1AC efe a’m hattebodd gan ddywedyd, y Goruchaf a wnaeth y byd hwn i lawer, ond y byd a ddau i ychydig.
2Esdras, dangosaf i ti gyffelybrwydd fel pan ofynech i’r ddaiar, hithe a’th atyb ei bôd yn rhoddi llawer o bridd, o’r hwn y gwneir llestri pridd, ond ychydig o’r hwn y daw ’r aur allan: felly y mae am waith y byd hwn.
3Llawer a wnaethbwyd, ond ychydig a gedwir.
4Yna yr atebais gan ddywedyd, (ô fy enaid) llwngc di synnwyr, ac thraflyngca ddeall:
5Canys cytunaist i wrando, ac ewyllyscar ydwyt i brophwydo: canys nid oes i ti hwy o amser na’r fuchedd hon.
6O Arglwydd, oni roddi genad i’th wâs i erfyn arnat, ar i ti roddi hâd ein calon, ac adeiladu ein deall fel y dêl ffrwyth o honaw, fel y gallo pôb dyn llygredic fyw: pwy a all aros yn lle dyn:
7Canys ti wyt vnic, a ninnau oll ydym vn weithred dy ddwylaw, fel y dywedaist.
8Canys pan lunier y corph yn y groth, a phan roddech yr aelodau, dy greadur a gedwir mewn tân a dwfr, a naw mîs y dioddef dy waith y creadur a luniwyd ynddi.
9Ond y peth sydd yn cadw, a’r peth a gedwir, a ddiangant ill dau: a phan ddelo ’r amser, y groth a gadwed a geidw y pethau a fagwyd ynddi.
10Canys gorchymynnase i’r aelodau, yn enwedic i’r dwyfronau roddi llaeth i ffrwyth y dwyfronnau.
11Fel y gallo y peth a wnaethost, ac a luniaist gael ei fagu dros amser, hyd oni threfnech ef a’th drugaredd.
12Magaist ef drwy dy gyfiawnder, dyscaist ef yn dy gyfraith, a cheryddaist ef a’th ddeall,
13A marwoleithi ef fel dy greadur, a bywhei ef fel dy waith.
14Os destruwi, gan hynny y peth a luniwyd, ac a wnaethbwyd drwy gymmaint o boen wrth dy orchymyn di, hawdd oedd i ti beri cadw y peth a wnaethbwyd.
15Gan hynny Arglwydd mi a ddywedaf, (am bôb dŷn yn gyffredinol ti a wyddost fwy) ond dros dy bobl, am y rhai yr ydwyf yn drist.
16Ac am dy etifeddiaeth, dros y rhai yr ydwyf yn galaru, ac Israel am yr hwn yr ydwyf, drist, ac Iacob er mwyn pwy yr ydwyf yn athrist.
17Am hynny y dechreuaf weddio ger dy fron di drosof fy hun, a thostynt hwy: canys gwelaf ein beiau ni y rhai sy yn y bŷd.
18Ond mi a glywais gyflymdra y barnwr sydd yn dyfod.
19Am hynny gwrando fy lleferydd, a deall fyng-eiriau, a pharablaf ger dy fron di. Dymma ddechreu geiriau Esdras cyn ei escyniad ef:
20O Arglwydd, ty di ’r hwn ydwyt yn presswylio yn y byd yr hwn wyt o’r vchelder yn gweled pethau yn y nefoedd ac yn yr awyr:
21Eisteddle ’r hwn ni’s gellir ei phrisio, ai ogoniant ni’s gellir moi gynnwys, o flaen yr hwn y mae ’r lluoedd o angelion yn sefyll dan grynu,
22(Cadwedigaeth y rhai a droir mewn gwynt a thân) yr hwn y mae ei eiriau yn wîr, ai orchymynnion yn ddianwadal, ai ddeddfau yn ofnadwy,
23Ai ôlwg sydd yn sychu ’r dyfnder, ai ddicllonedd ef sydd yn gwneuthur i’r mynyddoedd doddi, ai wirionedd sydd yn dwyn testiolaeth:
24O gwrando weddi dy wâs, ac ystyria a’th glustiau ddeisyfiad dy greadur,
25Canys tra fyddwyf byw y llefaraf, a thra medrwyf ddeall yr atebaf.
26Na cedrych ar bechodau dy bobl, ond ar y rhai sy yn dy wasanaethu mewn gwirionedd.
27Na phrissia ar ddrwg amcannion y cenhedloedd: ond ar ddymuniad y rhai sy yn cadw dy destiolaethau o ewyllys eu calonnau.
28Na feddwl am y rhai a rodiodd yn ffuantus ger dy fronn di, ond meddwl am y rhai yn ôl dy ewyllys a adnabuant dy ofn.
29Nac ewyllysia ddifetha y rhai a ymddugasant yn anifeiliaidd: ond edrych ar y rhai a ddyscasant dy gyfraith yn berffaith.
30Na chymmer ddigofaint wrth y rhai sydd waeth nag anifeiliaid: ond câr di hwynt a ymddyriedant yn wastadol yn dy gyfiawnder a’th ogoniant.
31Canys yr vn clefyd sydd arnom ni a’n tadau, ac o’n plegit ni bechaduriaid y gelwir di yn drugarog.
32Canys os trugarhei wrthym, fe a’th elwir yn drugarog wrthym ni y rhai sy heb weithredoedd cyfiawnder.
33Canys y rhai cyflawn a’r a roddasant yng-hyd lawer o weithredoedd da, a dderbyniant oi gweithredoedd wobr.
34Ond pa beth yw dŷn pan ddigiech wrtho ef: ne pa beth yw ’r genhedlaeth lygredig farwol hon, pan fyddech morr chwerw wrthi hi:
35Canys yn wîr, nid oes vn ym mhlith y rhai a aned heb wneuthur drygioni, ac nid oes vn ym mhlith y rhai cyfiawn heb wneuthur ar fai.
36Canys am hyn ô Arglwydd, canmholir dy gyfiawnder a’th ddaion di os byddi drugarog wrth y rhai nid ydynt gyfoethogion ô weithredoedd di.
37Yna i’m hatebodd gan ddywedyd, peth a ddywedaist yn dda, a hynny a gyflawnir yn ôl dy eiriau.
38Canys yn wir, nid ystyriaf weithredoedd y rhai a bechasant cyn marwolaeth, a chyn barnedigaeth a destruw:
39Ond llawenychaf am weithredoedd a myddyliau y rhai cyfiawn, a myddyliaf hefyd y pererindod, yr iechydwriaeth, ar gwobr a gânt.
40Fel y dywedais yn awr, felly y digwydd.
41Canys fel y mae ’r llafurwr yn hau llawer o hâd ar y ddaiar, ac yn plannu llawer o goed, ac etto nid yw y peth a hauwyd ac a blannwyd, bôb amser yn ddiogel, nac yn gwreiddio: felly y mae am y bobl y rhai a hauwyd yn y byd, ni byddant oll gadwedic.
42Yna yr atebais ac y dywedais, os cefais ras, gâd i’m ddywedyd.
43Fel y diflanna hâd y llafurwr, oni daw efe i fynu, a derbyn dy law di yn ei amfer cyfaddas, ne os daw gormod glaw arno, ai lygru ef:
44Felly hefyd y derfydd am ddyn, yr hwn a wnaeth dy ddwylaw di, ac sydd debyg i’th ddelw di, ac am ei fod yn debyg i ti er mwyn yr hwn y gwnaethost bôb peth, a chyffelybaist ef i hâd y llafur-wr.
45Na fydd ddigllon wrthym ô Arglwydd, ond arbed dy bobl, a chymmer drugaredd ar dy etifeddiaeth: canys trugarog fyddi wrth dy greadur.
46Yna efe a’m hatebodd gan ddywedyd, y pethau cydrychol sy i’r rhai cydrychol, a phethau ar ddyfod sydd i’r rhai sydd yn dyfod.
47Canys mae llawer i ti yn ôl etto, fel y gallech garu fyng-hreadur yn fwy na myfi: Ond mi a nescais lawer gwaith attat ti ac atto yntef, ond ni neseais erioed at yr anghyfiawn.
48Ac yn hyn hefyd yr ydwyt yn rhyfedd ger bron y Goruchaf,
49Am i ti dy vfuddhau dy hun fel yr oedd weddus i ti, ac ni’s tybiaist dy hun yn deilwng i heuddu clôd ym mhlith y rhai cyfiawn.
50Canys llawer o drueni mawr sydd i’r rhai a eris yn y byd yn y pen diwethaf, am iddynt rodio mewn balchder mawr.
51Ond dysc di drosot ty hun, ac edrych am ganmholiaeth y rhai tebyg i ti.
52Canys i chwychwi yr agorwyd paradwys, plānwyd pren y bywyd, yr amser a ddaw a ddarparwyd, helaethrwydd sydd barod, y ddinas a gorphwysora a ordeniwyd a adeiladwyd i chwi îe a doethineb a daioni perffaith.
53Gwreiddin drygioni a gadwyd oddi wrthych, gwendid a llwgr a guddiwyd oddi wrthychi a llygrydigaeth a ffy i vffern tan angof.
54Galar a aeth ymmaith, a thryssor tragwyddoldeb a ddangosir yn y diwedd.
55Ac am hynny nac ymofyn mwy am rifedi y rhai colledig.
56Canys pan gawsāt rydd-dit, dibrissiasant y Goruchaf diystyrasant ei gyfraith, a gwrthodasant ei ffyrdd ef.
57Heb law hynny, sathrasant ei rai cyfiawn ef.
58A dywedasant yn eu calonnau, nid oes Dduw, a hynny o’r gwir waith ddioddef, canys meirw fyddant.
59Canys fel y darparwyd i chwi y pethau a ddywedais, felly y darparwyd iddynt hwythau syched a llafur: canys nid ewyllys Duw oedd i ddyn fethu.
60Ond y rhai a wnaethbwyd a halogasant enw y neb ai gwnaeth hwy, ac ydynt anniolchgar i’r hwn a ddarparodd iddynt fywyd.
61Am hynny y mae fy marn i ger-llaw.
62Ni ddangosais i y pethau hyn i bawb ond i ychydic, hynny yw i ti, ac i’th gyffelyb: yna yr atebais gan ddywedyd,
63Wele, Arglwydd, yn awr y dangosaist i mi y rhifedi arwyddion, y rhai a ddechreui eu gwneuthur yn yr amser diwethaf: ond ni ddangosaist i mi pa amser y gwnait hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.