Iob 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXV.Nad yw duwioldeb neu anuwioldeb yn dda, nac yn drwg i Dduw, onid i ddyn. 13 Ac na wrendu Duw ar bechadur.

1Ac Elihu a lefarodd, ac a ddywedodd:

2A gyfrifaist di yn llê iniondeb, ddywedyd o honot, fyng-hyfiawnder i yn fwy na Duw?

3Os gofynni, pa lês a wnaiff i ti pa beth a ennillaf oddi wrth fy mhechod?

4Myfi a attebaf i ti eiriau, ac i’th gyfeillion gyd a thi.

5Edrych ar y nefoedd a gwêl: ac edrych ar y cwmylau ydynt vwch na thi.

6Os pechi, pa a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa a wnei di iddo ef?

7Os cyfiawn fyddi, pa beth a roddi di iddo ef? neu pa beth a gymmer efe o’th law di?

8I ŵr fel ty di dy annuwioldeb: ac i fab dŷn dy gyfiawnder a wna

9Hwynt a wnant wrth fawredd i’r gorthrymmedic lefain: hwy a floeddiant rhac braich gwŷr mawr.

10Ond ni ddywed pa lê y mae Duw’r hwn a’m gwnaeth i? yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nôs

11Yr hwn sydd yn ein discu yn fwy nag anifeiliaid y ddaiar: ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.

12Yna hwy a waeddant rhac balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.

13Diau na wrendu Duw oferedd: ac nad edrych yr Holl-alluoc arno.

14Er dywedyd o honot nid edrychi di ar hyn: barn ger ei fron ef, disgwil di wrtho ef.

15Ac yn awr am nad ymwelodd ei ddigofaint ef, ac na fynnodd efe ŵybod y dirfawr amldra

16Am hynny y llêda Iob ei safn oferedd: ac yr amlhâ efe eiriau heb ŵybodaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help