y boreu gorfoledd.

6A mi a ddywedais yn fy llwyddiant, ni’m syflir yn dragywydd.

7O’th daioni Arglwydd y cyfleaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bum helbulus.

8[Yna] arnat ti Arglwydd y llefais: ac a’r Arglwydd yr ymbiliais.

9Pa fudd yn fyng-waed, pan ddescynnwyf i’r ffôs? a glodfora y llwch di? a fynêga efe dy wirionedd?

10Clyw Arglwydd, a thrugarhâ wrthif: Arglwydd bydd gynnorthrwy i mi.

11Troaist fyng-alar yn llawenydd: dattodaist fy sach-wisc a gwregysaist fi â llawenydd.

12Am hynny nhafod a gân i ti, ac ni thau: ô Arglwydd fy Nuw yn dragywyddol i’th glodforaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help